Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Eglwys Evan 18p. Yr oedd y cwbl a anfonwyd i'r fam-gymdeithas o'r cyfarfod hwn yn 500p. Oddiar y cyfarfodydd enwog hyn y mae eglwysi Cymru wedi anfon degau o filoedd o bunau i Gymdeithas Genhadol Llundain, ac mewn ychwanegiad at hyny, wedi anfon allan amryw o'u gwyr ieuaingc i'r maes cenhadol, y rhai sydd wedi troi allan yn genhadon enwog a llwyddianus iawn, ac yn mysg yr enwocaf o ba rai y mae Mr. Griffith John, un o blant eglwys Ebenezer.

Bu farw Mr. David Davies, yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, yn Rhagfyr, 1816, er galar dirfawr i bobl ei ofal, ac i Gymru yn gyffredinol. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Davies, rhoddodd yr eglwysi yn Ebenezer a'r Ysgetty alwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr yn athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef Ebrill 23ain, 1818. Dechreuwyd cyfarfod yr urddiad trwy weddi gan Mr. T. Bowen, Castellnedd; pregethwyd ar natur eglwys, a gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr. J. Davies, Alltwen; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Powell, Aberhonddu; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin, oddiwrth Mat. xxi. 28.; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 1 Tim. i. 17., a diweddwyd trwy weddi gan Mr. T. Luke, Abertawy. Pregethwyd yn yr hwyr, ac yn hwyr y dydd blaenorol, gan Meistri H. Williams, Llanelli; J. Williams, Ty'ny coed; J. Jones, Talgarth, a J. Rowlands, Llanybri. Bu Mr. T. Davies am rai blynyddau yn boblogaidd a rhyfeddol o barchus, nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond hefyd gan y wlad yn gyffredinol. Gydag amser, pa fodd bynag, o herwydd rhyw wendidau perthynol iddo, bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef fel eu gweinidog, etto parhaodd canoedd yn y dref a'r cyffiniau yn eu teimlad o anwyldeb tuag ato er ei holl wendidau. Yn 1826, helaethwyd y capel trwy ychwanegu un-droedfedd-ar-bymtheg at ei led, fel yr oedd yn 50 troedfedd wrth 46 oddi fewn i'r muriau. Cynnaliwyd cyfarfodydd agoriad ar ol yr helaethiad hwn, Hydref 25ain a'r 26ain, 1826. Dechreuwyd y nos gyntaf gan Mr. D. Davies, Sardis, a phregethodd y Meistri L. Powell, Mynyddbach, Llandilo, a W. Jones, Penybont ar-ogwy. Am haner awr wedi deg yr ail ddydd, gweddiodd Mr. S. Price, Llanedi, a phregethodd y Meistri D. Davies, Sardis, Brittan, Heolycastell, Abertawy, yn Saesonaeg, a D. Peter, Caerfyrddin. Yn y prydnawn, gweddiodd Mr. H. Herbert, Drefnewydd, a phregethodd y Meistri J. Williams, Ty'nycoed, a J. Rowlands, Cwmllynfell. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. J. Davies, Castellnedd, a phregethodd y Meistri Jenkins, Llangeitho, (Trefynydd,) a D. Peter, Caerfyrddin. Bu y capel ar ol ei helaethiad yn anghysurus o lawn am tua phymtheng mlynedd, ond wedi adeiladu Canaan, Capel Sion, Pentre-estyll, a Zoar, teneuodd y gynnulleidfa i raddau. Yn Mehefin, 1842, darfu cysylltiad Mr. Thomas Davies a'r eglwys hon fel ei gweinidog, ac yn niwedd yr un flwyddyn, rhoddwyd galwad i Mr. Elias Jacob, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd yma Chwefror laf a'r 2il, 1843. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn: Y nos gyntaf pregethodd y Meistri J. Evans, Crwys, a W. Morris, Glandwr. Am ddeg, dranoeth, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli; gofynwyd y gofyniadau gan Mr. Evans, Crwys; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Jones, Heolycastell, a phregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, un o athrawon yr athrofa yn Aberhonddu. Am ddau, pregethodd Mr. E. Lewis, athrofa Aberhonddu, a Mr. D. Evans, Castellnedd. Am chwech, pregethodd Mr. W. Griffiths, Llanharan, ar ddyledswydd yr eglwys, a Mr. Jones,