Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llangiwe; Evans, Clydach, a Lewis, Ty'nycoed. Dranoeth am 10, dechreuodd Mr. Rees, Canaan, a phregethodd Mr. E. Jacob, Abertawy, ar natur eglwys; gofynodd Mr. E. Griffiths, Abertawy, y gofyniadau; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Crwys, a phregethodd Mr. D. Evans, Castellnedd, ar ddyledswydd y gweinidog. Am 2, dechreuodd Mr. T. Thomas, Glandwr, a phregethodd Meistri Jones, Heolycastell, Abertawy, yn Saesonaeg, a Daniel, Mynyddbach. Am 6, dechreuodd Mr. Evans, Castellnedd, a phregethodd Meistri Davies, Treforis; Jones, Myddfau, (i'r eglwys,) a Rees, Canaan. Mae Mr. Davies yn dechreu ei lafur dan arwyddion hyfryd. Mae bywhad ar yr achos. Llawer mwy nag arfer yn dyfod i'r cyfarfodydd yn yr wythnos, a rhai yn dyfod i'r gyfeillach agos bob tro. Fe dderbyniwyd pedwar y cymundeb diweddaf, ac y mae wyth yn y gyfeillach yn bresenol." Rhif yr aelodau yma yn 1850, oedd dau gant, ond erbyn 1861, yr oeddynt wedi lluosogi i ddau-cant-triugain-adau, ac y mae yn debyg eu bod tua y rhif hyny yn bresenol, neu ychwaneg. Mae Mr. Davies wedi bod yma bellach am un-mlynedd-ar-bymtheg a'i ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn myned fwy fwy o flwyddyn i flwyddyn.

Mae yr eglwys hon, cyn belled ag y gwyddom ni, er dechreuad yr achos, wedi bod yn rhagorol o dangnefeddus, a'i chymeriad crefyddol yn uchel yn y gymydogaeth. Gwneir y gynnulleidfa i fyny o amaethwyr, crefftwyr, gweithwyr, a gwasanaeth-ddynion yr amryw foneddigion a breswyliant yn y gymydogaeth. Mae dau ysgoldy cyfleus yn perthyn i'r eglwys. Un yn mhentref y Cocyd, lle y mae Ysgol Sabbothol lewyrchus tua phedwar ugain o rif, a'r llall yn mhentref Cillay, ac Ysgol Sabbothol yno hefyd, ond nid mor lewyrchus a'r ysgol yn y Cocyd. Nid ydym yn gwybod fod yr eglwys hon, er hened, lluosoced, a pharchused ydyw, wedi cyfodi cymaint ag un pregethwr o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol, ac nis medrwn yn unwedd gyfrif am beth mor hynod.

EBENEZER, ABERTAWY.

Abertawy oedd un o'r manau cyntaf yn Nghymru lle y gosododd Ymneillduaeth ei throed i lawr ynddo. Fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach, cafodd eglwys Annibynol ei ffurfio yma tua y flwyddyn 1641, trwy offerynoliaeth Mr. Phillip Jones, o Benytwyn, Llangafelach, a Mr. Ambrose Mostyn, cyn toriad allan y rhyfel, yr hwn a ddechreuodd yn 1642, ac yn fuan ar ol ffurfiad yr eglwysi yn Llanfaches, Mynyddislwyn, a Chaerdydd. Yn 1662, trowyd Mr. Marmaduke Mathews allan o Eglwys Efan, ac yn fuan wedi hyny, daeth amryw weinidogion anghydffurfiol i fyw i'r dref a'r gymydogaeth, megis Meistri Daniel Higgs, M.A., William Thomas, M.A., Stephen Hughes, Meidrym; David Jones, Llandyssilio, a Meredith Davies, Llanon, a bu rhai, os nad pob un o honynt, yn trigianu yma am weddill eu hoes. Pan ganiatawyd rhyddid i'r Ymneillduwyr i drwyddedu tai at bregethu, yn y flwyddyn 1672, darfu i Marmaduke Mathews, Daniel Higgs, a Stephen Hughes drwyddedu eu tai i'r perwyl hyny yn nhref Abertawy. Cadwyd anghydffurfiaeth yn fyw yma trwy holl angerdd yr erledigaeth, a chyn gynted ag y cafwyd deddf goddefiad yn 1688, adeiladwyd capel Annibynol yma, ac erbyn 1697, yr oedd hwnw wedi myned yn rhy fychan, fel y bu raid adeiladu un helaethach ar y tu deheuol i'r Heol