Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nhy'rdwncyn wedi i Mr. Rees ddyfod yno, a dengys llawysgrifau Mr. William Jones, fod Mr. Jones yn cadw ei Sabboth yn lled reolaidd yn y blynyddoedd 1764 a 1765, ond ni bu yn pregethu o gwbl yno yn 1766, etto yr oedd yn fyw, canys derbyniodd arian o'r Drysorfa Henadurol o Lundain yn y flwyddyn hono. Digon tebyg ei fod erbyn hyn wedi methu gan henaint, ac iddo farw yn y flwyddyn 1767, neu 1768, ond gan nad yw ysgrifau William Jones am y blynyddoedd hyny yn ein meddiant, nac un crybwylliad am dano mewn un llawysgrif arall, nac argraph a welsom ni, nis gallwn benderfynu amser ei farwolaeth. Gyferbyn a Tachwedd 24ain, 1764, ysgrifena Mr. W. Jones, "Y Sabboth hwn myfi a aethum i'r cwrdd fel arferol, ond ni chawsom ni yr un bregeth yno. Rhwng bod yr hin oer, a'r ffordd yn bell, Mr. Jones a dariodd gartref." Ar ddiwedd cofnodiad helaeth o bregeth gan Mr. Jones, oddiar Luc xiv. 47, yr hon a draddododd yn Nhy'rdwneyn, Awst 18fed, 1764, cawn fel y canlyn, "Hefyd mae cenhadon Duw yn galw ar eich hol. Myfi heddyw, (meddai yr hen ŵr,) sydd yn galw arnoch yn ngwydd nefoedd a daear i ddychwelyd at yr Arglwydd." Ac o'r cynghorion perthynasol, yr anogaethau tyner, a'r geiriau ennillgar oedd ganddo. Mor hyfryd yw traed y rhai sydd yn efengylu pethau daionus; ie yn wir, mor hyfryd yw eu gwedd, ac mor ardderchog yw eu swydd; mor fawr yw eu gwaith, etto mor ddysglaer fydd eu coron.' Er fod Samuel Jones yn ysgolhaig rhagorol, ac yn bregethwr da, etto, nid ymddengys ei fod yn ddyn cyhoeddus iawn. Unwaith yn unig y cawsom ei enw mewn cysylltiad ag urddiadau gweinidogion, ac ni ddigwyddodd i ni weled ei enw yn cael ei grybwyll mewn hanes unrhyw gyfarfod gweinidogion. Dichon fod ei amgylchiadau yn gyfyng, a'i fod yn cael ei gaethiwo gydag ysgol ddyddiol dros y rhan fwyaf o'i oes. Os felly, y mae yn hawdd cyfrif am ei anghyhoeddusrwydd. Mae yn amlwg ei fod yn bregethwr galluog, ac y mae y nifer o'i bregethau a ysgrifenwyd gan William Jones, yn dangos fod ei syniadau yn efengylaidd, ac os oedd yn Arminiad, nad oedd wedi myned cyn belled i'r tir hwnw a rhai o'i gydoeswyr.

LEWIS REES. Ganwyd y diwygiwr a'r gweinidog enwog a llafurus hwn yn Glynllwydrew, Cwmgwrach, Glynnedd, Mawrth 2il, 1710. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau o'r eglwys yn Mlaengwrach, dan ofal gweinidogaethol Mr. Henry Davies. Enw ei dad oedd Rees Edward Lewis. Mab i offeiriad plwyf Penderyn ydoedd. Gofynodd Mr. Rees i'w dad ryw dro pan yn blentyn, pa beth a barodd iddo ef, ac yntau yn fab i offeiriad, ymuno a'r Ymneillduwyr; a'r ateb a gafodd ydoedd, "Lewis bach, gwrando fy machgen i, mi adewais dŷ fy nhad, ac mi ymneillduais oddiwrth yr Eglwys Wladol, o herwydd ysbryd erlidigaethus yr offeiriaid a'r uchel-eglwyswyr yn gyffredinol, ac yr oedd yn rhaid i mi ymneillduo neu fod yn elyn calon i grefydd a chanlynwyr Iesu Grist, ac mi a sicrhaf i ti, Lewis, os byddi di byw i weled fy oedran i, a bod o rhyw ddefnydd gydag achos Crist, y cai dithau deimlo yn chwerw oddiwrth eu hysbryd erlidgar hwy. Hefyd, Lewis, nid wyf yn gweled pa fodd y gall dyn fod yn dduwiol wrth erlid duwiolion, na pha fodd y gall Eglwys Wladol fod yn eglwys i Grist, ac hefyd yr wyf yn dewis crefydda yn mysg y dybycaf eu hysbryd i ysbryd addfwyn Iesu Grist.' Yn yr ateb hwn cafodd y mab ddigon o resymau dros ei ymneillduaeth gan ei dad, fel na ofynodd ddim iddo ar y pen hwn mwyach. Un o ddau o blant oedd Mr. Rees. Christiana oedd enw ei chwaer, yr hon a dreuliodd y rhan fwyaf o'i hoe s yn agos i Benybont-ar-ogwy, lle y bu farw. Pan yn blentyn ieuangc