Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

logell ei hun. Hi oedd yn gweinyddu fel trysorydd pwyllgor yr adeiladaeth. Mae mynwent helaeth a phrydferth iawn oddiamgylch y capel, a llawer o ganoedd o feirw o dref Abertawy, yn gystal ag o ardal yr Ysgetty, wedi eu claddu ynddi. Y fynwent hon yw Bunhill fields Ymneillduwyr Abertawy o bob enwad. Mae tŷ cyfleus ar gwr y fynwent yn perthyn i'r capel, yr hwn a adeiladwyd gan y ddiweddar Mrs. Hughes, yn hollol ar ei thraul ei hun. Er fod y capel hwn, pan yr adeiladwyd ef yn cael ei gyfrif yn un hardd a nodedig o gyfleus, etto, cyn pen wyth-mlynedd-ar-hugain, cyfodwyd capeli yn y dref a'r cwmpasoedd llawer harddach a mwy cysurus, fel lleoedd addoliad. Parodd hyn i gynnulleidfa yr Ysgetty benderfynu mynu capel newydd mwy teilwng o'r oes ac o'u hardal brydferth hwythau, yn yr hon y mae ugeiniau o fan balasdai nodedig o dlysion. Yn 1869, tynwyd y rhan fwyaf oll o'r hen gapel i lawr, ac ail adeiladwyd ef. Y mae yn awr yn addoldy nad oes ei brydferthach yn y deyrnas, ac yn cynwys eisteddleoedd i tua 550 o wrandawyr. Traul yr ailadeiladaeth oedd 1108p., ac y mae mwy na haner y swm hwn wedi ei dalu eisioes, a diau na fydd y gweddill yn hir cyn cael ei lwyr ddileu. Agorwyd y capel tlws hwn, Mehefin 6ed a'r 7fed, 1870, pryd y gweinyddwyd gan Meistri Kilsby Jones, W. Jansen Davies, Llanymddyfri; Dr. Rees, Abertawy; W. E. Jones, Treforis; W. Morgan, Caerfyrddin; T. Johns, Llanelli; J. Thomas, Bryn, a W. Jenkins, Pentre-estyll. Dan yr un weinidogaeth y bu y gangen yn yr Ysgetty a'r fam-eglwys yn y Mynyddbach o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1809. Yn y flwyddyn hono, gan fod y cylch gweinidogaethol mor eang, a bod yr eglwysi wedi dewis Mr. Daniel Evans, Bangor, yn gydweinidog a Mr. David Davies, barnwyd mai y ffordd oreu i ddwyn yr achos yn mlaen oedd rhanu y cylch gweinidogaethol. Dewisodd Mr. Davies, Ebenezer, Abertawy, a'r Ysgetty, a gadawodd y Mynyddbach a Threforis dan ofal Mr. Evans. O'r pryd hwnw hyd Mehefin, 1842, pan derfynodd cysylltiad Mr. Thomas Davies ag eglwys Ebenezer, bu yr Ysgetty dan yr un weinidogaeth ag Ebenezer. Yna dewisodd pob un o'r ddwy eglwys eu gweinidogion eu hunain. Rhoddodd eglwys yr Ysgetty alwad i Mr. Edmund G. Williams, o athrofa Aberhonddu, yn niwedd y flwyddyn 1842, ac urddwyd ef Ebrill 20fed, 1843. Bu Mr. Williams yma yn llafurus iawn, ac yn dra llwyddianus, hyd y flwyddyn 1849, pryd y cafodd ar ei feddwl i geisio urddau yn yr Eglwys Sefydledig, yr hyn a gafodd. Y mae er's mwy nag ugain mlynedd bellach yn gaplan carchardy, Abertawy. Mae gan bob dyn ei chwaeth ei hun, ond yr ydym ni yn sicr y buasai yn well genym gael treulio ein nerth i bregethu i gynnulleidfa barchus yr Ysgetty, pe buasai raid i ni fyw ar fara a dwfr yn unig, na sefyll trwy y blynyddau, o Sabboth i Sabboth, uwch ben torf o garcharorion, er cael tal da am hyny. Yn y flwyddyn 1851, rhoddodd yr eglwys yn yr Ysgetty alwad i Mr. Thomas Rees Davies, Gwenddwr, mab yr hynod Rees Davies, Saron. Dewisiad anhapus i'r eglwys fu y dewisiad hwn. Bu raid iddynt dori y cysylltiad ag ef yn mhen ychydig gyda dwy flynedd. Yn nechreu y flwyddyn 1855, rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Davies, o athrofa Aberhonddu, a mab yr hyawdl David Davies, Sardis; yr hwn a urddwyd yma yn Gorphenaf yr un flwyddyn. Rhoddwyd hanes yr urddiad yn y Diwygiwr fel y canlyn: "Gorphenaf 2il a'r 3ydd, 1855, cynaliwyd cyfarfod urddiad Mr. L. Davies, diweddar fyfyriwr yn Aberhonddu, yn yr Ysgetty, ger Abertawy. Nos Lun, dechreuwyd gan Mr. W. Humphreys, Cadle, a phregethodd Meistri Lewis, Carmel,