Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

ROBERT THOMAS. Rhoddir yr ychydig hanes sydd genym am dano ef yn nglyn a hanes Maesyrhaf, Castellnedd.

LEWIS DAVIES. Mae yn debygol mai un genedigol o blwyf Llanedi, sir Gaerfyrddin, ac mai aelod o'r eglwys Ymneillduol yno ydoedd. Yn yr Erw-wastad yn y plwyf hwnw yr oedd yn cyfaneddu. Urddwyd ef tua y flwyddyn 1693, a bu Mr. Llewellyn Bevan, Cwmllynfell, a Mr. John Thomas, Aberafan, yn ei gynorthwyo am rai blynyddau, canys yr oedd cylch ei weinidogaeth yn eang iawn. Mae yn ymddangos ei fod yn weinidog rhagorol, ac yn ymdrechgar iawn i addysgu ei bobl yn ngwirioneddau mawrion yr efengyl. Geilw Mr. Edmund Jones ef yn "weinidog enwog iawn." [1] Yr ydym yn barnu iddo farw tua'r flwyddyn 1712.

SAMUEL JONES. Yr ydym ni yn barnu nad oes yr un sail i ameu mai yr un gwr yw hwn a Samuel Jones, Capel Sion, sir Gaerfyrddin. Bernir mai un genedigol o blwyf Llanedi oedd yntau. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, fe ddichon mewn rhan dan Mr. William Evans, ac mewn rhan dan Mr. Thomas Perrot. Bu am rai blynyddau yn byw yn Mhentwyn, Llanon, ac yn cadw ysgol enwog iawn yno. Bu y dysgedig Dr. Richard Price, o Lundain; Mr. Owen Rees, Pentretygwyn, tad Mr. Josiah Rees, Gellionen; Mr. Thomas Morgan, Henllan, ac amryw eraill a ddaethant i enwogrwydd, yn derbyn eu haddysg yn yr ysgol hon. Yr oedd y gair fod Mr. Jones yn gogwyddo at Arminiaeth, ac o herwydd hyny, yr oedd Mr. Edmund Jones yn groes i Thomas Morgan, wedi hyny o Henllan, fyned i'w ysgol. Mae yn lled debyg fod rhyw sail i'r dybiaeth ei fod yn tueddu at Arminiaeth, canys yr ydym yn cael ei fod yn traddodi y siars ar urddiad Mr. David Lloyd yn Llwynrhydowen, yn 1745, ac mae yn hysbys mai canlyniedydd Mr. Jenkin Jones, yr Arminiad, oedd Mr. Lloyd. Pa fodd bynag, y mae yn amlwg fod Mr. Jones yn ddyn difrifol a chrefyddol iawn. Mae Thomas Morgan, Henllan, wrth son am ei fynediad i ysgol Mr. Jones, yn dyweyd, "Tua thri o'r gloch yn y prydnawn cychwynasom o Abertawy, a chyrhaeddasom Bentwyn yn sir Gaerfyrddin erbyn machlud haul. Llonwyd fi yn fawr wrth weled y teulu mor grefyddol, yn darllen ac adrodd yr Ysgrythyrau, ac yn canu Salmau." yn ymddangos fod Capel Sion, Llanddarog, a Thy'rdwncyn, dano fal Mr. Jones oddiar dechreuad ei weinidogaeth, ond rhoddodd Gapel Sïon i fyny tua y flwyddyn 1752, neu yn fuan ar ol hyny. Symudodd o Bentwyn i rywle yn mhlwyf Penbre, lawer o flynyddau cyn ei farwolaeth. Mae yn debyg mai rhyw gysylltiadau teuluol a barodd iddo symud yno, canys nid oedd un eglwys Ymneillduol yn y plwyf hwnw yn ei amser ef. Yr oedd ganddo ffordd bell i fyned o Benbre i Dy'rdwncyn, ond nid mwy nag oedd gan lawer o weinidogion yn yr oes hono, ac oesau diweddarach, i fyned at eu heglwysi. Mae yn ymddangos i Mr. Jones yn ei flynyddau olaf symud o Benbre i Dreforis i gadw ysgol, ac yr oedd ei fab, yr hwn oedd yn efrydydd, yn ei gynorthwyo gyda'r ysgol. O herwydd gofal ysgol ddyddiol, yn nghyda gradd o effeithiau henaint, rhoddodd Mr. Jones a'r eglwys yn Nhy'rdwncyn yn 1759, alwad i Mr. Lewis Rees i ddyfod yn gydweinidog ag ef. Un Sabboth yn y mis y byddai Mr. Jones yn pregethu

  1. History of the parish of Aberystruth. Page 113.