Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn un o'r dynion mwyaf hawddgar a chyfeillgar a adnabuasom erioed; ac yn ei ymddangosiad a'i ymddygiad, yr oedd yn lân, heb fod yn goegaidd, ac yn foneddigaidd, heb fod yn fursenaidd. Yr oedd, fel y nodasom yn barod, yn ddyn o feddwl nodedig o dreiddgar a galluog. Dichon nad oedd un gweinidog yn Nghymru yn alluocach duwinydd nag ef. Yr oedd wedi talu sylw dwys i Athrawiaeth yr Iawn, Gwaith yr Ysbryd, Penarglwyddiaeth, a'r cyffelyb, fel y pregethai arnynt mor eglur a tharawiadol a neb a wrandawsom erioed. Gresyn na buasai ei duedd a'i amgylchiadau yn caniatau iddo ysgrifenu a chyhoeddi ei fyfyrdodau ar y pyngciau mawrion hyn. Buasai y llyfr yn gaffaeliad anmhrisiadwy. Fel Pregethwr yr oedd yn ymadroddwr rhwydd a chryf, a'i lais yn hyglyw, heb fod yn berseiniol nac yn aflafar. Safai ar dir canol rhwng y bloeddiwr poblogaidd a'r siaradwr sychlyd a dieffaith. Pregethwr cryf, eglur, a buddiol i bob math o wrandawyr ydoedd, ond yn fwy nodedig o swynol i feddylwyr craffus nag i'r lluaws difeddwl. Medrai drin ac egluro pyngciau dyfnion duwinyddiaeth yn fuddiol a tharawiadol i ddynion meddylgar, heb fod yn boenus i'r anwybodus. A chymeryd pob peth at ystyriaeth, yr oedd Mr. Evans o'r Crwys, yn un o'r gweinidogion mwyaf cyflawn a diddiffyg yn ei oes. Ni chlywsom neb o'i gydnabod erioed yn dyweyd dim yn anmharchus am dano. Yr uchel-Galfiniaid yn unig a deimlant fesur o oerni tuagato o herwydd ei fod yr hyn a alwant hwy yn Ffwleriad, ond yr oedd ei gymeriad a'i hawddgarwch y fath fel na theimlai y cyfryw ryw gasineb cryf ato.

YR YSGETTY.

Ardal nodedig o brydferth, yn y rhan isaf o blwyf Abertawy, yw yr Ysgetty, ychydig gyda dwy filldir i'r gorllewin o'r dref. Mae yn dra thebyg fod yma gangen o eglwys Ty'rdwncyn yn cynal gwasanaeth crefyddol rheolaidd oddiar y flwyddyn 1688, os nad yn hir cyn hyny, ond gan nad oes unrhyw gofnodion ysgrifenedig am yr achos ar gael, nid oes genym un sicrwydd am amser ei ddechreuad. Ar brydnawn a hwyr y Sabbothau Y cedwid y gwasanaeth yma gynt, am y byddai pawb a fedrant yn myned i Dy'rdwncyn yn y bore. Cawn y cofnodiad canlynol yn nydd-lyfr Thomas Morgan, Henllan, yr hyn a ddengys mai felly yr arferid gwneyd yn ei amser ef, ac yn hir wedi hyny. "Tachwedd 15fed, 1741, yn Nhy'rdwncyn yn y bore, oddiwrth Col. i. 12; yn yr hwyr yn yr Ysgetty, oddiwrth Job xxx. 23." Mae yn sicr fod gwahanol anedd-dai yn yr ardal wedi bod yn dai cyfarfod gan y gynnulleidfa er dechreuad yr achos hyd y pryd yr adeiladwyd y capel cyntaf, ond nid ydym wedi dyfod o hyd i enwau ond dau o honynt, sef y Brynisaf a'r Tygwyn, y lle o ba un y symudodd y gynnulleidfa i'w haddoldy. Yn y flwyddyn 1770, yr adeiladwyd y capel, sef yr unfed-flwyddyn-ar-ddeg o weinidogaeth Mr. Lewis Rees yn y lle.

Yr oedd amryw ddynion selog a gweithgar yn perthyn i'r gynnulleidfa pan adeiladwyd y capel yn 1770. Y ddau henuriad llywodraethol oedd Mr. Rees Harris a Mr. Benjamin Davies, a'r ddau ddiacon oedd Mr. Thomas Perkins a Mr. William Jones. Enwir hefyd Mr. William Gwynne, Cwity-saeson, a Mr. John Habaccuc, o'r Cocyd, fel rhai ffyddlon a haelionus lawn. Bu Mr. Habaccuc fyw nes yr oedd yn 102 flwydd oed. Aelod lled ieuangc oedd Mr. William Rosser, Gwerneinon y pryd hwn, ond parhaodd yn ffyddlon a defnyddiol iawn hyd derfyn ei oes, a bu ei fab Mr. Samuel