Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hugain yn ol oedd, 340. O'r pryd hwnw hyd yn awr y mae ef wedi derbyn, trwy ddeheulaw cymdeithas 1308, a thrwy lythyrau o eglwysi eraill 590. Ar ymneillduad eglwys y Sciwen, rhoddwyd llythyrau gollyngdod i 53 o'r aelodau, ac i 61 ar sefydliad yr eglwys yn Llansawel. Trwy symudiadau, marwolaethau, a gwrthgiliadau, y mae dros ddeugain bob blwyddyn, mewn eglwys luosog fel hon, yn cael eu colli. Rhif yr aelodau yn bresenol yw 456. Mae canghen o eglwys Zoar yn ddiweddar wedi cael ei chorpholi yn eglwys Annibynol yn Bryncaws; ond er colli pobl y Rock, y Sciwen, Llansawel, a Bryncaws, y mae y fam-eglwys mor lluosog ei haelodau a'i gwrandawyr ag y bu ar un cyfnod o'i hanes.

Cafodd y rhai canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:—

John Davies, yr hwn sydd wedi bod yn bregethwr cynorthwyol parchus am fwy na deugain mlynedd, ac sydd etto yn aelod yn ei fam-eglwys.

David Griffiths. Dechreuodd ef bregethu tua yr un amser a John Davies, ac yr oedd yn ddyn da a phregethwr cymeradwy iawn. Glowr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a chyfarfyddodd ef, a phump-ar-hugain eraill o'i gydweithwyr, eu hangau yn mhwll y Bryncoch yn 1859, trwy i'r dwfr dori i mewn i'r gwaith a'u boddi oll.

Griffith Owen. Nid oedd ganddo ef lawer o ddoniau at bregethu, er ei fod wedi cael addysg dda, ac yn ddyn o wybodaeth ?el helaeth. Yr oedd yn ganwr rhagorol, a dichon, fel y dywedai ei weinidog, Mr. Griffiths, mai aros fel blaenor y gân fuasai ddoethaf iddo yn hytrach nag esgyn i'r pulpud. Etto yr oedd yn ddyn da. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau.

Gwilym Treharne. Yr oedd ef wedi myned yn lled hen cyn dechreu pregethu, ac felly ni ddarfu iddo ennill nemawr o sylw fel pregethwr. Yr oedd yn ddyn medrus a gwerthfawr iawn yn y cyfeillachau crefyddol, ac yn anwyl iawn gan yr eglwys. Bu farw o'r geri marwol yn 1849.

Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Griffiths y dechreuodd y pedwar uchod bregethu, a than weinidogaeth Mr. Mathews y dechreuodd y rhai canlynol: William Davies, yr hwn sydd yn awr yn aelod ac yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yn yr eglwys ieuangc yn Bryncaws.

John Jones. Y mae ef yma yn bresenol yn aelod, ac yn pregethu yn fynych yn ei fam-eglwys ac mewn eglwysi eraill.

Charles Jones. Y mae yntau yn parhau yma fel aelod a phregethwr cynorthwyol.

David Griffiths, oedd bregethwr ieuangc derbyniol iawn yma. Y mae efe a'i deulu newydd ymfudo i'r America.

John Griffiths. Treuliodd ef ei amser yn athrofa y Bala, ac y mae wedi ymsefydlu er's mwy na blwyddyn bellach yn weinidog yn y Fochriw.

Samuel Owen. Yr hwn sydd yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu.

David E. Phillips. Y mae yntau yn fyfyriwr yn awr yn athrofa y Bala.

Byddai hanes yr eglwysi Annibynol yn Nghastellnedd yn annghyflawn heb grybwyll enwau y Cadben Morris, a'i wraig ragorol. Yr oedd y ddau gristion anwyl hyn, fel Zacharias ac Elizabeth, yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. Yn Maesyrhaf yr oedd ef yn aelod a hithau yn Zoar. Bu eu tŷ am ddegau o flynyddau yn gartref i bregethwyr Cymru. Bu Mrs. Morris fyw flynyddau ar ol ei phriod, ac yr oedd yn un o'r gwragedd rhagoraf a welsom erioed.