Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod cymhwysderau ynddo at y weinidogaeth, ac anogwyd ef i barotoi at hyny. Gwnaeth y prawf cyntaf ar bregethu yn nhy ei hen weinidog, Mr. Phillips, ac er mai gwan oedd yn ei farn ei hun, etto cymhellid ef i fyned yn mlaen, ac felly y bu am ysbaid blwyddyn yn pregethu ychydig o dŷ i dŷ cyn cael ei gydnabod yn bregethwr rheolaidd gan yr eglwys. Galwyd arno i bregethu mewn cyfarfod eglwysig yn y capel, ac wedi ei wrandaw, pasiwyd penderfyniad i'w gymeradwyo i sylw eglwysi eraill, pa le bynag y byddai galwad am dano; ac ar ol hyn pregethai fynychaf yn rhywle bob Sabboth. Nid oedd etto wedi cyrhaedd ei ddeunaw mlwydd oed, a pharhai i ddilyn ei alwedigaeth bob dydd, a phregethu y Sabboth lle y gelwid am ei wasanaeth. Pan tua 22 oed, gwahoddwyd ef i Lanwrtyd i gydlafurio a Mr. Isaac Price yno, ac yn Nhroedrhiwdalar, a bu yno yn llafurio yn ddiwyd a chyda chymeradwyaeth am dair blynedd. Yn yr ysbaid y bu yn Llanwrtyd, priododd a Mrs. Mary Jones, gweddw Mr. Rhys Jones, Llawrdre, yn mhlwyf Llanwrtyd, yr hon oedd yn lled gysurus arni o ran ei hamgylchiadau bydol, ac heb ond un ferch. Yn y flwyddyn 1799, penderfynodd fyned ar daith trwy y Gogledd. Nid oedd etto wedi yn teimlo i ei urddo i holl waith y weinidogaeth, ac ymddengys ei fod raddau oblegid arafwch yr hen weinidog a'r eglwysi yn symud yn mlaen at hyny. Yr oedd yr hybarch D. Williams, Llanwrtyd yn fachgenyn ieuangc yn cychwyn gydag ef i'r daith hon. Ymwelsant a Bangor, İle yr oedd eglwys fechan heb weinidog, oblegid symudiad Mr. W. Hughes i Ddinas Mawddwy rai blynyddau cyn hyny. Derbyniodd Mr. Evans alwad gan yr eglwys yn Mangor; ac wedi ymgynghori a Dr. Lewis, a Meistri J. Griffith, Caernarfon; B. Jones, Pwllheli, a J. Powell, Rhosymeirch, y rhai a'i cymhellent i gydsynio, atebodd yr alwad, a symudodd i Fangor yn nechreu y ganrif bresenol. Yr oedd Mr. Price, a'r eglwysi oedd dan ei ofal erbyn hyn yn anfoddlawn iddo symud, ond yr oedd ei wraig yn gryf dros fyned, a theimlai yntau y gallasai fod o fwy o ddefnydd yn Mangor yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Mangor, urddwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Griffith, Caernarfon; holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Davies, Treffynon; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. B. Jones, Pwllheli. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri J. Evans, Amlwch; J. Powell, Rhosymeirch; J. Jones, Ceirchiog, a T. Jones, Beaumaris. Nid oedd rhifedi yr aelodau ar ei sefydliad yn Mangor ond pump-ar-hugain, ac yr oedd y capel mewn man anghyfleus, y tu allan i'r ddinas. Deg punt y flwyddyn oedd y cwbl a allent addaw iddo, ac nis gallasai fyw oni buasai yr ychydig eiddo oedd gan ei wraig. Llwyddodd Mr. Evans i gael lle i adeiladu capel mewn man mwy cyfleus yn y ddinas, a gwelodd y fath lwyddiant ar ei lafur, fel yr oedd rhifedi yr aelodau wedi cynyddu cyn ei ymadawiad a'r lle i driugain-a-deg. Nid ymfoddlonodd Mr. Evans yn unig ar lafurio yn Mangor a'r amgylchoedd, ond ymestynodd ei lafur i Lanfairfechan, Dwygyfylchi, Henryd, a Llanrwst, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at hanes yr eglwysi hyny. Cyfarfu a phrofedigaethau yn ysbaid ei arosiad yn Mangor. Bu farw ei wraig, ac yn fuan bu farw ei merch, a gadawyd yntau yn unig; a chan fod eiddo y wraig yn dychwelyd ar farwolaeth y ferch i deulu y gwr cyntaf, nid oedd gan Mr. Evans yn awr ond y weinidogaeth i ymddibynu arni, heblaw yr ychydig a ennillai oddiwrth y gelfyddyd o rwymo llyfrau,