Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny, canys yr oedd y Dr., er ieuenged ydoedd, yn cael ei gydnabod yn mysg gweinidogion Llundain yn 1760, cyn pen blwyddyn ar ol i'w dad symud i'r Mynyddbach. Yr oedd ef yn mysg gweinidogion y tri enwad yn llongyfarch Sior III. ar ei esgyniad i'r orsedd, ac yr oedd drachefn yn mhen triugain mlynedd yn blaenori gweinidogion y tri enwad yn eu llongyfarchiad i Sior IV. ar ei esgyniad yntau i'r orsedd.

Cafodd pob un o'r rhai blaenorol eu hurddo yn weinidogion; ond y mae nifer o bregethwyr defnyddiol wedi cyfodi yma o bryd i bryd na fuont yn weinidogion urddedig; megis, David Hugh, Thomas Evan, David Roberts, yr hwn fu yn pregethu am agos i ddeugain mlynedd gyda pharch a derbyniad nodedig; William Lloyd, John Jones, Howell Hopkin, Daniel David, Thomas Griffith, Ebenezer Edwards, Benjamin Gray, David Jones, gwr ieuangc galluog a gobeithiol a fu farw yn 1824, yn 21 oed, gyda'i fod yn dechreu ymagor yn ei ddefnyddioldeb; Daniel Evans, mab Mr. Evans, y gweinidog. Bu yn fyfyriwr yn athrofa Cheshunt, ond bu farw yn Mawrth, 1835, yn mhen ychydig ddyddiau ar ol ei dad; Samuel Samuel, Evan Jones, Edward Hughes sydd yn awr yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, a'i frawd William Hughes, yr hwn sydd yn ddiweddar wedi dechreu pregethu. Mae y brodyr hyn oll, ond y ddau olaf, wedi gorphen eu gyrfa ddaearol, oddieithr fod un neu ddau o honynt yn fyw yn yr America. Bu rhai o honynt yn ddefnyddiol iawn yn eu hoes, ac y maent yn awr yn derbyn eu gwobr.

Heblaw y pregethwyr a gyfodwyd yn yr eglwys hon, bu ynddi o bryd i bryd lawer o bersonau mwy anghyhoedd, ond etto, nodedig am eu duwioldeb a'u defnyddioldeb. Yn mysg y rhai, gellir crybwyll y tri John Powell, o Gefnyfforest, sef y tad, y mab, a'r wyr. Dywedir mai dan bregeth a draddodwyd gan Mr. Howell Harris wrth Gorseinion, y dygwyd y John Powell, cyntaf, i ystyried ei ddiwedd. Ymunodd yn fuan wedi hyry a'r eglwys yn y Mynyddbach, a bu yn ddefnyddiol iawn fel aelod a pregethwr achlysurol hyd ei farwolaeth. Yr oedd ei fab John Powell, yr ail, hefyd yn aelod ffyddlon, ac yn swyddwr defnyddiol; a bu John Powell, y trydydd, hefyd yn ddefnyddiol a pharchus fel aelod a swyddwr am lawer o flynyddau. Y mae yntau yn awr wedi huno gyda'i dadau, ond y mae ei ddau fab yn debygol o lynu yn ffyddlon yn ngwasanaeth Duw eu henafiaid. Dylai enwau Evan Dafydd a Thomas ei fab, taid a thad Mr. T. Davies, Treforis, a Mr. John Davies, Taihirion, gael eu cadw mewn coffadwriaeth barchus, fel gwyr cedyrn yn yr ysgrythyrau, ac yn enwog am eu ffyddlondeb. Y mae enwau Dafydd Sion Rees, o Gadle; John Rees ei frawd; William Awbre, a Dafydd William, Gelliwern; John Humphreys, o'r Castell, tad Mr. W. Humphreys, Cadle; David Jones, y teiliwr, un o ffyddloniaid y cyfarfod gweddi; John Rosser, John Davies, apostol yr ysgol gân; Evan Jenkin, Jeremiah David, Benjamin David, William Rees, o Gadle, a llawer eraill a allesid grybwyll, yn perarogli yn yr ardal hyd y dydd hwn, a hiliogaeth llawer o honynt yn glynu yn ffyddlon gyda yr achos oedd mor agos at galonau eu henafiaid. Daniel James yw braidd yr unig un o gyfoedion y gwyr uchod sydd yn awr ar dir y byw. Iddo ef yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau a gynwysir yn yr hanes blaenorol. Er ei fod yn awr yn ei wythfed flwydd a phedwar ugain, y mae yn mwynhau iechyd da, Parhacd yr hen eglwys barchus o oes i oes, i gyfodi dynion o gyffelyb feddwl, i'r tadau fu wyr enwog gynt.