Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WILLIAM LLEWELLYN, oedd y gweinidog cyntaf a fu yma ar wahan oddiwrth y Mynyddbach. Urddwyd ef fel y gwelsom yn 1746, ac yr oedd yma yn 1751, ond yr oedd naill a'i wedi marw, neu wedi symud yn 1754. Nid oes genym unrhyw hanes pellach i'w roddi am dano.

WILLIAM EVANS. Ar ddiwedd hanes Cwmllynfell y rhoddir ei fywgraphiad ef.

NOAH JONES. Gweler hanes Llanharan a'r Taihirion.

JONATHAN LEWIS. Mab un Lewis Thomas Dafydd, o ardal Capel Isaac, oedd ef. Dechreuodd bregethu yr un amser a Mr. Thomas, Penmain, a Mr. Bowen, Castellnedd. Bu am ychydig amser yn ysgol Mr. John Griffiths, Glandwr. Daeth oddiyno i'r Cwmmawr a Rhydymardy tua diwedd y flwyddyn 1784, a bu yma tua dwy flynedd, yna symudodd i Lanybri, lle y bu am ychydig fisoedd. Cymerwyd ef yn glaf yn ardal Penygraig, yn y Plasgwyn fel y tybir, a bu farw yno, a chladdwyd ef wrth gapel Penygraig, tua diwedd y flwyddyn 1786, neu ddechreu 1787. Dywedai yr hen bobl a'i hadwaenai ei fod yn wr ieuangc hynaws a chrefyddol iawn, ac yn bregethwr da.

DANIEL LEWIS. Gweler hanes Llanfaple, Mynwy.

THOMAS EDWARDS. Yn hanes Godrerhos y rhoddwn yr hyn a wyddom am dano ef, gan mai yno y diweddodd ei weinidogaeth yn Nghymru. LEWIS POWELL. Nid oes genym ddim i ychwanegu at yr hyn a nodasom eisioes gyda golwg arno ef.

JOHN EVANS. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Pantygwenith, plwyf Cenarth, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1791. Enwau ei rieni oeddynt Michael a Rachel Evans, ac yr oeddynt mewn amgylchiadau bydol gwell na'r cyffredin o amaethwyr y gymydogaeth. John oedd yr ieuengaf o naw o blant. Yn Nghapel Iwan, dan weinidogaeth Mr. Morgan Jones, Trelech, yr addolai ei rieni. Dygwyd ef dan argyhoeddiadau crefyddol yn ieuangc, a phan yn bedair-ar-ddeg oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghapel Iwan. Yn mhen dwy flynedd wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol bod am gryn amser yn yr ysgol yn ei ardal enedigol, rhwymwyd ef yn egwyddorwas gyda Mr. John Lewis, masnachydd, Caerfyrddin, ond ni fu yno yn hir. Gan faint ei duedd at bregethu, a'i syched am wybodaeth, aeth i'r Ysgol Ramadegol a gedwid gan Mr. Peter mewn cysylltiad a'r athrofa. Wedi bod yno am ysbaid, derbyniwyd ef i'r athrofa lle yr hynododd ei hun yn mysg ei gydfyfyrwyr fel dysgwr rhagorach na nemawr. Tra yn yr athrofa ennillodd y cymeriad o fod yn anghyffredin o alluog ei feddwl, ac felly yr ystyrid ef trwy ei oes gan bawb o'i gydnabod. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa, dychwelodd i'w ardal enedigol, a bu yno am rai blynyddau yn cadw ysgol. Y pryd hwnw, ymunodd mewn priodas a Mary, merch Mr. John Marks, o Beny waun, Cilrhedyn, yr ystyr a gafodd yn ymgeledd gymwys iddo." Bu iddynt un-ar-ddeg o blant, a chawsant yr hyfrydwch o'u gweled oll yn arddel crefydd. Yn nechreu y flwyddyn 1819, talodd Mr. Evans ymweliad a'r eglwysi yn y Crwys a'r Brynteg, a chafodd ei hoffi i gymaint o raddau yn y ddau le, fel y rhoddwyd iddo alwad unfrydol. Urddwyd ef yn Mai 1819. Yr oedd Mr. Jones, Trelech; Mr. Peter, Caerfyrddin, ac eraill, yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad. Er iddo gael mwy nag un cynyg i symud i eglwysi lluosocach a phwysicach, etto dewisodd ef dreulio ei oes yn y man lle y dechreuodd ei weinidogaeth. Mae yn sicr na fu un gweinidog mewn