Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. John Davies, Llansamlet, Mawrth 21ain, 1800, yn 90 oed, ar ol bod yn pregethu yr efengyl am tua thriugain a deg o flynyddau. Ei destyn diweddaf yn y Mynyddbach oedd, "Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio." Dywedir fod yr oedfa hono yn nodedig o doddedig. Claddwyd ef yn mynwent y Mynyddbach. Ar yr achlysur pregethwyd gan Mr. Evan Davies, Llanedi, oddiar Luc ii. 29. Testyn a ddewisasid gan yr ymadawedig flynyddau cyn ei farwolaeth.

Tua y flwyddyn 1740, priododd Mr. Rees ferch Mr. Abraham Penry, gwr cyfrifol o ardal Maesyronen, a bu yn ddedwydd iawn yn ei sefyllfa briodasol am bedair blynedd-ar-ddeg-a-deugain. Cawsant chwech o blant, yr ail o ba rai oedd yr enwog Dr. Abraham Rees. Eu hunig ferch oedd Mary, gwraig Mr. John Davies, Llansamlet. Pan aeth Mr. Rees at ei dad-yn-nghyfraith i ofyn ei ganiatad i gael ei ferch yn wraig, gofynodd iddo pa eiddo oedd ganddo i gyfateb i'r hyn oedd ganddo ef i'w roddi gyda'i ferch. Yntau a ymaflodd mewn Bibl, ac a atebodd, "Hwn yw fy nghynysgaeth i." Boddlonodd hyny Mr. Penry, a chaniataodd iddo gael ei ferch yn wraig.

Yr oedd Mr. Rees yn un o'r gweinidogion mwyaf enwog, llafurus, a defnyddiol yn ei oes. Teithiodd lawer trwy holl siroedd Cymru, ac yr oedd yn dderbyniol a defnyddiol pa le byang yr elai. Fel pregethwr rhagorai ar y rhan fwyaf o'i gydoeswyr, ac fel gweddiwr yr oedd heb ei ail. Sonia amryw o'i gydnabod am yr effeithiau digyffelyb a gydgerddent a'i weddiau cyhoeddus. A thra yr oedd ei gyflawniadau cyhoeddus agos bob amser yn cael eu dilyn gan effeithiau daionus, nid oedd ei ymddiddanion cyfrinachol a phersonau unigol a theuluoedd yn llai effeithiol. Unwaith aeth i dŷ i lettya, ac ar ol swper, adroddai y tad a'r fam wrtho gyda dagrau y gofid a deimlent o herwydd afradlondeb eu hunig blentyn, Thomas, yr hwn oedd yn troi allan yn llangc gwyllt iawn. Bore dranoeth cyn y weddi deuluaidd, ymaflodd Mr. Rees yn llaw y gwr ieuangc, a siaradodd ychydig yn effeithiol a serchus ag ef am fater ei enaid, ac yn ei weddi tywalltai allan ddymuniadau ei galon ar ei ran gyda dylanwad anorchfygol. Yn mysg pethau eraill, dywedai, "O Arglwydd, dywed wrth y Thomas hwn,Na fydd anghredadyn, ond credadyn."" Dywedai Thomas ar ol hyny, fod y geiriau yn myned i'w galon fel cleddyf. Y canlyniad fu iddo gael ei wir droi at yr Arglwydd, a threuliodd weddill ei oes yn gristion hardd. Adroddai Mr. Roberts, Llanbrynmair, yr hwn oedd yn fab i un o gyfeillion mynwesol Mr. Rees, yr hanesyn canlynol:"Pan oedd Mr. Rees ar ymweliad yn Llanbrynmair, ar ol iddo symud i'r Mynyddbach, galwodd un diwrnod, tua chanol dydd, yn nhŷ fy nhad, ychydig wythnosau wedi marwolaeth fy mam. Ar ol ymddiddan ychydig a fy nhad, dymunodd am i'r plant gael eu galw yn nghyd i'r ystafell. Efe a eisteddai mewn cadair freichiau. Galwodd ato bob un o'r plant, ac yr oeddym yn saith o nifer. Ymaflodd yn llaw pob un o honom, o'r hen af i'r ieuengaf, gan ofyn ein henwau, a dywedyd ychydig eiriau caredig wrthym, cyfatebol i'n hoed. Ar ol darllen penod, ac egluro ychydig arni, aeth ar ei luniau a gweddiodd, gan ddymuno rhyw beth neillduol i bob aelod o'r teulu, ac enwi pob un o'r plant wrth ei enw. Er nad oeddwn i y pryd hwnw ond un-flwydd-ar-ddeg oed, gadawodd argraff ar fy meddw nas gall amser byth ei dileu." Nid yw yr hanesion hyn ond engreifftiau o'r hyn a wnelai y dyn da hwn yn gyffredin yn y teuluoedd yr elai iddynt.