Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

&c. Rhwng y symiau a gasglwyd yn y cyfarfodydd agoriadol, a'r hyn a gasglwyd gan y gynnulleidfa yn flaenorol, gwnaed yn agos i 600p. rhwng y cwbl, gan adael rhywbeth fel 1,500p. o ddyled, yr hon modd bynag a doddir yn fuan trwy ymdrech y Dr. Rees, a'i gynnulleidfa fawr. Rhwydd hynt iddynt yn yr ymdrech. Gwna les mawr iddynt."

Saith gant o bunau yw y ddyled sydd yn aros yn awr, ac yn y swm hwn y mae dau cant o ddyled y capel yn Fabian's Bay, a gymerwyd gan eglwys Ebenezer arni ei hun er cynorthwyo yr achos ieuangc hwnw. Gellid talu y cwbl mewn ychydig wythnosau pe yr ymgymerid a hyny. Rhif aelodau yr eglwys yn bresenol yw pum' cant a phed war-ar-ddeg-ar-hugain, ac er's blynyddau bellach, y mae cyfanswm y casgliadau at bob achos rhwng pump a chwe' chant punt yn y flwyddyn.

Mae yr eglwys hon, er nad yw nemawr dros driugain-a-deg oed, yn fam i amryw o eglwysi yn y gymydogaeth: megis Heolycastell, Canaan, Capel Sion, Pentre-estyll, Cwmbwrla, y Sandfields, a Walter-road. Er fod cynifer o ganghenau wedi myned allan o honi, mae yr hen fam etto yn ymddangos yn gryf ac iachus. Ag ystyried lluosogrwydd yr eglwys, nid yw y nifer a gyfodwyd i bregethu ynddi ond ychydig mewn cymhariaeth. Y rhai canlynol yw yr unig rai y cawsom ni eu henwau.

David Williams, mab yr hen swyddwr enwog Peter Williams. Ganwyd ef Ionawr 27ain, 1804. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig Medi 7fed, 1819, gan Mr. T. Davies. Dechreuodd bregethu yn mis Mawrth, 1823. Aeth i athrofa Caerfyrddin yn 1824 neu 1825, ac urddwyd ef yn Forest Green, sir Gaerloew, yn 1829. Symudodd oddiyno i Kingswood, yn 1832; i Kineton, yn 1843; i Eatington, yn 1845; i Welford, yn 1855, ac i Wootton Bassett, yn 1860, lle y bu farw Awst 27ain, 1868. Yr oedd yn ddyn da iawn, ac yn bregethwr rhagorol. Perchid ef yn fawr yn mhob un o'r lleoedd y bu ynddynt.

David Thomas. Gweler ei hanes yn nglyn a hanes Bethel, Llansamlet, y bu am ychydig amser yn weinidog.

John Thomas. Y mae er's blynyddau bellach yn weinidog defnyddiol yn America.

Daniel Thomas. Y mae yntau er's blynyddau wedi ymfudo i America.

John Thomas, sydd un o ddiaconiaid yr eglwys, ac yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn.

David John, gweinidog eglwys Booth Street, Manchester.

David Davies, gweinidog yr hen gapel, Llanybri.

John Mathews. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu.

Thomas Thomas, a ddechreuodd bregethu yma, ond a symudodd i ogledd Lloegr.

Yn yr eglwys hon y magwyd Mr. Griffith John, y Cenhadwr, ac yma y derbyniwyd ef yn aelod pan nad oedd ond wyth mlwydd oed; ac er mai yn Onllwyn y dechreuodd bregethu, etto Ebenezer a gyfrifir ganddo fel ei fam-eglwys. Yma yr urddwyd ef cyn ei fynediad allan i China, ar y 6ed o Ebrill, 1855. Mae y safle uchel y mae wedi ei gyrhaedd fel Cenhadwr gweithgar, galluog, a llwyddianus, yn anrhydedd, nid yn unig i'r eglwys a'i magodd, ond hefyd i'r genedl yn gyffredinol.

Mae nifer o ddynion rhagorol am eu duwioldeb, eu ffyddlondeb, a'u dylanwad fel crefyddwyr wedi bod yn perthyn i'r achos hwn o'i ddechreuad, y rhai y cedwir eu henwau mewn coffadwriaeth barchus; megis Peter Williams, Daniel Daniel, Dafydd Hugh, Dafydd Rees, Dafydd Harry