Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae i'r eglwys hon er ei sefydliad amryw ganghenau lle y cynhelir Ysgolion Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a chyfeillachau. Cyfarfyddent mewn tai anedd ar y Banwaen, Penwaenmarchog, Pontwhalby, a Chwmgwrach. Bu y ganghen yn y lle olaf a enwyd yn gref unwaith pan yr oedd gweithiau haiarn a glo y lle yn myned yn mlaen yn dda; ond siomwyd disgwyliadau y rhai mwyaf hyderus yn nglyn a'r gweithfaoedd hyny. Soniwyd llawer o bryd i bryd am godi capel yno, ond yr anhawsder oedd cael tir, ond yn y flwyddyn 1862, aeth Mr. Williams, Hirwaun at N. E. Vaughan, Ysw., Rheolau, i ymofyn am ddarn o dir, a chafwyd ef yn ddinacad, am yr ardreth isel o swllt y flwyddyn. Adeiladwyd yma gapel bychan cyfleus, ac agorwyd ef Ionawr 18fed a'r 19eg, 1863, pryd y pregethwyd gan Meistri D. Williams, Rhydybont; R. Morgan, Llechryd; J. Mathews, Castellnedd; R. Lewis, Ty'nycoed; D. Thomas, Ystradfellte, a W. Williams, Hirwaun.[1] Mae CAPEL CWMGWRACH yn parhau yn ganghen o Glynnedd, lle y cynhelir pob moddion yn rheolaidd, ond nid oes eglwys wedi ei chorpholi ynddo.

Mae eglwys Glynnedd wedi bod yn nodedig yn mysg eglwysi yr enwad am ei gwres crefyddol. Dechreuodd mewn adeg fywiog, ac yr oedd ei hen weinidog cyntaf, a'r hwn a adawodd ei ddelw yn ddwfn arni, yn ddiarhebol am ei danbeidrwydd a'i angerddoldeb. Ymlynai yr hen dô cyntaf yn dyn wrth hen athrawiaethau yr efengyl; ac er nas gallesid eu cyfrif yn rhai eang eu gwybodaeth, etto, yr oedd taflod eu genau yn deall camflas, ac nid anghofir gan y rhai a'u gwelodd, yr olwg foddhaol a fyddai arnynt pan yn gwledda ar frasder yr efengyl. Aeth Thomas, brawd Mr. Williams, Hirwaun, adref yn orfoleddus yn ngwres ei gariad cyntaf. Sion Hopkin, Blaengwrach oedd un o'r rhai mwyaf tanllyd ei ysbryd. Sion Siencyn a fu yn ddiacon ffyddlon am oes hir; ac nid oedd yn yr eglwys neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofalai am yr achos, ac er nad oedd yn un o'r rhai mwyaf tanllyd, etto, pan y cyffyrddid a'i galon, byddai ei "amen" a'i "o diolch" gwefreiddiol yn ysgwyd yr holl le. Llawer brwydr galed fu rhwng William Morgan, Penmarc a'r diafol, cyn cael y gonewest arno. Richard Dafydd oedd un o'r dynion diniweitiaf a charedicaf, ac er nad oedd ond anllythrenog hollol, etto, anaml y gwrandawsom neb mor flasus a gafaelgar mewn gweddi. Yr oedd yma hefyd lawer o wragedd rhagorol gynt,, ac er nas gallwn eu crybwyll oll, etto, y mae enw Margaret Williams (neu modryb Peggy, o'r Banwaen, fel yr arferid ei galw), yn haeddu cofnodiad parchus. Llawer gwaith y gwelsom hi wrth wrando a'i theimladau yn ymgroni o'i mewn, ac wedi hir ymatal torai allan yn fonllef uchel; ac yr oedd dylanwad ei chymeriad da yn gyfryw fel y cerddai trydan oddiwrthi i'r holl gynnulleidfa. Magodd deulu lluosog o fwy na deuddeg o blant i'w cyflawn faintioli, er fod eu tad am lawer o flynyddau olaf ei oes yn gorwedd ar ei glaf wely, o afiechyd poenus; ac wedi ei gladdu, ymfudodd hi a'i theulu mawr i America, lle y bu hithau farw, ond y mae y rhan fwyaf o'i phlant yn aros etto yn aelodau defnyddiol yno mewn gwahanol eglwysi. Nid oes ond ychydig o hen deulu y Storehouse yn aros, ac er fod eu holynwyr yn amddifad o'u tân a'u gwres hwy, etto, y mae yn y plant lawer o ragoriaethau nad oedd yn eu tadau, ac y maent yn cario crefydd ymarferol yn mlaen yn llawer mwy effeithiol; ond pe gellid uno yn nghyd wres crefyddol yr hen dô, a threfnusrwydd ymarferol y tô presenol byddai yn gydgyfarfyddiad hapus.

  1. Diwygiwr, 1863. Tu dal. 55.