Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yr eglwys yn amddifad o fywyd ysbrydol: "Medi 6ed, 1762, heddyw trwy gydsyniad unfrydol yr eglwys, cadwasom ddydd o ympryd a gweddi ar ran ein plant ac ieuengctyd y gymydogaeth yn gyffredinol, i ddeisyf bendith yr Arglwydd i wneyd y weinidogaeth yn effeithiol er eu troedig aeth. Traddodwyd ychydig sylwadau sylfaenedig ar y nawfed benod o Nehemiah, a rhoddodd yr Arglwydd radd o'i gymorth i'r hen frodyr i ymdrechu ag ef mewn gweddi. Yr ydym yn cyfrif hyn yn arwydd y bydd iddo, yn ol ei addewid, ein hateb i ryw fesur yn ei amser ei hun." Mae y crybwyllion am gasgliadau sydd yn yr hen lyfr yn dangos fod yr eglwys. hon yn meddu gradd helaethach o gyfoeth ac ysbryd haelionus na'r eglwysi yn gyffredinol yn y dyddiau hyny. Mehefin 22ain, 1755, casglwyd pymtheg swllt ar gais Mr. Owen Davies at adeiladu capel Esgairdawe. Ebrill 22ain, 1759, casglwyd tair punt a deuddeg swllt a chwe' cheiniog at gynorthwyo Mr. Jenkin Morgan i adeiladu capel yn Mon. Yn 1762, casglodd Mr. Lewis Rees dair punt at adeiladu capel y Mynyddbach, ac yn Tachwedd 1770, casglodd Mr. Thomas Lewis ddeg swllt-ar-hugain at adeiladu capel Ty'nycoed, Glyntawy. Mae yn ymddangos fod cyfarfod gweinidogion yn cael ei gynal yn y lle hwn fynychaf bob blwyddyn. Mae y cofnodion canlynol am gyfarfodydd o'r fath wedi diange rhag y difrod a ddigwyddodd i'r rhan fwyaf o hen lyfr yr eglwys. "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy Mai 22ain a'r 23ain, 1751. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Edmund Jones, Joseph Simons, Millbourn Bloom, Thomas Lewis, Owen Davies, Evan Williams, Thomas Davies, a William Evans, gweinidog y lle. Y dydd cyntaf pregethodd Mr. Edmund Jones, oddiwrth Iago i. 16. Yr ail ddydd pregethodd Mr. Owen Davies, a Mr. Millbourn Bloom, y ddau oddiwrth yr un testyn, sef Heb. ii. 3., ac oedfa anghyffredin o doddedig ydoedd. Yr oedd llaw yr Arglwydd i'w gweled yn amlwg yn yr effeithiau a ganfyddid ar y bobl. Dydd o wledd fras i bob cristion ydoedd. Cydunodd y gweinidogion ar y pethau canlynol: (1) I gadw dydd o ddiolchgarwch i'r Arglwydd am arbed y da corniog yn Nghymru rhag y clefyd sydd mewn ffordd o farn oddiwrth yr Arglwydd, wedi difetha miloedd o honynt yn Lloegr. (2) I weinyddu dysgyblaeth lemach ar bersonau o fuchedd anfoesol yn ein gwahanol eglwysi." "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mehefin 2il a'r 3ydd, 1756. Yr oedd y gweinidogion parchedig canlynol yn bresenol, sef Meistri Lewis Jones, Edmund Jones, Lewis Rees, Evan Williams, Thomas Jones, Thomas Davies, Henry Thomas, Rees Davies, William Miller, Benjamin Cadman, Thomas Lewis, William Jones, a William Evans. Pregethodd Mr. Rees Davies bregeth ardderchog y dydd cyntaf oddiwrth 1 Tim. i. 15. Y dydd canlynol pregethodd Mr. Lewis Rees oddiwrth Gal. iv. 18., a Mr. Lewis Jones oddiwrth Mat. xxviii. 20., a bendigedig fyddo enw Duw, oedfa hyfryd ydoedd, canys fe anrhydeddodd yr Arglwydd ni a'i bresenoldeb, i'w enw mawr y byddo'r holl ogoniant. Cydunwyd yn mysg y gweinidogion-(1) I gadw dydd o ympryd a gweddi yn ein gwahanol eglwysi unwaith bob tri mis ar gyfrif cyfeiliornadau yr oes, y marweidd-dra crefyddol sydd yn mysg yr Ymneillduwyr, i ddymuno bendith yr Arglwydd ar arfau Lloegr yn y rhyfel presenol a Ffraingc, ein gelyn cyffredin, i ddeisyf dylanwad yr Ysbryd er troedigaeth y dynion duon yn yr India Orllewinol, ac i ddiolch i Dduw dros y rhai sydd wedi eu dychwelyd yno yn barod. (2) I gadw dysgyblaeth fanylach yn ein heglwysi, ac i fod yn fwy diwyd i holwyddori ein pobl."