Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unodd a'r eglwys Ymneillduol yn Mhenrhiw, yn agos i le ei enedigaeth. Yr oedd yr eglwys hono dan ofal gweinidogaethol yr enwog David Davies, o Gastellhy wel. Rhyw fath o Arminiaid, Pelagiaid, neu Ariaid, oeddynt o ran eu golygiadau crefyddol. Mae yn dra thebygol fod y rhan fwyaf o'r aelodau yn ddynion lled wybodus, ac yn fedrus fel dadleuwyr ar byngciau crefyddol; ond nid ymddengys fod nemawr o'r teimladau duwiolfrydig hyny yn eu meddianu, a ystyrid yn hanfodol i wir grefydd gan ddynion o olygiadau efengylaidd. Darfu i'r hyglod Christmas Evans ymuno a'r eglwys yn Mhenrhiw tua'r un amser a David Davies, ac ymadawodd y ddau a hi yn dra buan; aeth y naill at yr Annibynwyr, a'r llall at y Bedyddwyr, a buont am flynyddau lawer yn heuliau dysglaer yn ffurfafenau y ddau enwad.

Dywedir na fu David Davies ond un waith yn cyfranogi o swper yr Arglwydd yn Mhenrhiw. Trwy rhyw foddion anhysbys i ni, gweithiodd Ysbryd yr Arglwydd ef i'r fath wasgfa am ei gyflwr fel pechadur colledig, nes y bu i'w reswm fod ar fin cael ei ddymchwelyd. Yn ofer y buasai yn troi at neb o'i gydaelodau yn Mhenrhiw am gysur a chyfarwyddyd yn ngwyneb ei deimladau trallodus. Pe buasai pwt o ddadl ar ryw bwngc athrawiaethol, neu ymgomiad ar hynafiaethau, daearyddiaeth neu feirniadaeth ysgrythyrol, yn gwneyd y tro, gallasai gael digon o hyny yn eu plith hwy; ond yr oedd yn rhaid iddo droi i rywle arall i ymofyn olew gras i dawelu loesion cydwybod archolledig. Yr oedd hwnw yn beth hollol ddyeithr iddynt hwy. Yn y cyfamser, pan y teimlai ei hun ar fin dystryw, daeth i adnabyddiaeth a rhai o aelodau yr hen eglwys Annibynol yn Mhencadair, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal Mr. William Perkins. Aeth yno, a chlywodd eiriau a fendithiwyd i dawelu ei fynwes derfysglyd; daeth i fwynhad o dangnefedd yr efengyl, a chafodd ei dderbyn yn aelod o'r eglwys hono gan Mr. Perkins.

Nid hir y bu David Davies wedi ei dderbyn yn Mhencadair, cyn i'w wybodaeth grefyddol, ei brofiad nefolaidd, a'i ddoniau toddedig mewn gweddi, arwain y gweinidog a'r eglwys i'w anog i arfer ei ddoniau fel pregethwr. Cydsyniodd yntau a'r anogaeth a gafodd gan yr eglwys, a thraddododd ei bregeth gyntaf mewn anedd-dy bychan yn mhlwyf Llangeler, yr hwn a breswylid gan ddilledydd; ac y mae y ffaith yn deilwng o'i chofnodi, mai yn yr un anedd-dy, ac o fewn yr un wythnos, y traddododd Christmas Evans ei bregeth gyntaf. Mae yn ymddangos i hyn gymeryd lle yn y flwyddyn 1784 neu 1785. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, tynodd ei ddoniau digyffelyb sylw neillduol, a chyrchai torfeydd lluosog i'w wrandaw pa le bynag y cyhoeddid ef i bregethu. Ar ol pregethu yn Mhencadair a'r eglwysi cymydogaethol am rai blynyddau gyda derbyniad a chymeradwyaeth neillduol, cafodd ei urddo yn gydweinidog a Mr. John Lewis, yn y Drefach, gerllaw Llangeler, yn y flwyddyn 1790. Mae yn naturiol i'r gofyniad ymgodi yn meddwl y darllenydd yn y fan yma, "Pa fodd y goddefwyd i ddyn o ddoniau iraidd David Davies fod am o bump i chwe' blynedd heb ei urddo wedi iddo ddechreu pregethu, ac yn enwedig pryd yr oedd gweinidogion cymeradwy mor brin, fel yr oedd yn rhaid i bob un gymeryd gofal amryw eglwysi gwahanol ?" Mewn trefn i ateb y gofyniad hwn, mae yn ofynol ystyried agwedd yr enwad Annibynol yn y dyddiau hyny, yn nghyd ag amgylchiadau teuluol Mr. Davies. Nid oedd Ariaeth noeth hyd yn hyn wedi tori allan yn yr eglwysi a elwid yn Bresbyteraidd ac felly ni chyfrifid y cynnulleidfaoedd hyny oeddynt wedi