Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos da a ddeuai ar ei ofyn. Addawai iddo ei hun ddyddiau da ar ol codi ei dŷ newydd yn Fountain Hall, ond dyryswyd ei holl amcanion yn annisgwyliadwy ag un ergyd gan angau. Aeth i gyfarfod urddiad Mr. T. G. Jones yn Gwernogle, a phan yn pregethu yno prydnawn dydd Mercher, Awst 3ydd, 1870, cymerwyd ef yn glaf; a phan yn enwi y pen diweddaf o'i bregeth, dywedodd, "Nis gallaf fyned yn mhellach," ac eisteddodd i lawr. Ymlusgodd i lawr o'r pulpud, ond yr oedd yn ymddangos heb nerth ynddo. Cariwyd ef i dŷ gerllaw, ac yn mhen ychydig o fynudau hunodd yn yr angau, mewn tawelwch perffaith, yn nghanol nifer o'i frodyr gweinidogaethol, yn 58 oed. Nid yn aml y cymerodd marwolaeth gweinidog le dan amgylchiadau mor ddifrifol; ac nid oes achos ychwanegu i'r newydd galarus beri prudd-der a sobrwydd cyffredinol.

ZOAR, CASTELLNEDD.

Yn mhen tua thair blynedd wedi i Mr. Daniel Griffiths gael ei urddo yn Maesyrhaf, a phan yr oedd ei boblogrwydd a'i lwyddiant wedi ei ddyrchafu i sylw yr holl wlad; yn annisgwyliadwy i bawb dygwyd cyhuddiad difrifol yn ei erbyn gan ferch ieuangc—megis y crybwyllasom eisioes yn hanes Maesyrhaf-yr hyn a barodd ofid a thristwch cyffredinol. Nid oes achos i ni yma fyned i mewn i fanylion yr amgylchiad gofidus hwnw. Y mae Mr. P. Griffiths, Alltwen, yr hwn oedd yn gydnabyddus hollol a'r amgylchiad, wedi cyfeirio yn helaeth ato yn y cofiant a gyhoeddodd i Mr. Daniel Griffiths, ac o'r cofiant hwnw y cymerwn sylwedd y cwbl a ysgrif enwn ar y digwyddiad pruddaidd. Pan aeth y sibrwd allan, galwyd Mr. Griffiths ger bron yr eglwys, a rhoddwyd y cyhuddiad i'w erbyn, ac annogwyd ef i beidio pregethu hyd nes y deuai rhyw oleuni ychwanegol ar ei achos. Yn yr ysbaid y bu heb bregethu, magwyd llawer o dybiaethau, a rhagfarnau, a phleidiau, rhai drosto a rhai yn ei erbyn, ond yr oedd lluaws yn awyddu am ei weled a'i draed yn rhydd fel cynt. Gan ei fod yn byw yn nes i Felinycwrt, yr eglwys lle y derbyniwyd ef gyntaf, nag i Gastellnedd, yno y cyrchai yn benaf yn yr adeg y bu heb bregethu ; ac ar gymhelliad yr eglwys yno, a chefnogiad rhai gweinidogion ac eraill, ailddechreuodd bregethu, er fod yr eglwys yn Maesyrhaf yn gwrthwynebu hyny. Wedi iddo ddechreu pregethu yn Melinycwrt, cyrchai amryw o'r dref yno i'w wrando, a gwahoddent ef i'w tai i bregethu, yr hyn a wnaeth wedi ymgynghori a rhai o'r gweinidogion cylchynol. Ar ol iddo ddechreu pregethu mewn tai yn Nghastellnedd ymdyrai y lluaws i wrando arno, fel na chynwysai y tai y rhai a ddeuai yn nghyd; ond yr oedd y rhwyg rhyngddo ef a'r eglwys yn Maesyrhaf, trwy hyny, yn myned yn fwy a'r anhawsder i'w gyfanu yn ychwanegu. Yr oedd y rhan fwyaf o'r gweinidogion yn cymeryd plaid yr eglwys; ond glynai nifer o honynt yn ffyddlon wrth Mr. Griffiths a'i bobl. Cymerwyd ganddynt hen Coach-house ar ardreth, ac adrefnwyd ef yn lle cyfleus at bregethu, a galwyd ef "Zoar fach," ac agorwyd ef Awst 29ain, 1826, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Morgan Lewis, Cwmnedd; Joseph Harrison, Aberdar; Joshua Evans, Cymer; David Jones, Taihirion; Roger Howells, Baran; Phillip Griffiths, Alltwen, a Richard Jones, Cymer-glyn-corwg. Bu mynediad y gweinidogion hyn i agor y lle yn achlysur i rwygo y cyfundeb, ac mor gryf oedd y teimladau fel na dderbynid i lawer o bulpudau yn y wlad, neb a elai i bregethu at Daniel