Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awdwyr eraill, yn debyg o syrthio i ebargofiant. Pa fodd bynag, dengys ei ysgrifeniadau, yn gystal a'i lafur dibaid fel pregethwr, ei fod yn weithiwr difefl. Yr oedd yn ddyn pur ei fuchedd, ac yn un o'r dynion mwyaf diddrwg a charedig a sangoda y ddaear erioed. Cyfarfyddodd a llawer o helbulon yn mlynyddau diweddaf ei oes, ond cadwodd ei gymeriad moesol yn ddifrycheulyd ynddynt oll. Mae bedd-faen hardd wedi ei osod ar ei fedd yn mynwent y Mynyddbach.

BRYNTEG.

Bernir mai cangen o hen eglwys Ty'rdwncyn yw yr eglwys hon, ac iddi gael ei chorpholi yn eglwys yn amser Mr. Lewis Davies, tua y flwyddyn 1693. Dywedir mai mewn anedd-dy yn Nhrefuchaf, Casllwchwr y dechreuwyd yr achos. Yn gynar yn y ddeunawfed ganrif, symudwyd o'r Drefuchaf i Rhydymardy, ychydig gyda haner milldir yn nes i'r dwyrain. Buwyd yn addoli yn hen dy cyfarfod Rhydymardy hyd y flwyddyn 1815, pryd yr adeiladwyd capel y Brynteg. Mae yn debyg i'r eglwys hon o'r dechreuad fod dan yr un weinidogaeth ag eglwys Ty'rdwncyn hyd y flwyddyn 1747, pryd y cafodd un Thomas Jones ei urddo yma. Nid ydym yn gwybod dim am y gwr hwn, ond ei enw ac amser ei urddiad, yr hyn a gawsom yn llyfr eglwys y Cilgwyn, yn llawysgrifen Mr. Phillip Pugh. Mae yn ymddangos na fu cysylltiad Mr. Jones a'r eglwys hon yn faith, oblegid yn Ebrill, 1754, yr oedd Mr. William Evans yn weinidog yma. Mr. Evans, fel yr ymddengys, oedd y gweinidog cyntaf a gadwodd gofnodion eglwysig yma. Mae ychydig ddalenau wedi haner pydru o'r hen lyfr eglwys, a ysgrifenwyd ganddo ef a'i ganlynyddion, yn awr ger ein bron. Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma, ac yn y Cwmmawr, ddau Sabboth o bob mis hyd y flwyddyn 1770, pryd y bu farw, er mawr alar i'r eglwysi a wasanaethid ganddo mor ffyddlon ac effeithiol. Mae rhai o'r cofnodion a ysgrifenwyd ganddo yn llyfr yr eglwys yn dangos fod yr aelodau yn wasgaredig iawn, bod yr achos yn hen yn ei amser ef, a bod llawer o fywyd a gweithgarwch yn yr eglwys. Yr ydym yn cael fod rhai o'r aelodau yn byw yn ymyl tref Abertawy, a rhai yn mhlwyfydd Llanelli, Llangenych, Llanedi, Llanon, a Llangafelach. Yn mysg y marwolaethau a gofnodir, cawn y rhai canlynol: "Mai 8fed, 1754, bu farw yr hen gristion duwiol a selog David Rowland, o blwyf Llanedi. Yr oedd ei enaid yn llawn cysur yn ei awr ddiweddaf. Claddwyd ef yn Llanedi." "William Harry, o dref Casllwchwr, a ymadawodd a'r byd hwn Ionawr 6ed, 1763. Bu yn aelod o'r eglwys hon tua deugain mlynedd. Yr oedd yn un ffyddlon a diwyd iawn gyda moddion gras. Aeth o'r byd hwn a'i enaid yn gyflawn o dangnefedd, ac a'i ffydd yn ddiysgog yn yr Arglwydd Iesu. Ei eiriau diweddaf ydoedd gorchymyn ei unig fab i ras Duw. Claddwyd ef yn Nghasllwchwr." "David Mathew, hen broffeswr a henuriad llywodraethol yn eglwys Rhydymardy, ac ymadawodd a'r bywyd hwn mewn heddwch a thawelwch enaid, Tachwedd 18fed, 1769."

Yn ol yr hen gofnodion hyn, mae yn ymddangos mai tua thri o aelodau yn y flwyddyn oedd yr ychwanegiad at yr eglwys yn nhymor gweinidog aeth Mr. W. Evans, ar ol tynu allan y marwolaethau. Pan ystyrir mai eglwys fechan mewn gwlad deneu o bobl ydoedd, yr oedd y cynydd yn gymaint ag a allesid ddisgwyl. Mae y cofnodiad canlynol yn dangos nad