Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

Richard Jones. Urddwyd ef yn Cymer-glyn-corwg, a bu wedi hyny yn Cwmogwr, lle y daw ei hanes dan ein sylw.

Evan Pritchard. Urddwyd ef yn Sgethrog, sir Frycheiniog, lle y bu lawer o flynyddoedd ; ac y mae yn awr yn byw yn Sciwen, ac er nad oes ganddo ofal eglwysig y mae yn pregethu fynychaf bob Sabboth.

William Williams. Urddwyd ef yn Nhredwstan, ac y mae yn Hirwaun bellach er's deuddeng mlynedd-ar-hugain.

William Griffiths. Urddwyd ef yn Cerig-cadarn, ac y mae yn awr er's blynyddau wedi rhoddi ei ofal gweinidogaethol i fyny, ac wedi ei dderbyn ar Drysorfa yr hen weinidogion.

David Price. Urddwyd ef yn Siloa, Aberdar er's wyth-mlynedd-arhugain yn ol, ac yno y mae yn aros etto.

Thomas E. Evans. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Rhosllanerchrugog, a symudodd oddiyno i Booth-Street, Manchester, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Daw ei hanes ef yn nglyn a Booth-Street, Manchester.

John E. Evans. Bu yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Merthyrcynog.

John M. Evans. Aeth at y Bedyddwyr, ac wedi hyny i'r America, lle y mae etto.

John Rogers. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Pantteg, ger Caerfyrddin, ac y mae yn awr yn Jerusalem, Penbre.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

MORGAN LEWIS. Ganwyd ef Medi 29ain, 1761, yn y Creunant, yn mhlwyf Llangattwg, gerllaw Castellnedd. Yr oedd yn un o chwech o blant, a'i chwaer ieuengaf ef oedd gwraig y diweddar Mr. Jonathan Powell, Rhosymeirch, Mon. Bu farw ei dad a'i fam pan nad oedd ef ond plentyn, ond trwy garedigrwydd boneddiges yn ei gymydogaeth—Mrs. Llewellyn, Ynyscedwyn rhwymwyd ef i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd, a bu yn dilyn y gelfyddyd hono am lawer o flynyddoedd. Pan oedd tua 16 oed teimlodd argraffiadau crefyddol dwysion iawn ar ei feddwl, o dan bregeth Mr. John Evans, Cilcwm, pregethwr perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd; ac yn ddioed ymunodd a'r Methodistiaid yn y Creunant, ei bentref genedigol. Ymaflodd mewn crefydd ar unwaith, a hyny a'i holl egni; ac yr oedd ei ddawn gweddi yn tynu sylw pawb a'i clywai. Yn y flwyddyn 1784, penodwyd ef i fyned yn gyfaill i Mr. John Thomas, Risca, ar daith trwy y gogledd, er nad oedd etto wedi dechreu pregethu. Wrth glywed ei ddawn gweddi cymhellid ef yn mhob man i bregethu, ac ar gais taer y blaenoriaid yn Towyn, Meirionydd, pregethodd ei bregeth gyntaf oddiar y geiriau "A chan ddechreu ar Moses a'r holl brophwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun;" ac o hyny yn mlaen pregethai ychydig o flaen Mr. J. Thomas yn mhob man. Wedi dyfod i sir Fon, digwyddodd fod Cyfarfod Misol yn y lle yr oeddynt un diwrnod, a chyhoeddwyd y ddau ŵr dyeithr o'r Deheudir i bregethu am ddeg o'r gloch yr ail ddiwrnod. Aeth Morgan Lewis yn ddigalon iawn, a thorodd allan i wylo wrth feddwl am bregethu yn y fath le. Cymerodd