Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ond un capel Cymreig yn yr holl dref, sef capel y Bedyddwyr, yr hwn ni chynwysai ar ei eithaf dros dri chant a haner o bobl. Yr oedd y glowyr a'r gweithwyr eraill yn y dref a'r cyffiniau yn debycach i farbariaid nag i breswylwyr gwlad wareiddiedig. Tystiai amryw hen bobl oedd yn ddiweddar yn fyw, ei bod yn berygl bywyd i gerdded ystrydoedd y dref a'r pentrefi cyfagos ar nos Sadwrn y cyfrif," am y byddai heidiau o ddyhirod meddw a chreulon yn wastad yn barod i ymosod ar y neb a elai yn agos atynt. Byddent hefyd yn arfer ymosod ar dai yn y nos, gan daflu ceryg mawrion atynt, nes dryllio y drysau a'r ffenestri, a phrin y medrant siarad gair heb fytheirio allan regfeydd a chableddau. Peth anghyffredin iawn gynt, yn yr ardaloedd hyn, fyddai cael gweithiwr yn proffesu crefydd. Gwnelid yr ychydig eglwysi, o bob enwad yn y gymydogaeth, i fyny agos yn hollol o amaethwyr a masnachwyr. Yr oedd y dosbarth gweithiol agos oll yn meddiant y diafol, ac yn ei wasanaethu hyd eithaf eu gallu. Pan ddaeth Mr. Davies i'r gymydogaeth, cymerodd cyfnewidiad buan a dymunol le. Cyffrodd ei ddoniau digyffelyb sylw y lluaws; aeth y Mynyddbach yn fuan yn ail i Langeitho, cyrchai canoedd o bell ac agos yno ar y Sabbothau i'w wrandaw, a chafodd llawer o flaenoriaid gwasanaeth Satan eu gwneyd yn wasanaethwyr ffyddlon i Iesu Grist. Er i ganoedd fyw a marw heb eu dychwelyd at yr Arglwydd, etto bu ei weinidogaeth nerthol yn foddion i gyfodi crefydd i gymaint o sylw a dylanwad, nes darostwng i raddau helaeth yr anfoesoldeb a'r barbareidd-dra gwaradwyddus a ffynant yn mysg gweithwyr y dref a'r gymydogaeth. Ennillodd gymaint o ddylanwad dros y werin mewn ychydig o flynyddau, nes y byddai ei ymddangosiad yn ddigon i dawelu yr annuwiolion mwyaf rhyfygus. Cymerer y ffeithiau canlynol fel engreifftiau:-Yr oedd amryw gigwyr o gymydogaeth Cwmaman a Llangiwc yn arfer cadw marchnad Abertawy. Byddai rhai o honynt bob nos Sadwrn, ar ol gorphen gwerthu eu cig, yn myned i'r tafarndai, ac yn yfed yno hyd foreu y Sabboth, pryd y cychwynent tua chartref ar eu ceffylau bychain. Os digwyddai iddynt wrth fyned allan o'r dref gyfarfod Mr. Davies yn dyfod i'w cyfarfod ar yr heol, gyrent yn eu hol nes y caent groesffordd i droi iddi o'i wydd. Yr oedd un dyn diarhebol fel rhegwr, a elwid "Dick y Badwr," yr hwn a arferai gludo dynion dros yr afon rhwng Abertawy a'r Foxhole, pa bryd bynag y canfyddai Mr. Davies yn dyfod yn agos, rhybuddiai ei gymdeithion annuwiol, gan ddyweyd, "Peidiwch rhegu fechgyn, dacw Davies yn dyfod." Un nos Sadwrn, darfu i haid o ddynion ieuaingc meddw, mewn ffordd o ddigrifwch drelaidd, wrth fyned adref yn hwyr o'r dafarn, daflu ceryg at dŷ Mr. Davies, fel yr arferent wneyd at dai eraill. Pan ddaeth i wybod pwy oeddynt, anfonodd atynt i ddyfod i siarad ag ef; aethant yn grynedig, a'u mamau gyda hwynt, dan wylo, ac mewn braw rhag iddo eu hanfon i garchar. Ond pan ddaethant yno ni wnaeth ddim iddynt, amgen eu cynghori gyda dagrau, a myned i weddi drostynt, gan eu rhwymo i addaw dyfod i'r capel y Sabboth canlynol, yr hyn a wnaethant. Daethant oll yn fuan wedi hyny at grefydd. Yr oedd un o honynt yn fyw yn ddiweddar, os nad yw etto, ac yn "hen ddysgybl" penwyn. Dengys yr engreifftiau hyn, ac amryw o rai cyffelyb a ellid gofnodi, fod un "gweinidog da i Iesu Grist" yn llawer effeithiolach i foesoli ardal na haner cant o'r heddgeidwaid mwyaf gofalus. Gwnaeth adeiladiad y capeli ar y Cruglas ac yn Heol Ebenezer, a'r llwyddiant a ddilynodd hyny, wellhad buan yn moesau Abertawy a'r cylchoedd.