Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffiths a'i blaid, neu i gapelau neb o'i gefnogwyr. Ond yr oedd teimladau yn iachau yn raddol, a phoblogrwydd Mr. Griffiths yn ennill iddo bleidwyr ychwanegol, ac yn lladd rhagfarn ei wrthwynebwyr; ac yn enwedig yr oedd yr achos newydd yn Zoar fach yn myned rhagddo yn llwyddianus dan ei weinidogaeth; ac yn nghymanfa y tair sir a gynhaliwyd yn Taihirion, yn 1827, cyhoeddwyd heddwch rhwng y ddwy blaid, ac felly y terfynodd yr ymrafael blin a gofidus hwnw.

Yr oedd Zoar fach ar y dechreu yn llawer rhy gyfyngi gynwys y lluoedd a ddeuai i wrando Mr. Griffiths, ac oblegid hyny, heb golli dim amser, aed i chwilio am dir at adeiladu capel. Wedi methu mewn dau neu dri o fanau y gofynwyd am danynt; prynodd Rowland Thomas, Ysw., tad-ynnghyfraith Mr. Griffiths, ddarn helaeth o dir yn 1827, gan James Coke, Ysw., am 160p., a rhoddodd ddarn mawr o hono at gapel a mynwent. Am fod y tir yn llaith, aeth y draul yn fawr wrth gloddio am sylfaen safadwy. Arosodiad y gareg sylfaen cynaliwyd cyfarfod pryd yr anerchwyd y dorf gan Mr. Griffiths, y gweinidog, a chan Mr. Griffiths, Alltwen, a Mr. Howells, Baran, ac eraill. Ar yr un dydd claddwyd gwraig Dafydd Henry o'r Fynachlog, yn y fynwent newydd, ac felly dechreuwyd adeiladu a chladdu yr un pryd. Mesuriad y capel yw 55 troedfedd wrth 45. Yr oedd, pan yr adeiladwyd ef, yr un o'r addoldai harddaf a helaethaf yn y sir, ac y mae etto ar ol cael ei adgyweirio a'i brydferthu, yn deilwng o'r oes a'r dref gynyddol y mae ynddi. Costiodd ar y cyntaf dros ddwy fil o bunau, ac y mae llawer o ganoedd wedi hyny wedi cael eu gosod allan arno mewn adgyweiriadau, paentio, ac adeiladu ysgoldy prydferth yn ei ymyl. Bu y ddyled yn faich trwm ar y lle hwn am flynyddau lawer, ac yn achos o bryder a llafur dirfawr i Mr. Griffiths. Deugain mlynedd yn ol ystyrid dwy fil o ddyled ar gapel yn beth dychrynllyd, ond yn awr, pan y mae yr eglwysi wedi yfed mwy o ysbryd haelionus, ni chyfrifir dwy fil o ddyled ar gynnulleidfa gymharol wan, yn gymaint ag yr edrychid ar bum' cant yn 1828. Os yw eglwysi Cymru yn llai gwresog a thanllyd dan y Gair nag yr oeddynt yn nyddiau y tadau, y maent yn annghydmarol fwy haelionus yn eu cyfraniadau at achosion crefyddol.

Wedi cael y capel newydd yn barod, tynodd doniau poblogaidd Mr. Griffiths dorf o bobl i'w lenwi ar unwaith, a pharhaodd ei boblogrwydd yn ddidrai hyd derfyn ei oes. Yr oedd Ysgol Sabbothol flodeuog yn Zoar o'r cychwyniad, ac yn fuan wedi agoryd y capel sefydlwyd canghenau o ysgolion yn Sciwen, Melingryddan, y Tonnau, y Bryncoch, y Thimle, &c. Rai blynyddau cyn marwolaeth Mr. Griffiths adeiladwyd capel ar y Sciwen, a chapel y Rock yn Nghwmafan, gan aelodau Zoar. Wedi oes gymharol fer, ond anarferol o lwyddianus, bu farw Mr. Daniel Griffiths yn 1846, er galar dirfawr i bobl ei ofal, a phobl Deheudir Cymru yn gyffredinol. Ar ol ei farwolaeth, penderfynodd yr eglwys fod am flwyddyn cyn myned i edrych allan am weinidog, a thalu y cyflog arferol i Mrs Griffiths, nid am fod ei hamgylchiadau yn galw am hyny, ond fel arwydd o barch i'w gweinidog ymadawedig. Ar ol byw ychydig gyda blwyddyn ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad unfrydol yn Awst 1847, i Mr. John Mathews, Casnewydd, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yn y mis canlynol. Ar y 24ain a'r 25ain o Dachwedd, yn yr un flwyddyn, cynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad, pryd y pregethodd Meistri D. Rees, Llanelli; P. Griffiths, Alltwen; M. Ellis, Mynyddislwyn; R. Pryse, Cwmllynfell, ac eraill. Rhif yr aelodau pan ddechreuodd Mr. Mathews ei lafur yma, bedair blynedd-ar-