Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mai 31ain, a Mehefin 1af, 1758, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Joseph Simons, Gellionen; Thomas Jones, Drefach; Millbourn Bloom, Pentretygwyn; Thomas Morgan, Henllan; Lewis Phillips, o'r un lle; Owen Davies, Crofft-y-cyff; Thomas Davies, Castellnedd; David Williams, Cefnarthen; Henry Thomas, Gellidochleithe, (Godrerhos); Isaac Price, Llanwrtyd; David Jardine, Abergavenny, a William Evans, gweinidog y lle. Anrhydeddodd y Duw mawr ni a'i bresenoldeb. Bendigedig fydd ei enw." "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mehefin 10fed a'r 11eg, 1761, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Morris Griffith, Kebidog, (Trefgarn); David Lloyd, Brynberian; Rees Davies, Canerw; Thomas Davies, Llanybri; John Davies, Trelech; Thomas Jones, Drefach; Thomas Gray, Llwynypiod; Millbourn Bloom, Pentretygwyn; Evan Griffiths, Capel Sion; Jenkin Morgan, o Ynys Mon; Joseph Simons, Castellnedd; Solomon Harris, Abertawy; Lewis Rees, Ty'rdwneyn; Edward Williams, Blaengwrach; Henry Thomas, Gellidochleithe; Thomas Williams, Groeswen, a William Evans, gweinidog y lle, heblaw amryw bregethwyr heb eu hurddo. Fe ymddangosodd y Duw mawr yn amlwg yn ein plith. Bendithier ei enw."

Gallwn farnu oddiwrth luosogrwydd y gweinidogion a ddeuant i'r cyfarfodydd, yr ystyrid Rhydymardy, y pryd hwnw, yn lle o gryn bwysig rwydd. Mae yn ymddangos i'r eglwys oddiar farwolaeth Mr. W. Evans, yn 1770, fod heb un gweinidog sefydlog hyd 1777, pryd yr urddwyd Mr. Noah Jones, myfyriwr o athrofa Abergavenny. Bu Mr. Jones yn llafurio yma gyda mesur o lwyddiant hyd 1784, pryd y symudodd i Lanharan a'r Taihirion. Dilynwyd ef gan Mr. Jonathan Lewis, aelod o eglwys Capel Isaac. Tua dwy flynedd y bu ef yma. Y gweinidog nesaf oedd Mr. Daniel Lewis, myfyriwr o athrofa Croesoswallt. Urddwyd ef yn 1789, a bu yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1803, pryd y symudodd i Zoar, Merthyr. Y gweinidog nesaf oedd Mr. Thomas Edwards, Castellnedd. Mae yn ymddangos. iddo ef ddechreu ei lafur yma yn 1805, ac iddo ymadael yn 1813. Yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono, dechreuodd Mr. Lewis Powell, o Lanrwst ei weinidogaeth yma. Mab yr hybarch Jonathan Powell, Rhosymeirch oedd ef. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Gwrecsam, ac urddwyd ef yn Llanrwst yn 1810. Bu yn llwyddianus iawn am y tymor byr y bu yno, ac yma drachefn, mae yn ymddangos ei fod yn boblogaidd iawn am rai blynyddau. Ond yn raddol daeth yn amlwg ei fod yn yfwr anghymedrol, ac mewn canlyniad, lleihaodd ei barch a'i boblogrwydd, a phan ddeallodd yntau fod yr eglwysi ar fedr ymwrthod ag ef, cymerodd y blaen arnynt, trwy fyned at Esgob Tyddewi i ofyn am urddau esgobyddol. Cafodd yr hyn a geisiai, a threuliodd weddill ei oes yn gurad yn Llanon, sir Gaerfyrddin, yn hollol ddinod a diddefnydd i fyd ac eglwys. Tua diwedd y flwyddyn 1818, y rhoddodd ei swydd i fyny yn y Brynteg a'r Crwys, ac yn mhen ychydig wythnosau wedi hyny, rhoddodd yr eglwysi alwad i Mr. John Evans, yr hwn a lafuriodd yn eu plith am agos i ddeunaw-ar-hugain o flynyddau gyda pharch a llwyddiant mawr. Yn y flwyddyn 1849, gan fod Mr. Evans wedi cymeryd gofal yr achos yn Mhenyclawdd, mewn eysylltiad a'r Crwys a'r Brynteg, teimlai fod maes ei lafur yn ormod, ac felly anogodd eglwys y Brynteg i roddi galwad i Mr. Isaac Williams, yr hyn a wnaethant. Urddwyd Mr. Williams Ebrill 25ain. 1849. Dechreuwyd gwasanaeth yr urddiad trwy weddi gan Mr E. Griffith, Abertawy; tra-