Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWilliam Dafydd, yn nghyd ag amryw eraill a ymadawsant a'r eglwys hon pan ddechreuwyd y gwahanol ganghenau. Cawn etto achlysur i grybwyll eu henwau hwy yn hanes yr eglwysi hyny.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn mhentref Llangeler, sir Gaerfyrddin, Mehefin 12fed, 1763. Cadwai ei rieni dafarndy y pentref, a chyfrifid hwy yn deulu parchus yn mysg eu cymydogion, ond ymddenys fod yr oll o'u crefydd yn gynwysedig mewn myned yn achlysurol i eglwys y plwyf. Gan nad oeddynt yn ddynion cyfoethog, nac yn ddifrifol fel crefyddwyr, ni chafodd eu mab fwy o fanteision addysg yn ei flynyddau boreuol nag a allasai gael yn yr ysgol ddyddiol a gedwid yn mhentref bychan Llangeler. Nid yw agwedd yr ysgoldy sydd yn y pentref hwnw yn bresenol yn dangos fod yno yn awr fawr o lewyrch ar yr ysgol, a diau ei bod yn waelach gan' mlynedd yn ol nag yn awr; felly nis gallasai David ieuangc gael dim amgen nag addysg o nodwedd dra chyffredin. Pa fodd bynag, dysgodd ddarllen ac ysgrifenu ychydig, ac felly cafodd ddrws gwybodaeth i raddau yn agored o'i flaen. I feddwl treiddgar a bywiog, gwna ychydig fanteision lawer o les, tra na wna meddwl diog a diegni nemawr o ddefnydd o'r manteision rhagoraf.

Er cael ei fagu mewn tafarndy, ac mewn pentref lled ddigrefydd, ymddengys i'r llangc David, mewn rhyw fodd anhysbys ini, ddyfod yn ieuangc iawn i deimlo argraffiadau crefyddol ar ei feddwl. Mae traddodiad yn ei deulu, y byddai er yn blentyn bychan yn arfer yn wastad ofyn bendith ar ei fwyd, pwy bynag fyddai yn ei weled a'i glywed; a dywedir y byddai ei ddull difrifol a'i eiriau pwrpasol yn taro y dynion a eisteddent yn y tŷ i yfed a syndod, ac y byddent yn wastad pan welent y plentyn yn nesu at y bwrdd yn dystewi ac yn tynu ymaith eu hetiau. Dywedir hefyd i'w dad ei glywed unwaith dan gysgod llwyn yn yr ardd yn gweddio dros ei rieni, ac i hyny adael cryn lawer o argraff ar ei feddwl. Nis gwyddom pa cyhyd y parhaodd y teimladau crefyddol hyn yn meddwl y llangc, ond y mae yn dra thebygol iddynt wanychu i raddau mawr gyda ei fod yn tyfu i fyny i oedran gwr, ac yn myned yn ddeiliad y profedigaethau y mae ieuengetyd yn agored iddynt.

Yn yr ugeinfed flwyddyn o'i oed aeth i'r sefyllfa briodasol. Enw gwraig ei ieuengctyd oedd Jane Evans, yr hon oedd enedigol o'r un gymydogaeth ag yntau. Yr oedd hi tua blwyddyn yn ieuengach na'i phriod. Er ieuenged y priododd, hi a drodd allan yn wraig werthfawr a rhinweddol, ac yn un o'r mamau rhagoraf. Y mae miloedd o ieuengctyd Cymru, a allasent ddringo i safleoedd o ddefnyddioldeb ac urddas mewn cymdeithas, wedi gosod eu hunain dan y dwfr am eu hoes wrth briodi yn rhy ieuangc; a diau mai felly y buasai gyda David Davies a'i briod, oni buasai ei fod ef wedi ei gynysgaeddu a galluoedd digen nerthol i esgyn trwy bob anhawsderau, nes cyrhaedd safle amlwg yn nheml enwogrwydd. Rhyfyg fyddai i ddynion ieuaingc dybied y gallant hwythau lwyddo yr un modd, oblegid ychydig mewn oes a feddant y fath dalentau ag a feddai ef.

Nid oes genym un hanes am ei deimladau crefyddol o'r pryd yr oedd yn blentyn lled ieuangc nes ei fod yn ugain oed. Wedi cyrhaedd yr oed hwnw daeth ar ei feddwl i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd, ac ym-