Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gryfach na'r famer's ugeiniau o flynyddau bellach. Pan oedd yr eglwys a fu wedi hyny yn Rhydymardy, ac sydd yn awr yn Brynteg, yn addoli mewn anedd-dy yn Nhrefuchaf, Casllwchwr, mae yn debyg fod rhai o ardal y Crwys yn perthyn iddi, ac er mwyn eu cyfleusdra eu hunain a'u cymydogion, darfu iddynt drwyddedu anedd-dy a elwir Ty'rcethin at bregethu ynddo. Mae yn debyg i hyn gymeryd lle tua y flwyddyn 1700, neu yn fuan ar ol hyny. Nid yw yn hysbys pa cyhyd y bu y gynnulleidfa yn ymgynnull yno. Cafodd capel ei adeiladu yn y Cwmmawr, yn yr un gymydogaeth, yn gynar yn y ddeunawfed ganrif, oblegid yr oedd wedi cael ei ailadeiladu, neu ei adgyweirio yn y flwyddyn 1766, fel y dengys y sylw canlynol o lawysgrifau William Jones, aelod yn y Mynyddbach. "Mehefin 29ain, 1766. Y Sabboth hwn yr oeddid yn casglu arian at gynnulleidfa'r Cwmmawr, ac fe gasglwyd rhagor na dau cymaint ag a gawsom ni oddiyno at ein capel. Er nad oes neb yn danod iddynt, ond er hyn i gyd nid yw hyny yn eu boddloni. Maent yn eu cleimio fel dyled, ac yn cleimio mwy na'r tri chymaint ag a roisant hwy i ni. Yr wyf fi yn tybied fod eu gweinidog, er ei fod yn wr da a duwiol, wedi ymollwng i dymerau anghristionogol rhyfedd." Ar ol bod am lawer o flynyddau yn addoli yn y Cwmmawr, barnwyd fod eisiau cael addoldy mewn man mwy cyfleus a chanolog o'r ardal, ac felly yn 1788, adeiladwyd capel y Crwys, yr hwn sydd yn sefyll ar fan amlwg, lle y mae amryw ffyrdd yn croesi eu gilydd. Ailadeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1831, ac y mae yn addoldy mawr iawn mewn lle gwledig. Amgylchynir ef gan fynwent helaeth. Yr unig weinidog a fu yma, heblaw y gweinidog presenol, nad oedd hefyd yn weinidog i eglwys y Brynteg, oedd William Llewellyn, yr hwn a urddwyd yma yn 1746. Gan i Thomas Jones gael ei urddo yn Nghasllwchwr y flwyddyn ar ol urddiad W. Llewellyn yn y Cwmmawr, mae yn naturiol casglu mai methu cyduno wnaeth y ddwy eglwys ar un o'r ddau ymgeisydd, ac i bob un o'r eglwysi urddo yr un mwyaf hoff ganddi. Mae hanes William Llewelyn, yr un fath a Thomas Jones, yn hollol anhysbys i ni. Y cwbl a wyddom am dano ydyw iddo gael ei urddo yn y Cwmmawr yn 1746, a'i fod yma yn 1751. Dywed Mr. Davies, Mynyddbach, mai aelod o eglwys Ty'rdwncyn ydoedd, ac iddo farw heb fod yn hir ar ol ei urddo. Yn 1754, yr ydym yn cael eglwysi y Cwmmawr a Rhydymardy drachefn wedi ymuno dan yr un weinidogaeth, ac felly y buont o hyny hyd urddiad Mr. Isaac Williams, yn y Brynteg, yn 1849. Cyn belled ag y gallwn farnu, yr oedd eglwys y Cwmmawr yn wanach ac yn llai ei rhif nag eglwys Rhydymardy, hyd nes yr adeiladwyd addoldy y Crwys yn 1788, ond er y pryd hwnw aeth yr olaf yn flaenaf, ac y mae yn parhau i gadw y flaenoriaeth hyd yn bresenol. Bu yr eglwys hon ar rai adegau, yn nhymor gweinidogaeth lwyddianus Mr. John Evans, yn cynwys tua thri chant o aelodau. Wedi i Mr. Evans ymgymeryd a gofal yr achos yn Mhenyclawdd, unodd llawer o aelodau y Crwys a'r eglwys yno, ac er y pryd hwnw nid yw yr aelodau mor lluosog ag yr oeddynt cyn hyny. Mae yr eglwys hon wedi bod yn ganmoladwy am ei hysbryd tangnefeddus trwy holl ysbaid hirfaith ei hanes. Ni chlywsom fod dim tebyg i derfysg wedi bod ynddi erioed. Ar ol marwolaeth Mr. Evans, yn Ionawr, 1856, buwyd heb weinidog sefydlog yma hyd Rhagfyr, 1857, pryd y symudodd Mr. John Lloyd Jones yma o Dyddewi, mewn cydsyniad a galwad unfrydol yr eglwysi yn y Crwys a Phenyclawdd. Mae Mr. Jones wedi gwasanaethu y ddwy eglwys yn effeithiol o'r pryd hwnw hyd