Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dog, Mr. M. Lewis byw ond ychydig ar ol urddo Mr. Thomas, canys bu fawr Rhagfyr 21ain, 1846, yn 85 oed; ond llonwyd ei galon yn fawr fod an wedi ei ddewis yn olynydd iddo oedd wrth fodd calon yr holl bobl. Bu adfywiad neillduol ar y canu, ac ar yr Ysgol Sabbothol yn y tymor byr y bu Mr. Thomas yn weinidog yma, a derbyniwyd cryn nifer o ieuengetyd y gynnulleidfa yn aelodau o'r eglwys. Llai na thair blynedd yr arhosodd Mr. Thomas yma, canys derbyniodd alwad o New York, America, ac ymfudodd yno yn Gorphenaf, 1849.

Cyn diwedd y flwyddyn hono derbyniodd Mr. John Thomas, Bwlchnewydd alwad gan yr eglwys, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Chwefror, 1850; a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ebrill 17eg a'r 18fed. Tymor marwaidd ar fasnach y lle oedd y tymor y bu Mr. Thomas yma, a gorfodwyd llawer o deuluoedd i ymadael, yr hyn a effeithiodd ar yr eglwys a'r gynnulleidfa; ond daliodd yr achos ei dir er hyny, ac yn y cyfnod yma y talwyd y gweddill dyled oedd yn aros ar yr addoldy. Yn niwedd y flwyddyn 1853, derbyniodd Mr. Thomas alwad o'r Tabernacle, Liverpool, a symudodd yno yn nechreu y mis Mawrth canlynol. Wedi bod am flwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. John Thomas (Ieuan Morganwg), yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 25ain a'r 26ain, 1855. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Griffiths, Abertawy; D. Price, Aberdar; J. Thomas, Bryn; D. Jones, Bethlehem; E. Jones, Myddfai; J. Thomas, Aberdar; D. Roberts, a J. Hughes, Dowlais; P. Griffiths, Alltwen; W. Williams, Hirwaun; D. Evans, a J. Mathews, Castellnedd; T. Davies, Llanelli; J. Davies, Aberaman, a W. Edwards, Aberdar. [1] Bu Mr. Thomas yma yn barchus a derbyniol am yn agos i dair blynedd, ond gan nad oedd ei iechyd yn gryf rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol ac ymneillduodd i drigianu i'r Mumbles, gerllaw Abertawy. Ar ol bod drachefn am fwy na blwyddyn heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. David Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mawrth 1af a'r 2il, 1859. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri B. Thomas, Gurnos; D. Thomas, Pentre-estyll; E. Evans, Sciwen; J. Cunnick, Aberdar; P. Griffiths, Alltwen; J. Mathews, Castellnedd; J. Rees, Moriah-Aman; D. Price, Aberdar; R. Lewis, Ty'nycoed; W. Humphreys, Cadle; W. Williams, Hirwaun; W. Watkins, Maesteg, ac S. Davies, Aberdar.[2] Cafodd Mr. Williams dymor llwyddianus yma. Yr oedd masnach yr ardal yn myned yn dda ar y pryd, a llawer o bobl yn dyfod i'r lle, ac ychwanegwyd o honynt, yn gystal ac o blant y gynnulleidfa, lawer o bobl i'r Arglwydd. Bu Mr. Williams yma hyd y flwyddyn 1862, pryd y derbyniodd alwad gan eglwysi Rhydybont, Capelnoni, a Brynteg, ac y symudodd yno. Yn nechreu y flwyddyn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Morgan, Llechryd, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn ddioed, ac a fu yma yn dderbyniol a llwyddianus hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y symudodd i Bethlehem, St. Clears, ac er hyny hyd yn hyn (Tachwedd, 1871,) y mae yr eglwys yn amddifad o weinidog. Gwelir fod yr eglwys hon wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau yn y deng-mlynedd-ar-hugain diweddaf, yn enwedig gyda symudiadau mynych ei gweinidogion, ond y mae yr achos er y cwbl yn dal ei ffordd, ac yn ychwanegu cryfder, ac mewn cystal gwedd yn awr ag y gwelwyd ef o gwbl.

  1. Diwygiwr, 1855. Tu dal. 283.
  2. Diwygiwr, 1859. Tu dal, 155.