Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhyddhawyd ef gan angau ganol dydd, Mawrth 3ydd, 1835, yn 61 oed. Claddwyd ef y Llun canlynol, yn mynwent y Mynyddbach, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Roberts, Abertawy, (un o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd); J. Evans, Crwys; D. R. Stephens, Abertawy, (un o weinidogion y Bedyddwyr), a W. Jones, Penybont-ar-ogwy; ac yr oedd mwy nag ugain o weinidogion eraill yn bresenol. Dygwyd holl draul y claddedigaeth gan yr eglwysi a fuasai dan ei ofal cyhyd, ac yr oedd galar mawr drwy yr holl wlad y diwrnod y rhoddwyd Daniel Evans, Mynyddbach yn "nhy ei hir gartref."

JOHN DAVIES. Ganwyd ef mewn amaethdy bychan ar y Drefboeth, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain o Langafelach i Abertawy, Mai 10fed, 1803. Bu farw ei dad pan yr oedd ef yn ieuangc iawn, ac felly ni chafodd nemawr o fanteision addysg yn ei febyd, am iddo orfod myned i weithio i'r gwaith glo pan yr oedd tua deg oed, er cynorthwyo ei fam weddw i fagu ei theulu. Yn mis Mawrth, 1821, pryd yr oedd yn agos i ddeunaw mlwydd oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Mynyddbach gan Mr. D. Evans, ac yn nechreu y flwyddyn 1828, anogodd yr eglwys ef i ddechreu pregethu. Yn mhen tua blwyddyn wedi hyny aeth i'r ysgol at Mr. Evans o'r Crwys, lle y bu am chwe' mis yn dysgu y Gramadeg Saesoneg. Yn Mehefin, 1831, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Llantrisant, Morganwg, lle yr urddwyd ef Gorphenaf 14eg, yn yr un flwyddyn. Bu yn llafurio yno, ac am dymor yn Nhresimwn, mewn cysylltiad a Llantrisant, hyd Gorphenaf, 1836, pryd y symudodd i Aberdare, i gymeryd gofal yr eglwysi yn Ebenezer, Heolyfelin, a Nebo, Hirwaun. Yn Ebrill, 1840, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam-eglwys yn y Mynyddbach, a'r hon y cydsyniodd, er mor ddigalon oedd agwedd pethau yno y pryd hwnw, o herwydd y rhwygiad oedd newydd gymeryd lle yno. Ni bu ei lafur yn ddilwydd. Cynyddodd yr eglwys yn raddol, fel yr oedd yr aelodau tua dau gant o rif yn hir cyn ei farwolaeth ef. Ar amser ei symudiad o Aberdare, i'r Mynyddbach, priododd a Miss Mary Stephens, o Benycae, Mynwy, o'r hon y cafodd saith neu wyth o blant. Gan fod traul ei deulu yn fwy na'r hyn a dderbyniai oddiwrth yr eglwys, ymgymerodd ag arolygiaeth pwll glo yn y gymydogaeth. O herwydd fod rhy fach o awyr mewn rhyw fan yn y gwaith, aeth ef i mewn i edrych y lle, ac aeth yn rhy bell, fel y syrthiodd yn farw o ddiffyg awyr i anadlu. Cymerodd hyn le Medi 6ed, 1854. Yn mhen rhai blynyddau ar ol ei farwolaeth ymfudodd ei feibion i'r America, ac y mae eu mam er's pedair neu bum' mlynedd bellach wedi myned yno atynt. Y mae dau o'i feibion yn weinidogion yn America.

Yr oedd John Davies yn ddyn cryf ac iachus iawn o gorph, yn un o feddwl gweithgar, ac yn siaradwr grymus dos ben. Nid oedd yn naturiol chwaethus a choethedig o ran ei feddwl, ond pe buasai yn cael addysg dda yn moreu ei oes yr oedd ganddo ddigon o alluoedd i'w gymhwyso i droi yn un o gylchoedd pwysicaf y weinidogaeth yn Nghymru. Yn anngwrteithiedig fel yr ydoedd gwnaeth lawer o ddaioni yn ei dymor. Cyhoeddodd gyfrol a alwai Arch y Cyfamod, ac un arall dan yr enw Clorian y Cysegr, yn nghyda nifer mawr o fan lyfrau ar wahanol byngciau, ac yr oedd wedi cyhoeddi amryw ranau o Eiriadur Duwinyddol, ond bu farw cyn ei orphen. Mae yr hyn oll a ysgrifenodd yn fuddiol ac iachus o ran athrawiaeth, ond nad oes mewn dim a ysgrifenodd un radd o wreiddiolder, tlysni, nac arwydd o athrylith; ac y mae ei ysgrifeniadau ef, fel cynnyrchion miloedd o