unrhyw eglwys nac oes yn Nghymru, yn sefyll yn uwch yn nghyfrif ei bobl na Mr. Evans. Credent hwy nad oedd galluocach gweinidog yn yr holl fyd na'u gweinidog hwy. Adwaenom lawer o bobl o'r Crwys a'r Brynteg, sydd wedi ymsefydlu mewn ardaloedd eraill, ac ymuno a'r eglwysi yn yr ardaloedd hyny, ac y maent braidd yn ddieithriad yn ddynion tangnefeddus a hawdd eu trin. Wedi arfer coleddu meddyliau uchel am y gweinidog y magwyd hwy dan ei weinidogaeth, ymddygant yn foneddigaidd at eu gweinidogion yn mhob lle arall. Am yr ugain mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth, y Crwys a'r Brynteg yn unig oedd dan ofal Mr. Evans, ond yn 1839, cymerodd ofal y gynnulleidfa fechan a ymgynnullai i'r capel a adeiladesid gan yr Arglwyddes Barham, yn Mhenyclawdd, a chynyddodd yr achos yn fawr dan ei ofal yno. Yr oedd ei lafur yn fawr iawn, pe na buasai yn ddim ond pregethu, ond gan nad oedd cyfraniadau yr eglwysi yn agos ddigon at gynhaliaeth ei deulu lluosog, bu raid iddo am lawer o flynyddau ychwanegu y llafur o gadw ysgol ddyddiol at waith y weinidogaeth. Yr oedd yn hapus iawn fel ysgolfeistr yn gystal ag fel gweinidog. Coleddai ei ysgolheigion oll y meddyliau uchaf ac anwylaf am dano. Bu amryw bregethwyr yn derbyn addysg yn ei ysgol, megis John Davies, Mynyddbach; John Joseph, Llanedi; Jenkin Jenkins, America; W. Jenkins, Pentre-estyll; J. Bevan, Llangadog; W. Williams, Bryn, Llanelli; I. Williams, Trelech, a J. Hopkins, W. Rees, a D. Knoyle, y rhai sydd wedi myned yn offeiriaid er's blynyddau bellach. Efe oedd oracl yr ardal mewn pethau gwladol yn gystal a chrefyddol. Pan fuasai eisiau mesur tiroedd a thai, gwneyd ewyllysiau, cytundebau, a'r cyffelyb, at Mr. Evans yr elai pawb, ac yr oedd gan yr ardalwyr lawer mwy o ymddiried yn ei fedr ef at bethau felly nag mewn un cyfreithiwr. Nid oes neb a fedr ddirnad pa faint o ddaioni gwladol a chrefyddol a wnaeth i'r ardal. Bu ei bobl yn ofalus i roddi iddo gyflawnder o waith, ac o barch o ryw fath, dros amser ei ymdaith yn eu mysg, ond buont fel y rhan fwyaf o eglwysi Cymru, yn fyr o wneyd yr hyn a ddylasent ac a allasent at ei gynaliaeth, fel y bu raid iddo werthu ei dir er magu ei deulu. Daeth atynt yn wr cymharol o gyfoethog, a bu farw, wedi agos i ddeugain mlynedd o lafur caled, heb ond y peth nesaf i ddim i'w adael ar ei ol i'w weddw a'i blant.
Yn y flwyddyn 1841, bu twymyn drom yn nheulu Mr. Evans, a bu ef ei hun, yn gystal ag amryw o'i blant, yn gorwedd am rai wythnosau. Ar yr amser hwnw yr oedd y gweinidogion cymydogaethol yn llanw ei bulpudau. Un bore Sabboth, pryd yr oedd ef yn ymddangos yn anobeithiol o glaf, yr oedd Mr. Morris, y pryd hwnw o Glandwr, i bregethu yn y Crwys. Ar ol darllen a chanu, cyn dechreu gweddio, anerchodd y gynnulleidfa yn y dull toddedig y medrai ef wneyd, gan anog pawb yno i uno gydag ef mewn gweddi ar ran y gweinidog. Yn ei weddi erfyniodd ar yr Arglwydd am estyn o leiaf bymtheng mlynedd ar ei fywyd. Mae yn deilwng o sylw i Mr. Evans fyw bymtheg mlynedd ond mis o'r diwrnod hwnw.
Yn mlynyddau diweddaf ei oes blinid Mr. Evans yn fawr gan y gymalwst, a'r clefyd hwnw, a'r ol wythnosau o boenau dirdynol, a osododd derfyn ar ei fywyd nos Sabboth, Ionawr 13eg, 1856. Claddwyd ef yn mynwent y Crwys. Pregethodd Mr. Jones. Heolycastell, Abertawy, a Mr. Davies, Cwmamman, yn ei angladd i dorf fawr a galarus.
O ran corph yr oedd Mr. Evans yn hardd, a lluniaidd, ac o wneuthuriad cadarn, a thua pum' troedfedd a deng modfedd o daldra. O ran ei dymer yr