Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heolycastell, i'r gynnulleidfa yn gyffredinol. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon trwy weddi gan y Meistri Griffiths, Llanharan; Lewis, Aberhonddu; Watkins, Canaan, a Williams, Ysgetty. Bu Mr. Jacob, yn llafurio yma gyda diwydrwydd a ffyddlondeb canmoladwy hyd Awst, 1861, pryd y derbyniodd alwad i Ebley, sir Gaerloew, lle y mae hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1856, gan fod y llywodraeth wedi gwahardd claddu ychwaneg wrth y capel, penderfynodd yr eglwys adeiladu ysgoldy helaeth dros y beddau. Costiodd yr adeilad cyfleus hwn 400p., yr hyn a dalodd y gynnulleidfa yn ddioed. Cynnaliwyd cyfarfod agoriad yr ysgoldy ddydd Nadolig, 1856, pryd y bu tua dwy fil o bersonau yn yfed te ar yr achlysur. Yn yr ysgoldy hwn y cedwir yr Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd wythnosol yr eglwys. Yn Mawrth, 1862, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Rees, Cendl, y gweinidog presenol. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Ebrill. Yn nechreu Gorphenaf, yr un flwyddyn, tynwyd yr hen gapel i lawr, a dechreuwyd adeiladu yr un presenol, yr hwn a orphenwyd erbyn dechreu Mehefin, 1863. Ymddangosodd yr hanes canlynol am yr agoriad yn y Diwygiwr am Gorphenaf, 1863:-"Ailadeiladwyd y capel hwn yn ddiweddar, ac yn awr y mae yn un o'r capeli mwyaf a phrydferthaf yn y Dywysogaeth. Mesura 70 troedfedd o hyd, 46 o led, a 32 o uchder i'r nenfwd. Y mae yr oriel yn rhedeg dros dair rhan o bedair o hono, ac wedi ei gyfleu yn y fath fodd, fel y gall pob dyn o bob_congl o honi weled y pregethwr ar yr esgynlawr yn hollol ddidrafferth. Tu cefn i'r esgynlawr y mae cofadail prydferth, o fynor gwyn, wedi ei osod i fyny ar y mur, er coffadwriaeth am Mr. David Davies, gweinidog cyntaf Ebenezer, a thrwy offerynoliaeth yr hwn y dechreuwyd yr achos yno, yn gystal ag yn y dref. Y mae dyweyd mai Mr. T. Thomas, Glandwr, dynodd y cynllun, yn ddigon o warantiad am dlysni y capel. Yr adeiladwyr oeddynt Meistri Thomas, Watkins, a Jenkins, Abertawy, y rhai a gyflawnasant eu gwaith yn anrhydeddus. Costiodd yr adeilad 2,000p. neu 2,100p., heblaw defnyddiau yr hen gapel. Daeth yn barod erbyn diwedd Mai, ac yn Mehefin, cynaliwyd tri o gyfarfodydd neillduol mewn cysylltiad a'r agoriad. Yr oedd y cyfarfod cyntaf, yr hwn a gynaliwyd Mehefin yr 2il, yn gwbl Seisnig, pryd y disgwylid Dr. Brown, o Cheltenham, i bregethu; ond oblegid afiechyd, methodd, a daeth Mr. J. Whiting, o Stroud, yn ei le, a phregethodd ddwy bregeth hynod o alluog, a chymerwyd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd gan Meistri W. Jones, Castle Street; J. M. Evans, Newton; a J. Whitby, Burrows. Casglwyd yn y ddau gyfarfod 106p.

"Mehefin 6ed a'r 7 fed, cynaliwyd cyfarfodydd Cymreig, pryd y pregethodd y Meistri J. Roberts, Castellnedd; J. Davies, Cwmaman; T. Thomas, Glandwr; W. Morgan, Caerfyrddin, a J. Mathews, Castellnedd.

"Mehefin 15fed a'r 16eg, cynaliwyd y gyfres olaf o gyfarfodydd mewn cysylltiad a'r agoriad; pryd y pregethwyd am 2 y dydd cyntaf gan y Meistri E. Evans, Skiwen, ac R. Thomas, Bangor. Am haner awr wedi 6, pregethwyd gan y Meistri J. Griffiths, Llanymddyfri; J. Evans, Capel Sion, a P. Griffiths, Alltwen. Am 7 yr ail ddydd, pregethodd y Meistri R. Lewis, Ty'nycoed, a Thomas, Bryn. Am 10, y Meistri E. Jacob, Ebley, ac R. Thomas. Am 2, y Meistri T. Davies, Siloah, Llanelli, a J. Thomas, Liverpool. Am haner awr wedi 6, y Meistri J. Thomas, ac R. Thomas. Cymerwyd rhan hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Meistri D. Rees, Llanelli; J. Rees, Canaan; T. Davies, Llandilo; R. Williams, Bryntroedgam; J. Davies, Capel Sion; L. Davies, Sketty: W. Davies, Aberhonddu,