Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddodwyd y gynaraeth gan Mr. T. Rees, Siloa, Llanelli; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. Thomas, Clydach; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. J. Evans, Crwys; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Gwynfe, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Gweddiwyd a phregethwyd y nos flaenorol, a phrydnawn a hwyr dydd yr urddiad, gan Meistri W. Williams, Bryn; H. Davies, Bethania; T. Davies, Llandilo; J. Evans, Capel Sion; Griffith John, Abertawy, (Cenhadwr i China); J. Thomas, Cefncribwr; J. Thomas, Maenclochog; J. Davies, Cwmaman; W. Humphreys, Glandwr; E. Jacob, Abertawy; J. Mathews, a D. Evans, Castellnedd. Ni bu arosiad Mr. Williams yma ond byr, tua dwy flynedd a dau fis, ond yr oedd yn boblogaidd a pharchus iawn tra y bu yn y lle. Derbyniodd alwad i Drelech, a symudodd yno yn Mehefin, 1851, ac yno y mae hyd yn bresenol. Ar ol ymadawiad Mr. Williams, bu yr eglwys drachefn am oddeutu tair blynedd dan ofal ei hen weinidog, Mr. Evans, o'r Crwys. Yn 1854, rhoddasant alwad i Mr. William Humphreys, i'w gwasanaethu mewn cysylltiad a Chadle, yr hyn a wnaeth yn ffyddlon ac effeithiol hyd ei farwolaeth yn 1869. Er hyny hyd yn awr, nid oes un gweinidog sefydlog wedi bod yma, ond yr ydym yn deall eu bod wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. John Stephens, Taibach. Os yma y daw, hyderwn y caiff ef a'r eglwys fesur helaeth iawn o wenau yr Arglwydd. Bu yr hen eglwys hon am tua chan mlynedd yn addoli yn hen gapel bychan Rhydymardy, ac fel y nodasom eisioes, adeiladwyd capel y Brynteg yn 1815, ac yn 1846, cafodd ei ailadeiladu a'i helaethu yn fawr. Mae yn awr yn addoldy cyfleus, digon helaeth i bedwar neu bum' cant o bobl i eistedd ynddo. Ni bu yr eglwys hon ar un cyfnod o'i hoes yn lluosog iawn, o herwydd nad oedd yr ardal hyd yn ddiweddar ond cymharol deneu ei phoblogaeth, ond yr ydym yn barnu y gall gyda bendith yr Arglwydd, ddyfod yn eglwys gref a lluosog iawn yn mhen ychydig amser, gan fod y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym.

Nis gwyddom am neb a gyfodwyd yma i bregethu ond William Davies, o Whitley. Bu ef yma am ddegau o flynyddau yn bregethwr cynorthwyol parchus iawn. Yr oedd yn Galfiniad uchel o ran ei farn. Y mae wedi marw er's tua deng-mlynedd-ar-hugain. Yma hefyd yn amser Mr. W. Evans, y derbyniwyd Mr. John Thomas, awdwr Caniadau Sion, i gyfundeb yr Annibynwyr, ac oddi yma yr aeth i athrofa Abergavenny, ond gan ei fod yn pregethu gyda'r Methodistiaid cyn ei dderbyn yma, prin y gall yr eglwys hon honi yr anrhydedd o'i gyfodi i bregethu.

Gan mai yr un gweinidogion a fu yma ac yn y Crwys ond Mr. Thomas Jones yn 1747, am yr hwn nid oes genym un hanes i'w roddi, a Mr. W. Humphreys, yr hwn y rhoddir ei hanes yn nglyn a Chadle; yn nglyn a hanes y Crwys y rhoddwn gymaint o gofnodion bywgraphyddol ag sydd genym am y gweinidogion.

CRWYS.

Mae y Crwys yn mhlwyf Llanrhidian, ar gwr uchaf y rhan hono o Forganwg a elwir Browyr. Mae yma gapel helaeth a chynnulleidfa luosog o amaethwyr, glowyr, a gweithwyr cyffredin yn ymgynnull. Nid oes genym hanes manwl am ddechreuad yr achos hwn. Cangen ydyw o'r eglwys sydd yn awr yn y Brynteg, ond y mae y ferch wedi myned lawer yn