Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rosser, Goetrefawr, a'i ferch Mrs. Hughes, Ysgettyisaf, yn golofnau cedyrn dan yr achos, yn enwedig mewn pethau arianol, am ugeiniau o flynyddau. Gan Mr. John Harris, o'r Brynisaf, y cafwyd y tir at adeiladu y capel. Ar y cyntaf rhoddwyd ef yn rhad, ond o herwydd i arolygwyr yr adeiladaeth gymeryd i mewn fwy o dir oddiamgylch y capel, er mwyn cael pren prydferth a dyfai gerllaw y tu fewn i'r mur allanol, nag a nodasai y perchenog ar y cyntaf, digiodd wrthynt a bygythiodd dori y lês, ond wedi llawer o ymdrech, a challineb Mr. Rees, y gweinidog, ac eraill, cafwyd ganddo roddi lês o 999 o flynyddau am yr ardreth o bum' swllt y flwyddyn. Y mae un peth arall cysylltiedig ag adeiladiad y capel cyntaf yn yr Ysgetty na ddylid ei adael yn ddisylw. Yr oedd morwyn gyda Mr. William Rosser o'r enw Elizabeth, yr hon, o herwydd ei bod yn eneth gref iawn o gorph, a adwaenid dan yr enw Hearty Bet. Mae yn ymddangos fod ei sel gyda'r achos goreu yn gryfach na'i chorph, er cryfed oedd hwnw. Gan nad oedd ganddi lawer o arian i'w cyfranu at y capel newydd, elai allan yn y nos, ar ol gorphen ei diwrnod gwaith, i gasglu ceryg a'u cario at yr adeilad. Bu am lawer o nosweithiau am oriau bob nos yn gwneyd hyny, a thebyg iddi arbed rhai punoedd yn y modd hwnw. Pa beth a all sefyll o flaen sel a chariad?

Bu y gynnulleidfa yn addoli yn y capel hwn o 1770, hyd 1842. Yn yr ysbaid hwnw yr oedd agwedd a phoblogaeth yr ardal wedi cyfnewid yn fawr, fel y barnwyd yn angenrheidiol prynu darn o dir i adeiladu capel arno tua haner milldir yn uwch i fyny, er mwyn bod yn fwy yn nghanol y boblogaeth. Gorphenwyd yr adeilad ac agorwyd ef Tachwedd 9fed a'r 10fed, 1842. Rhoddwyd hanes cyfarfod yr agoriad yn y Diwygiwr fel y canlyn: "Dechreuwyd yr hwyr cyntaf am 6, pan y gweddiodd y Parch. E. Griffiths, Abertawy, a phregethodd y Parchn. T. Rees, Siloa, Llanelli, a D. Jones, Clydach, oddiwrth Zech. xii. 10-14., ac Esaiah v. 4. Am 10, dydd Iau. dechreuodd y Parch. J. Evans, Crwys, a phregethodd y Parchn. J. Davies, Cwmaman; T. Dodd, Burrows, Abertawy, (yn Saesoneg,) a J. Williams, Ty'nycoed, oddiwrth Salm xlii. 6., Hag. ii. 9., a Ioan viii. 56. Am 3, dechreuodd y Parch. T. Griffiths, Pentregethin, a phregethodd y Parchn. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, (yn Sacsonaeg,) ac L. Powell, Caerdydd, oddiwrth Esaiah lvi. 3., a Salm xxv. 20. Am 6, dechreuodd y Parch. R. Owens, Abertawy, a phregethodd y Parchn. D. Pugh, York Place, (Bedyddiwr,) yn Saesonaeg, a W. Morris, Glandwr, oddiwrth 1 Petr i. 13., a 2 Cor. xxxiii. 12, 13. Gorphenwyd trwy weddi gan y Parch. W. Ford, Browyr. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn lluosog ac ystyried gerwindeb yr hin, y pregethau yn gynwysfawr a gwlithog, y cyfraniadau yn haelionus, a phob arwyddion fod Duw gyda ni. Teilynga caredigrwydd yr ardal yn gyffredinol ar yr amgylchiad ganmoliaeth wresog, ac yn neillduol Mrs. Hughes, Ysgettyisaf, a blaenoriaid yr eglwys, gydnabyddiaeth gyhoeddus am eu dull ffyddlawn, trefnus, a gofalus, yn dwyn pethau oddiamgylch. Pwrcaswyd y tir, ac adeiladwyd y capel helaeth, hardd, a chyfleus hwn a 700p. o draul, o ba un y mae 300p. wedi eu talu eisioes, trwy ymdrech yr ardalwyr yn unig, a theimlant yn ewyllysgar ac awyddus iawn i barhau yn eu hymdrechion, nes cael y tŷ yn ddiddyled i gadw coffadwriaeth o enw Duw Jacob." Trwy gydweithrediad y gynnulleidfa ni buwyd yn hir cyn talu y geiniog olaf o'r ddyled. Mae yn deilwng o sylw fod y capel a'r tir wedi costio mewn gwirionedd tua 900p. er mai 700p. fu raid i'r eglwys dalu. Talodd Mrs. Hughes y gweddill o'i