Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trigolion y Cwm, penderfynwyd symud o Abernant-y-fedwen i Gwmnedd, ac agorodd un Jenkin Morgan, Maesmarchog, ei dŷ i dderbyn yr Arch, Cafwyd trwydded ar y tŷ rhag i neb gymeryd eu rhyddid i aflonyddu arnynt, symudodd Mr. Morgan Lewis i Gwmnedd i fyw, ac yr oedd cael ei bresenoldeb cyson yn mhob moddion yn.help mawr i'r achos yn ei gychwyniad. Torodd diwygiad grymus allan yn fuan ac ychwanegwyd degau at yr achos, llawer o ba rai a fu yn addurn i'w proffes hyd angau. Aeth tŷ Jenkin Morgan yn llawer rhy fychan ar ol hyny, a soniwyd llawer am gael capel, ond yr oedd cael tir i'w osod i lawr yn anmhosibl ar y pryd. Ogylch y flwyddyn 1816, trwy ganiatad cwmpeini Camlas Cwmnedd, cafwyd benthyg ystordy helaeth oedd yn eiddo iddynt; ac er nad oedd yr hen Storehouse ond lle cyffredin, etto yr oedd yn gaffaeliad gwerthfawr o dan yr amgylchiadau yr oeddynt ynddynt. Wedi bod yma am flynyddau, a'r achos yn myned rhagddo yn llwyddianus, daeth angen y Storehouse ar y cwmpeini, gan fod eu masnach yn ymeangu; ond rhoddwyd rhyddid i'r eglwys os mynant i roddi llofft ar yr ystordy ac y caent ei gwasanaeth, gan mai y gwaelod yn unig oedd yn angenrheidiol ar y cwmpeini. Derbyniwyd y cynyg gyda diolchgarwch, a dechreuwyd ar y gwaith yn ddioed. Gwnaed hi yn ystafell eang a chyfleus iawn, gyda phulpud a meingciau ynddi, a grisiau oddiallan i fyned iddi. Bu yr eglwys yn ymgynnull yma am lawer o flynyddoedd, ac nid yn fuan yr anghofir, gan y rhai a'u mwynhaodd, y cyfarfodydd hwyliog a melus a gafwyd ynddi. Bendithiwyd yr eglwys a diwygiad grymus, ac ychwanegwyd ugeiniau o bobl i'r Arglwydd. Llawer gwaith y gwelwyd llawr yr ystafell yn plygu gan fel y byddai plant y diwygiad yn neidio ac yn gorfoleddu. Yr oedd yr eglwys yn un o'r rhai mwyaf nodedig am ei gwres crefyddol, ac ni roddid ganddi fawr gwerth ar yr ymborth a gynygid iddi o'r pulpud os na byddai yn iach ac yn dwymn. Wedi disgwyl am flynyddau, cafwyd o'r diwedd dir ar brydles o 999 o flynyddoedd i adeiladu capel arno gan W. Williams, Ysw., Aberpergwm, ar un o'r llanerchau prydferthaf a mwyaf swynol yn yr ardal, a chodwyd capel hardd arno yn mesur 46 troedfedd wrth 32 troedfedd, ac y mae mynwent helaeth yn nglyn ag ef yr hon sydd wedi ei hamgylchynu a choed, fel y mae y capel a phob peth cysylltiedig ag ef yn ddymunol i'r golwg. Costiodd fil o bunau. Galwyd ef "Addoldy Glynnedd." Agorwyd ef yn y flwyddyn 1839. Wedi myned i'r capel newydd teimlodd yr hen weinidog, Mr. Morgan Lewis, fod ei nerth yn gwanhau, gan ei fod yn awr ar fin pedwar ugain oed; a thua'r flwyddyn 1843, daeth Mr. David Williams, Tredwstan i'r ardal i fod yn gynorthwywr iddo. Bu Mr. Williams yma yn llafurio gyda gradd o gymeradwyaeth am fwy na thair blynedd; ond gan nad oedd yr eglwys yn unol drosto, rhoddodd ei le i fyny. Cyn diwedd haf 1846, rhoddwyd galwad i Mr. John Morgan Thomas, aelod o Gwmllynfell, ond a fuasai am dymor dan addysg yn Hanover, ac urddwyd ef Hydref 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Bowen, Penywaun; E. Jacob, Abertawy; R. Pryse, Cwmllynfell; J. Williams, Ty'nycoed; E. Watkins, Canaan; W. Williams, Hirwaun; Ll. R. Powell, Hanover; P. Griffiths, Alltwen; W. Edwards, Aberdar; E. G. Williams, Ysgetty; D. Evans, Castellnedd; E. Rowlands, Pontypool; J. Thomas, Cefncribwr; J. Davies, Mynyddbach; W. Morris, Glandwr; D. Rees, Llanelli, a J. Davies, Hanover.[1] Ni bu yr hen weini-

  1. Diwygiwr, 1846. Tu dal. 379.