Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fawr, ar y fan y saif capel yr Undodiaid yn bresenol, a rhentiwyd y capel cyntaf i'r Bedyddwyr. Mae yn ymddangos mai yn yr iaith Saesonaeg y dygid y gwasanaeth yn mlaen yn y capel hwn o'r dechreuad. Sais oedd Mr. Higgs, y gweinidog cyntaf, a dilynwyd ef gan un Mr. Denbury, ac yna gan Mr. Whitear. Mr. George Palmer, yr hwn a fu farw yn 1750, oedd y Cymro cyntaf fu yn pregethu yma, ond y mae yn sicr mai yn yr iaith Saesonaeg y pregethai yntau. Felly nid oedd yr achos hwn o nemawr o wasanaeth i boblogaeth Gymreig y dref, a pheth oedd waeth na'r iaith, aeth udgorn y weinidogaeth i roddi sain anhynod yma tua chanol y ddeunawfed ganrif, nes i'r lle o radd i radd fyned yn hollol i feddiant yr Undodiaid.

Yr oedd cangen o eglwys Ty'rdwncyn er's llawer o flynyddau yn cadw gwasanaeth crefyddol rheolaidd yn y Wigfach, amaethdy tua milltir a haner i'r gogledd-orllewin o dref Abertawy, yn benaf er mwyn yr aelodau a gyfaneddant yn y dref a'r gymydogaeth. Wedi marwolaeth Luce Rosser, gwraig y tŷ, yn 1776, cyfododd rhyw rwystr i gadw yr addoliad yno rhagIlaw, a bu raid edrych am le arall. Aeth Mr. Lewis Rees a Mr. Solomon Harris, gweinidog y Saeson, at un Mr. Aleine, perchen ystafell gyfleus y tu cefn i Heolycastell, yn y dref, a chawsant y lle hwnw at gynal cyfarfodydd ar y Sabboth a nosweithiau o'r wythnos. Yn yr ystafell hon y buwyd yn addoli hyd nes yr adeiladwyd capel Ebenezer. Yn amser Mr. Lewis Rees, byddai gweinidogion y Methodistiaid yn lled fynych yn pregethu yn yr ystafell, gan nad oedd gan yr enwad hwnw un lle addoliad yn y dref. Byddai yr aelodau yn myned i'r Mynyddbach i gymuno, ac i'r cyfarfodydd bob bore Sabboth, ac yn cynal y gwasanaeth yn yr ystafell yn y prydnawn a'r hwyr. Wedi i Mr. Davies, Llangeler, ddyfod yn weinidog i'r Mynyddbach, tynodd ei ddoniau digyffelyb ef y fath luaws yn nghyd fel nad oedd yr ystafell, pan y deuai yno i bregethu, yn agos ddigon eang i gynwys ei wrandawyr. Yn y cyfamser, cyfododd rhyw fesur o gamddealldwriaeth rhwng yr aelodau a'u gilydd; barnai rhai fod y bobl yn angerdd eu sel dros eu gweinidog newydd, Mr. Davies, yn euog o daflu diystyrwch ar yr hen weinidog, Mr. Rees, ac felly aethant yn ddwy blaid. Darfu i Mr. David Thomas, Bragwr, adeiladu capel yn 1799, ar ei dir ei hun ar y Cruglas, a chyflwynodd ef i gorph y Methodistiaid. Aeth amryw o aelodau y Mynyddbach o'r ystafell i'r capel, ac ymunasant a'r Methodistiaid, a dyna ddechreuad Methodistiaeth yn Abertawy. Pa fodd bynag, glynodd nifer fawr gyda Mr. Davies yn yr ystafell, ac aeth y lle drachefn yn dra buan lawer rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Yn 1803, adeiladwyd capel Ebenezer, ac agorwyd ef ar y 9fed a'r 10fed o Fai, 1804, pryd y pregethodd y gweinidogion enwog-David Peter, Caerfyrddin; Morgan Jones, Trelech; Thomas Bowen, Castellnedd; John Davies, Alltwen; Griffith Hughes, Groeswen; David Morgan, Esgairdawe; Morgan Lewis, Glynnedd; Dr. Thomas Phillips, Neuaddlwyd; William Griffiths, Glandwr; John Lloyd, Henllan, a Sadrach Davies, Maendy. Yr oedd Ebenezer y pryd hwnw yn un o'r capeli mwyaf yn Nghymru. Mesurai 46 troedfedd wrth 34 o fewn y muriau. Aeth ar unwaith yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa yn gysurus. Y fath oedd poblogrwydd Mr. Davies fel yr oedd yn anhawdd cael unrhyw gapel yn ddigon mawr i gynwys ei wrandawyr. Yr oedd agwedd foesol Abertawy yn resynus i'r eithaf pan ddechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yma. Yr oedd trigolion y dref tua deng mil, heb son am y pentrefi tua milldir y tu allan i'r dref, ac nid