Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hon a ddysgodd ar ol ei sefydliad yn Mangor. Cyn hir, priododd a merch ieuange o'r enw Miss Elizabeth Lewis, yr hon oedd yn aelod o'r eglwys dan ei ofal, yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys, ac o'r hon y ganwyd iddo wyth o blant. Wrth weled ei deulu yn cynyddu, a'r eglwys yn Mangor yn rhy wan i'w gynal, a rhyw gynhenau wedi ymlusgo i mewn, gwnaeth Mr. Evans ei feddwl i fyny i ymadael, a chyn gynted ag y deallwyd hyny, derbyniodd alwadau oddiwrth luaws o eglwysi gweigion, ond tueddwyd ei feddwl i gydsynio a galwad hen eglwys barchus Mynyddbach, a symudodd yno yn Mehefin 1808. Dechreuodd ei weinidogaeth yn y Mynyddbach fel cydlafurwr a'r enwog David Davies, ond yn fuan barnwyd yn ddoethach, fel y crybwyllasom, i ranu y maes eang, a disgynodd y Mynyddbach a Threforis i ran Mr. Evans. Am lafur a gweithgarwch Mr. Evans yn y maes eang yma, caiff hanes y lleoedd a gychwynodd ac a faethrinodd lefaru pan y deuwn atynt; ond gallwn ddyweyd yma na bu gweinidog erioed yn cael ei barchu yn fwy gan bobl ei ofal na Mr. Evans, ac er iddo orfod rhoddi rhai o'r eglwysi i fyny cyn ei farwolaeth o herwydd eangder cylch ei weinidogaeth, etto, yr oedd ganddo fawr ofal am danynt hyd ei ddiwedd, ac edrychent hwythau i fyny ato yntau fel eu tad. Yn y flwyddyn 1820, claddodd Mr. Evans ei ail wraig, yn 36 oed, gan ei adael yn unig gyda phump o blant bach ar ganol eu magu. Bu farw merch iddo yn bedair-ar-ddeg oed, yn mhen blwyddyn ar ol ei mam, ac yn mhen rhai blynyddau bu farw ei fab hynaf yn bedair-ar-bymtheg oed. Cafodd felly fel y gwelir ei ran o drallodion teuluol. Priododd drachefn a Miss Jane John, o'r hon y ganwyd iddo ddau o blant, a'r hon a adawodd yn weddw ar ei ol.

Yr oedd Mr. Evans yn wr galluog mewn corph a meddwl-yn addfwyn a phwyllog o ran ei dymer-yn nodedig o graff o ran ei sylw a'i farn, fel y diangodd heb gael ond ychydig o ofid yn ei gysylltiadau eglwysig. Yr oedd yn bregethwr sylweddol, ac yn traddodi yn rymus, ac yn ddigon hyawal i fod yn foddhaol gan unrhyw gynnulleidfa; ond gan bobl ddeallgar y gwerthfawrogid ef fwyaf. Oran ei olygiadau duwinyddol Calfiniad cymhedrol oedd Mr Evans. Yr oedd wedi darllen gweithiau Dr. Edward Williams ac Andrew Fuller, ac i'r ysgol hono y perthynai, er na ddywedai bob peth yn hollol yn eu ffordd hwy. Ysgrifenodd amryw draethodau, i'r rhai y rhoddwyd lledaeniad eang yn adeg eu cyhoeddiad. Traethawd ar gadwedigaeth babanod, Y Cawg Aur, Cawell y bara croyw, Rhesymau dros Ymneillduaeth, Llyfr Hymnau, &c.; heblaw y bywgraphiadau a ysgrifenodd i Meistri Lewis Rees, Mynyddbach; J. Davies, Alltwen; W. Evans, Cwmllynfell; J. Davies, Llansamlet, ac eraill. Cyhoeddodd hefyd Leferydd yr asyn, yn erbyn Vicer Penbre am ailfedyddio plentyn, ar ol Mr. Howell Williams, Llanelli. Yr oedd yn weithiwr difefl, cyn y gallagai wneyd cymaint o waith, ac erys ei goffadwriaeth yn barchus yn y wlad lle y treuliodd ei oes i lafurio. Bu Mr. Evans yn gwaelu am beth amser. Y Sabboth diweddaf y pregethodd oedd Rhagfyr 7fed, 1834, yn y Mynyddbach, y boreu, ac yn Siloh, Glandwr, am dri o'r gloch yn y prydnawn. Ei destyn diweddaf ydoedd, Marc xvi. 15. "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Y dydd Iau canlynol aeth i lawr i ardal Glandwr i gasglu at yr ymdrech a wneid ar y pryd i dalu dyledion capeli yn Nghymru. Tarawyd ef gan boen yn ei ochr, yr hwn a'i blinodd dros rai dyddiau-yna trodd yn beswch blin, yr hwn a lynodd wrtho hyd nes