Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. John Jones, Bodynolwyn dosturi arno, a dywedodd wrtho am iddo beidio digaloni, ac y cai ddechreu yr oedfa, ac y pregethai ef yn ei le, ond wrth ei glywed yn gweddio gyda'r fath afael a gwres, penderfynodd John Jones y mynai gael ganddo bregethu ; ac felly y bu, ac ni adawyd ef iddo ei hun. Wedi dychwelyd adref o'r daith hon, ni soniodd Morgan Lewis na'i gyd-deithiwr wrth neb ei fod wedi pregethu o gwbl yn y gogledd ; ond yn fuan ar ol hyn daeth Mr. John Jones, Bodynolwyn ar daith trwy y Deheudir, ac yn Nghastellnedd efe a ymofynodd am y pregethwr ieuangc, ac wedi ei ddesgrifio deallodd y bobl mai Morgan Lewis, o'r Creunant ydoedd; ac heb gymaint a gofyn ei genad cyhoeddwyd ef i bregethu yn Nghastellnedd y Sabboth canlynol. Pregethai o hyny allan yn mhob man y gelwid am dano, ac elai ar deithiau i wahanol ranau y wlad. Yn y flwyddyn 1791, priododd a dynes ieuangc rinweddol yn nghymydogaeth Llanymddyfri, ac aeth i fyw i'r Bailidu gerllaw yno. Blinid ef yn y blynyddau hyn oblegid yr angenrheidrwydd a roddid ar y Methodistiaid i fyned i gymuno i'r Eglwysi Plwyfol; ac yn aml gorfodid hwy i dderbyn yr elfenau o law offeiriaid drwgfucheddol. Unwaith ar adeg o ddiwygiad grymus yr oedd Morgan Lewis yn Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, yn pregethu, a'r Sabboth hwnw yr oeddynt, ar ol yr oedfa, i fyned i'r eglwys i gymuno. Yr oedd yno hen offeiriad digrefydd o'r enw Mr. Cobner, a dyn ieuangc, yr hwn oedd yn rhyw berthynas iddo, yn ei gynnorthwyo. Yn ngwres eu teimladau wrth gofio angau Crist, torodd plant y diwygiad allan i neidio a gorfoleddu. Cynhyrfodd yr hen berson, ac er ei fod wrth ei ddwy ffon, ac ar fin ei fedd, gwaeddai yn groch "Hwy ddrylliant y corau a'r eglwys. Gyrwch y diawliaid m'as. Cerwch m'as. Beth mae y diawliaid yn briwo y tŷ?" a llawer o gabl-eiriau cyffelyb. Penderfynodd Morgan Lewis yn y fan nad elai i'r Eglwys i gymuno byth ond hyny, ac nid hyny yn unig, ond nad arhosai yn hwy yn y cyfundeb ag oedd yn gosod ei aelodau mewn perygl i oddef y fath sarhad. Yr oedd wedi bod gyda'r Methodistiaid am ddwy-flynedd-ar-hugain, ac am bymtheg o'r rhai bu yn tramwy yn eu mysg yn pregethu teyrnas Dduw. Yn y flwyddyn 1800, ymunodd a'r Annibynwyr yn Mhentretygwyn, ac wedi ei dderbyn ar foreu Sabboth gan Mr. Evan Harris, y gweinidog, pregethodd y prydnawn, ac am ysbaid blwyddyn ar ol hyny pregethai yn fynych yn eglwysi cwr uchaf sir Gaerfyrddin, ac yn aml elai drosodd i sir Forganwg. Yn 1801, derbyniodd alwad o Godrerhos, gerllaw y Creunant lle y magesid ef, ac urddwyd ef yno, ac yr oedd Mr. J. Davies, Alltwen, a Mr. D. Davies, Abertawy, yn mysg eraill, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Cyn hir wedi iddo symud i Godrerhos, cymerodd hefyd ofal Ty'nycoed a Hermon, Ystradfellte, a bu am ysbaid yn barchus a defnyddiol yn ei gylch eang, ond nid hir y bu cyn i gymylau duon ei orchuddio. Bu farw ei wraig ar ol cydfyw yn hapus am bymtheng mlynedd, ac nid oedd hyny ond dechreuad gofidiau iddo gyda'i bum' plentyn amddifad. Priododd drachefn yn 1810 ag un Margaret Watkins, aelod o Dy'nycoed. Yn fuan ar ol hyn darfu ei gysylltiad a Thy'nycoed, ac yr oedd ei gysylltiad a Godrerhos wedi darfod cyn hyny, fel nad oedd ganddo mwyach ond Hermon dan ei ofal, ac yn yr adeg yma y trowyd ei sylw at Gwmnedd, ac y penderfynodd godi achos yno, ac fel y gwelsom nid ofer fu ei lafur, ac yr oedd Glynnedd, Hermon a Rhigos-lle arall a ddechreuwyd ganddo-dan ei ofal hyd nes y gorfodwyd ef gan lesgedd a gwendid henaint i roddi y weinidogaeth i fyny. Daliodd i bregethu hyd o fewn tair blynedd i'w farwolaeth, ac wedi methu