Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn awr, ac yr ydym yn hyderu fod etto flynyddau lawer o ddefnyddioldeb o'i flaen yn y cylch pwysig hwn. Mae yr eglwysi yn y Crwys a Phenyclawdd er's rhai blynyddau bellach wedi dechreu myned trwy gyfnewidiad pwysig gyda golwg ar iaith y gwasanaeth crefyddol. Mae y Saesonaeg yn ennill tir yn gyflym yn y ddwy gynnulleidfa, ac yn debyg yn mhen ychydig iawn o flynyddau etto o lwyr ymlid yr hen Gymraeg o'r pulpudau. O herwydd sefydlogrwydd y boblogaeth nid yw y cyfnewidiad yn debyg o effeithio mor niweidiol yma ag y mae wedi gwneyd mewn rhai manau. Dichon fod amryw o aelodau yr eglwys hon yn yr oesau gynt wedi cyfodi yn bregethwyr, nas gallasom ni ddyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yn unig y gwyddom ni am danynt.

Thomas Jones. Yr hwn a fu yn weinidog yn Newmarket, sir Fflint, am un-ar-ddeg-a-deugain a flynyddau. Daw ef etto dan ein sylw yn nglyn a hanes yr eglwys yno.

Thomas Edwards, Ebenezer, Arfon. Yn nglyn a'r eglwys a wasanaethodd mor ffyddlon trwy holl dymor ei weinidogaeth, y daw ei hanes yntau dan sylw.

Henry Edwards, brawd Thomas Edwards. Gyda hanes yr eglwys yn Moelfro, Mon, y rhoddwn ei fywgraphiad ef.

Michael Thomas, Wootton Bassett. Yr oedd ef yn nai fab chwaer i Mr. Evans, y gweinidog. Daeth yn ieuangc o ardal Capel Iwan i'r ardal hon i gadw ysgol, a dechreuodd bregethu yma yn 1829. Aeth i'r athrofa i Gaerfyrddin yn 1832, ac ar derfyniad ei amser yno, derbyniodd alwad o Wootton Bassett, sir Wilts, lle yr urddwyd ef yn 1838. Bu yno yn ddefnyddiol a pharchus iawn hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Medi 12fed, 1857, pryd yr oedd yn bump a deugain oed. Brawd iddo ef oedd y diweddar Mr. Samuel Thomas, St. Clears.

John Marks Evans, mab Mr. Evans y gweinidog. Bu ef yn gweinidogaethu yn olynol yn y Sarnau, Maldwyn, Llacharn, sir Gaerfyrddin, a Newton, Morganwg, o'r flwyddyn 1839 hyd 1868, pryd y gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi ei swydd i fyny. Mae yn awr yn byw yn Abertawy.

Joseph Hugh, oedd hen wr da a phregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys hon, a'r eglwysi cymydogaethol, am lawer o flynyddau. Bu farw mewn henaint teg yn nhy ei ferch, yn agos i Bentre-estyll tua saith mlynedd yn ol.

Mae llawer o ddynion rhagorol iawn am eu duwioldeb a'u ffyddlondeb wedi bod yn yr eglwys hon o bryd i bryd, y rhai y mae eu henwau yn perarogli yn yr ardal hyd heddyw; megis Morgan Morgans, Rhianfawr; Samuel Eaton, Poundffald; David John, Cwmynant; John Roberts, Ystlysyrhian; David Beynon, Hopkin Rees, ŵyr yr hybarch Lewis Rees, Mynyddbach, ac amryw eraill a ellid enwi.

Mae ysgoldy cyfleus wedi ei godi mewn cwr o'r ardal a elwir y Wernoleu, yn yr hwn y cedwir Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Cangen o'r eglwys hon hefyd yw yr eglwys yn Ngwaenarlwydd.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

Yr ydym wedi rhoddi cymaint o hanes y gweinidogion fu yma yn dechreu yr achos ag a wyddem, yn nglyn a hanes Mynyddbach.