Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Calfiniad cymedrol oedd Mr. Rees o ran ei olygiadau athrawiaethol, ond er nad oedd yn uchelgalfiniad yr oedd yn mhell o goleddu unrhyw gydymdeimlad a'r Arminiaeth anefengylaidd a bregethid gan lawer o weinidogion Ymneillduol ei oes. Teimlai sel angerddol dros athrawiaeth efengylaidd, tra yr oedd mor selog a hyny yn erbyn golygiadau antinomaidd. O herwydd ei fod yn dal mor dyn dros sancteiddrwydd ymarferol, yn ei bregethau, dywedodd dyn wrtho unwaith, "Pregethwch rad ras i'r bobl, ac fe ddysg gras iddynt wneyd eu dyledswydd." "Yr wyf yn ofni," atebai yntau, "y dysg eu llygredd iddynt beidio." Er fod ei fab, Dr. Abraham Rees, yn Arminiad uchel, os nad yn Ariad, nid oedd yn dylanwadu dim ar olygiadau efengylaidd ei dad. Darfu i'w sel dros syniadau efengylaidd gyffroi Mr. Rees, yn y flwyddyn 1793, pryd yr oedd yn daira-phedwar-ugain oed, i gyfieithu a chyhoeddi pregeth Dr. Bogue, ar y "Mawr bwys o fod ein tybiau mewn crefydd yn gyson a'r Ysgrythyr." Er ei fod yn selog dros ei olygiadau neillduol ei hun, yr oedd yn ddyn nodedig o ryddfrydig. Cyfeillachai lawer a'r Methodistiaid, ac fel y mae yn hysbys, trwy ei anogaeth ef yr aeth Mr. Howell Harris gyntaf i'r Gogledd. Er iddo gael mesur o ofid yn Llanbrynmair o herwydd y croesolygiadau ar fedydd oedd yn yr eglwys, a bod rhai o'r Bedyddwyr mwyaf penboeth yn feio, etto yr oedd y rhai duwiolaf a mwyaf rhyddfrydig o'r enwad hwnw, yn gystal ag enwadau eraill, yn ei anwylo a'i barchu. Aeth un o weinidogion y Bedyddwyr yn Abertawy ato unwaith i ofyn benthyg ei geffyl i fyned i daith i bregethu. "Cewch a chroesaw frawd anwyl, canys dyfroedd lawer nis gallant ddiffoddi cariad," oedd ei ateb iddo. Yn 1812, cyhoeddwyd llyfryn bychan o hanes bywyd Mr. Rees, gan Mr. Roberts, Llanbrynmair. Ond gan na chyhoeddwyd dim am dano hyd ben deuddeng mlynedd ar ol ei farwolaeth, a phan oedd y rhan fwyaf o'r rhai a'i cofient yn nyddiau ei nerth wedi meirw, a chan nad ymddengys fod Mr. Rees yn arfer cadw cofnodion ysgrifenedig o'i lafur a'i helynt, y mae canoedd o ffeithiau dyddorol yn ei hanes wedi eu colli. Dydd y farn yn unig a ddengys y daioni a wnaed ganddo yn Neheudir a Gogledd Cymru.

DAVID DAVIES. Rhoddir ei fywgraphiad ef yn nglyn a hanes Ebenezer, Abertawy.

DANIEL EVANS. Ganwyd Daniel Evans mewn anedd-dy o'r enw Maindala, yn mhlwyf Eglwyserw, yn sir Benfro, Ionawr 16eg, 1774. Enwau ei rieni oedd David ac Ann Evans, ac yr oeddynt yn bobl onest a pharchus yn ngolwg eu cymydogion. Symudodd ei rieni cyn hir ar ol geni Daniel Evans, i le a elwir Trefygin, ac oddiyno drachefn i le a elwir Treboeth, yn mhlwyf Trewyddel. Cafodd yma ychydig fanteision addysg, gwell nag a roddid yn gyffredin i blant yn y dyddiau hyny. Nid oedd ond egwan o gorph y pryd hwnw, ac oblegid hyny, gadawyd ef yn hwy yn yr ysgol na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion. Dysgodd ddarllen ac ysgrifenu, ac ychydig o rifyddiaeth a Gramadeg Saesonaeg. Pan yn ddeuddeg oed rhwymwyd ef yn egwyddorwas gyda dilledydd, ac wedi treulio dwy flynedd felly, bu yn gweithio o fan i fan yn y gymydogaeth. Yr oedd er yn ieuangc o duedd fyfyrgar, a dilynai bobl oedranus i foddion gras, a dywedai fod arno er yn blentyn awydd am fyned yn bregethwr. Pan tua phymtheg oed teimlodd argraffiadau crefyddol cryfion ar ei feddwl, yn benaf trwy bregethau ei hybarch weinidog, Mr. John Phillips, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn Nhrewyddel. Yn fuan wedi ei dderbyniad yn aelod, barnodd yr eglwys a'r gweinidog