Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

myned i'r addoldy i bregethu, pregethai, cynghorai, ac areithiai ar Ddirwest yn ei wely i'r rhai a ymwelent ag ef. Yr oedd y ddiod feddwol wedi bod yn brofedigaeth iddo yn mlynyddoedd boreuaf ei weinidogaeth, er ei fod flynyddoedd cyn bod son am Ddirwest yn llwyrymwrthodwr hollol, a phan y clywodd am y gymdeithas yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i arwyddo yr ardystiad. Yr oedd yr achos yn agos at ei galon hyd ei ddyddiau olaf, ac nid oedd dim a lonai ei galon yn fwy na chlywed newyddion da am lwyddiant crefydd. Bu farw Rhagfyr 21ain, 1846, yn 85 oed, wedi bod yn proffesu crefydd am yn agos i dri-ugain-a-deg o flynyddau, ac yn pregethu yr efengyl am ddwy-flynedd-a-thriugain, a chyfrif y tair blynedd olaf o'i oes, y bu yn fethiedig. Claddwyd ef ar ddydd Nadolig y flwyddyn hono. Gweinyddwyd cyn cychwyn o'r tŷ gan Mr. W. Williams, Hirwaun, ac yn yr addoldy, dechreuwyd gan Mr. E. G. Williams, Ysgetty, a phregethodd Meistri J. Williams, Ty'nycoed, a P. Griffiths, Alltwen, a dodwyd yr hyn oedd farwol o Morgan Lewis yn nhy ei hir gartref.

Dyn bychan, egwan, eiddil o gorph oedd Morgan Lewis, gwylaidd a gostyngedig dros fesur, cyfrifai ei hun yn llai na'r lleiaf. Nid rhodres ynddo oedd dyweyd hyny, ond felly y teimlai, a chariai ei ostyngeiddrwydd i'r fath eithafion nes yr oedd yn wasaidd i bawb. Ni fynasai er dim wneyd dolur na pheri tramgwydd i neb. Y peth hynotaf yn nglyn ag ef oedd, fod dyn mor bynaws a thirion ei dymherau mor selog a thanllyd gyda chrefydd. Llosgai fel tân yn y fan y deuai i gysylltiad a phethau crefydd, ac yr oedd ei holl enaid yn fflam angherddol. Ysbryd ei weinidogaeth oedd yn gosod hynodrwydd arni. Ni chafodd fawr fanteision addysg, ac nid oedd cylch ei ddarlleniad ond cyfyng, oblegyd ychydig o lyfrau Cymreig oedd yn ei dymor boreuol ef. Nid oedd o ddeall cryf i dreiddio yn ddwfn i bethau yr efengyl, ac nid oedd byth yn amcanu at hyny; arosai yn wastad gyda'r pethau amlwg, ac etto byddai rhyw eneiniad rhyfedd weithiau ar ei bregethau, a phan y cai yr awel o'i du nid oedd dim a safai o'i flaen, a rhyw fodd byddai yr awel o'i du agos yn wastad. Pan y byddai pawb yn mron yn oer a dihwyl, byddai tân ar aelwyd Morgan Lewis, ac nid yn fynych y lledai ei hwyliau na chai y gwynt o'i du. Adroddir am gymanfa a gynhelid yn Abertawy, yn nyddiau yr enwog David Davies, yn yr hon yr oedd amryw o gedyrn y weinidogaeth, ond er hyny nid oedd myn'd ar ddim. Dilewyrch iawn oedd oedfaeon y dydd cyntaf, a saith a deg yr ail ddydd, a theimlai Mr. Davies yn ddwys o herwydd hyny. Yn yr oedfa ddau o'r gloch aeth Mr. Davies at Morgan Lewis, a dywedai fod yn rhaid iddo bregethu. Mynai ef ymesgusodi am ei fod yn ymyl i'w gartref, a bod yno lawer o rai dyeithrach ac enwocach, ond ni fynai Mr. Davies ei omedd, ac i fyny i'r pulpud y bu raid iddo fyned rhwng bodd ac anfodd. Teimlai llawer yn y dorf yn siomedig wrth weled y fath greadur bychan diolwg yn myned i fyny, ei bod yn ddigon dilewyrch yn barod, a thybiant mai waethwaeth yr âi gydag ef. Ond nid cynt yr agorodd ei enau nag yr argyhoeddwyd hwy oll eu bod wedi camgymeryd. Darllenodd ei destyn mewn llais uchel, gwichlyd braidd, ond gyda thynerwch cwynfanus un yn teimlo i'r byw-"Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?" Cerddodd ei eiriau fel trydan trwy y lle, ac yr oedd y dorf oll ar eu traed mewn munyd, a phawb yn barod i ddywedyd, "Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn." Gallesid crybwyll engreifftiau eraill o ddylanwad grymus gwres ei weinidogaeth; a llwyddodd yn arbenig i gadw cynesrwydd crefyddol yn mysg pobl ei ofal, oblegid yr oedd hyny yn nodweddu ei gyfeill-