Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anfonodd et rieni Lewis Rees i ysgol a gedwid gan Mr. Henry Davies, eu gweinidog. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mlaengwrach pan yn ieuange iawn. Ar ol bod am rai blynyddau yn ysgol Mr. Davies, aeth i ysgol Mr. Joseph Simons, yr hwn a gadwai ysgol ramadegol yn, neu yn agos i Abertawy. Wedi hyny, bu am dymor yn derbyn addysg gan Mr. Rees Price, Ty'nton, Penybont-ar-ogwy, ac oddiyno aeth i'r athrofa i'r Llwynllwyd, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal Mr. Vavasor Griffith. Pan ddeallodd ei athraw ei fod yn ŵr ieuangc gobeithiol a galluog fel pregethwr, a'i fod trwy y manteision a gawsai yn flaenorol yn ysgolhaig lled dda, anogodd ef, ar ol iddo fod yno ychydig fisoedd, i fyned allan ac ymroddi i waith y weinidogaeth, gan fod y fath angen yn y wlad am wasanaeth gwr o'r fath gymhwysderau. Tua yr amser hwnw galwodd yr apostolaidd Edmund Jones, o Bontypool, heibio y Llwynllwyd, ar ei ffordd adref o daith trwy y gogledd. Rhoddodd anogaeth rymus i'r gwr ieuangc i fyned i Lanbrynmair, lle y barnai fod maes addawus iddo i'w wrteithio, ac er ei galonogi aeth yn ei ol o'r Llwynllwyd gydag ef i'w gyflwyno i'r bobl, a'r bobl iddo yntau. Bernir mai yn y flwyddyn 1734, y cymerodd hyn le. Ymserchodd Mr. Rees a'r bobl yn eu gilydd, ac ychwanegwyd llawer at y gynnulleidfa yn fuan. Bu yno am bedair blynedd cyn iddo gael ei urddo. Yn ei fam-eglwys yn Mlaengwrach yr urddwyd ef, Ebrill 13eg, 1738. Yna dychwelodd i Lanbrynmair, lle yr ymaflodd yn ei waith a'i holl egni. Yn 1739, adeiladwyd y capel, a thrwy lafur dibaid y gweinidog, talwyd y ddyled mewn ychydig amser. Bu sefydliad Mr. Rees yn Llanbrynmair yn fendith, nid yn unig i'r ardal hono, ond hefyd i Ogledd Cymru yn gyffredinol. Yr ydym eisioes wedi cael achlysur i grybwyll am ei lafur, ei lwyddiant, a'i beryglon yn y Bala, Llanuwchllyn, a Llanymawddwy, a phan y delom at hanes yr eglwysi yn Arfon o Mon, bydd genym etto lawer o bethau dyddorol i'w cofnodi am ei lafur a'i ddyoddefiadau. Bu yn rhyfeddol o lafurus a llwyddianus i blanu achosion newyddion mewn gwahanol ardaloedd, yn Maldwyn a Meirion, yn ysbaid ei arosiad yn Llanbrynmair, ac nid oedd un eglwys Annibynol yn y Gogledd, yn y tymor hwnw, nad ymwelai efe a hi unwaith neu ddwy bob blwyddyn. Tua y flwyddyn 1745, symudodd o Lanbrynmair i Faesyronen, Maesyfed, a bu yno dair blynedd, yna dychwelodd at ei hen gyfeillion i Lanbrynmair. Byddai yn myned atynt yn fisol trwy ysbaid y tair blynedd y bu yn Maesyronen, ac ni chafodd lonyddwch ganddynt hwy na chan ei feddwl ei hun nes iddo ddychwelyd atynt. Mae yn debyg mai ei amgylchiadau teuluol a barodd y symudiad hwn, canys un o gymydogaeth Maesyronen oedd ei wraig. Ar ol llafurio drachefn yn Llanbrynmair a'r cylchoedd o 1748 hyd 1759, gwnaeth ei feddwl i fyny i symud i'r Deheudir ac i beidio dychwelyd mwy. Mewn cydsyniad a galwad yr eglwys yn Nhy'rdwneyn, symudodd yno yn 1759, ac yno y bu nes i lesgedd henaint ei orfodi yn y flwyddyn 1795, i roddi ei weinidogaeth i fyny. Mae yn debyg mai sefyllfa isel crefydd yn nghymydogaeth Abertawy, yn nghyda'r ystyriaeth fod Mr. Richard Tibbot yn un cymwys yn mhob ystyr i gymeryd ei le yn Llanbrynmair, a'i harweiniodd i'r penderfyniad i symud, a dangosodd ei lwyddiant yn y cylch hwn, a llwyddiant Mr. Tibbot yn Llanbrynmair, iddo wneyd yr hyn oedd yn unol a meddwl yr Arglwydd. Ar ol rhoddi ei ofal gweinidogaethol i fyny yn y Mynyddbach, Ysgetty, a Threforis, parhaodd Mr. Rees i bregethu yn achlysurol hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Bu farw mewn tangnefedd yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith,