Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi i Mr. Davies roddi y Mynyddbach a Threforis i fyny, a chyfyngu ei lafur i Ebenezer a'r Ysgetty, llwyddodd i sefydlu eglwys luosog a chref iawn yn mhob ystyr yn y dref. Mae yn debyg i'r eglwys gael ei chyfan soddi yn eglwys hollol annibynol ar y fam-eglwys yn y Mynyddbach cyr gynted ag yr agorwyd y capel yn 1804, os nad cyn hyny, ond nid oe genym unrhyw hanes ysgrifenedig nac argraffedig am ei chorpholiad fer eglwys Annibynol. Bendithiwyd yr eglwys hon, fel eglwysi eraill yn y gymydogaeth, a diwygiad grymus iawn yn 1807, pryd yr ychwanegwyd ugeiniau at yr aelodau, a pharhaodd pethau mewn agwedd nodedig o lewyrchus tra y bu Mr. Davies byw. Yr oedd Mr. Davies wedi llenwi ei bobl ag ysbryd cenhadol o'r pryd y daethai gyntaf i'w mysg, ac y mae yr ysbryd hwnw yn parhau i raddau dymunol yn eglwys Ebenezer hyd y dydd hwn. Yma y cynhaliwyd y cyfarfod cenhadol cyntaf yn Nghymru. Ar yr wythnos gyntaf o Awst, 1814, y cynhaliwyd y cyfarfod dyddorol hwn. Bore dydd Mawrth yn nghapel Ebenezer, gweddiwyd yn Gymraeg a Saesonaeg gan Meistri Davies, Browyr, a Smith Appledore, a phregethodd Mr. Jones, Islington, yn Saesonaeg, a Mr. Jones, Trelech, yn Gymraeg. Am dri o'r gloch, pregethodd Mr. Thomas, Penmain, yn Gymraeg. Am chwech, gweddiodd Mr. Warlow, Milford, a phregethodd Mr. Luke, Hwlffordd, yn Saesonaeg, a Mr. Hughes, Groeswen, yn Gymraeg, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. Harris, gweinidog y Bedyddwyr yn Abertawy. Dydd Mercher, am saith y bore, pregethodd Mr. Skeel, Trefgarn, yn Gymraeg. Am ddeg, pregethodd Mr. Williams, Stroud, yn Saesonaeg, yn Eglwys Efan, a Mr. Jones, Talgarth, yn Gymraeg, yn Ebenezer. Am dri, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn neuadd y dref er ffurfio Cangen Gynorthwyol Deheudir Cymru o Gymdeithas Genhadol Llundain. Llywyddwyd y cyfarfod gan L. W. Dillwyn, Ysw. Dewiswyd Thomas Morris, Ysw., Caerfyrddin, yn Drysorydd, a Meistri Peter a Charles, Caerfyrddin, yn Ysgrifenyddion, a phenderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynnal yn Nghaerfyrddin. Gan mai yn yr iaith Saesonaeg y dygid y cyfarfod cyhoeddus yn mlaen, traddodwyd dwy bregeth i'r Cymry uniaith yn Ebenezer ar yr un amser, gan Mri. H. Williams, Llanelli, ac S. Davies, Maendy. Am chwech, pregethodd Mr. Thorp, Caerodor, yn Saesonaeg, a Mr. Jones, Pontypool, yn Gymraeg. Am saith bore ddydd Iau, pregethodd Mr. Powell, Aberhonddu. Am ddeg, pregethodd Mr. Davies, Sardis, ac ar ol y bregeth, darllenwyd yn Gymraeg y penderfyniadau a basiwyd yn y cyfarfod cyhoeddus y dydd o'r blaen. Am dri yn y prydnawn, cynnaliwyd cyfarfod cymundeb yn Ebenezer, pryd yr oedd llawer o ganoedd yn cydgymuno. Llywyddwyd wrth y bwrdd gan Mr. Davies, Alltwen, a Mr. Mathew Wilks, Llundain; ac anerchwyd y cymunwyr gan Mr. Thorp, a Mr. Peter. Gan fod y dorf yn aruthrol o fawr, tynwyd ymaith ffenestri y capel, a gosodwyd i fyny esgynlawr i'r llefarwyr i sefyll arno, fel y gallasai y torfeydd yn y tŷ, a thu allan eu clywed. Yr oedd rhyw deimlad nodedig o nefolaidd yn yr holl gyfarfodydd, ond yn enwedigol y cyfarfod cymundeb. Er. fod y cyfarfodydd wedi cael eu cadw yn ddiorphwys am dri diwrnod, nid oedd y lluaws yn foddion ymadael heb gael dwy bregeth drachefn yn yr hwyr, ac felly pregethodd Mr. Mathew Wilks, a Mr. George, Brynberian. Daeth pob un o'r gweinidogion gwyddfodol a chasgliadau oddiwrth eu heglwysi i'r cyfarfod hwn, a chasglwyd yn ystod y cyfarfodydd yn Ebenezer 80p. Os. 4c.; yn y Burrows 50p. 15s.; ac