Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ach a'i ymddiddanion yn gystal a'i bregethau; a gobeithio fod y dydd yn mhell pan y gwelir yr elfen yna wedi ei cholli o grefydd Cymru. [1]

JOHN THOMAS. Ganwyd ef yn y Cwmdubach, gerllaw Caerfyrddin, Ebrill 13eg, 1811. Enwau ci rieni oedd John a Phoebe Thomas. Collodd ei dad pan yn ieuangc, a disgynodd gofal ei ddygiad i fyny yn gwbl ar ei fam, yr hon oedd yn wraig grefyddol, ac yn aelod o'r eglwys yn Heol Awst, Caerfyrddin. Pan yn ieuangc symudodd i sir Forganwg, a derbyniwyd ef yn aelod yn Bethania, Dowlais, gan Mr. Evans, Soar, Merthyr, tua'r flwyddyn 1829. Tra yn Dowlais ymgododd i barch ac ymddiried gyda'i feistri fel y gwnaed ef yn isoruchwyliwr, ond nid effeithiodd hyny mewn un modd er peri iddo golli ei ddyddordeb gyda phethau crefyddol. Cymerai ran flaenllaw gyda'r achos yn ei holl ranau, ac yn enwedig mewn egwyddori y bobl ieuaingc mewn cyfarfodydd wythnosol, ac yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn yr adeg yma y talodd sylw i lenyddiaeth Cymreig, a chyrhaeddodd fesur o enwogrwydd fel bardd a llenor, ac yr oedd yn adnabyddus wrth y ffugenw Ieuan Morganwg. Dewiswyd ef yn ddiacon yn Bethania, Dowlais, ac yn y cyflawniad o'i swydd ennillodd iddo ei hun radd dda. Yn y flwyddyn 1844, penodwyd ef yn oruchwyliwr ar waith haiarn yn Walker, gerllaw New-Castle-on-Tyne. Symudodd yno yn niwedd y flwyddyn 1844; ac ymgododd i barch a dylanwad mawr gan y meistri a'r gweithwyr. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi ei fynediad yno, dilynwyd ef gan nifer o Gymry crefyddol, phenderfynwyd cychwyn achos Cymreig yn y lle; ac yn y flwyddyn 1848, ar anogaeth ysgrifenedig wedi ei arwyddo gan fwy na phedwar ugain o bersonau, dechreuodd bregethu. Cydsyniodd a'r cais heb feddwl dim ar y pryd am ymgymeryd byth a gofal gweinidogaethol. Wedi treulio amryw flynyddau yn Walker yn barchus gan bawb, meddyliodd am ddychwelyd i Gymru, ac yn 1853, symudodd i Lanelli, lle y bwriadai unwaith gychwyn gwaith mewn cysylltiad ag eraill, ond rhoddodd y bwriad hwnw i fyny, ac yn 1855, derbyniodd alwad gan yr eglwys yn Glynnedd, ac urddwyd ef yno i holl waith y weinidogaeth. Yr oedd Mr. Thomas uwchlaw deugain mlwydd oed pan y sefydlodd yn Glynnedd; ac er ei fod yn ddyn gwybodus a deallgar-yn llenor rhagorol -yn fardd gwych-ac yn dra chyfarwydd ag areithio ar gwestiynau cyhoeddus, etto, yr oedd darparu pregethau erbyn pob Sabboth, a chyflawni dyledswyddau eraill y weinidogaeth, yn fwy nag a allasai ei gyfansoddiad ddal, ac oblegid hyny, barnodd yn ddoethach ymryddhau o'i ofalon gweinidogaethol, er y pregethai ar ol hyny bob amser y caffai gyfleustra, ac yr oedd fel pregethwr, yn dderbyniol a chymeradwy, yn enwedig gan bobl ddeallgar. Symudodd i fyw i'r Mumbles, gerllaw Abertawy, gan dybied y buasai yn fanteisiol i'w iechyd; ac wedi hyny aeth i Gaerfyrddin, a chyn hir adeiladodd dy cyfleus iddo ei hun mewn llecyn iach ychydig allan o'r dref, yr hwn a alwodd yn Fountain Villa. Pregethai Mr. Thomas agos bob Sabboth yn rhywle, ac yn ychwanegol at hyny, cyfansoddai ddarnau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth; a golygai farddoniaeth y Diwygiwr, fel yr oedd ganddo rhwng y cwbl ddigon o waith i gymeryd i fyny ei amser. Cydnabyddir ef, gan y rhai a'i hadwaenai oreu, yn ddyn o egwyddorion pur a gonest, ac yr oedd ei gymeriad moesol trwy ei oes yn hollol uwchlaw anmheuaeth. Nid effeithiodd ei lwyddiant bydol er peri iddo anghofio ei hun, ac yr oedd yn wastad yn barod i gynorthwyo pob

  1. Coflant Mr. Morgan Lewis, gan Mr. P. Griffiths, Alltwen.