Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DANIEL GRIFFITHS. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn agos i Felinycwrt, yn Nghwmnedd yn y flwyddyn 1798. Yr oedd ei henafiaid o du ei dad a'i fam yn preswylio yn yr ardal hon er's amryw oesau. William ac Elenor Griffiths oedd enwau ei rieni. Yr oeddynt ill dau yn proffesu crefydd, ac yr oedd ei fam yn un nodedig iawn am ei duwioldeb. Daniel oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Bu farw ei dad pryd nad oedd ef ond ieuangc iawn, ond darfu i ofal a ffyddlondeb ei frawd hynaf lenwi lle y tad yn effeithiol i'r teulu. Bu farw ei fam drachefn cyn iddo ef gyrhaedd oedran gwr, ond trwy ofal ei frawd hynaf a'i chwaer ni welodd eisiau dim. Wedi iddo gyrhaedd oedran cyfaddas gosododd ei frawd ef i ddysgu y gelfyddyd o saer badau, a bu am amryw flynyddau yn gweithio y gwaith hwnw. Pan yr oedd tua naw mlwydd oed teimlodd argraffiadau crefyddol grymus dan bregeth Mr. T. Bowen, ond bu flynyddau wedi hyny cyn ymostwng i wneyd proffes o grefydd. Bu yn aelod ffyddlon o'r Ysgol Sabbothol am gryn amser cyn iddo ddyfod yn aelod o'r eglwys. Gan nad yw Mr. Griffiths, o'r Alltwen, yn y cofiant helaeth a ysgrifenodd iddo, wedi rhoddi amseriad nemawr o ddygwyddiadau pwysig ei fywyd, nis gallwn ddyweyd ei oed pan y dechreuodd broffesu a phregethu, ond y mae yn debygol ei fod wedi dechreu pregethu cyn ei fod yn ugain oed, oblegid yr ydym yn cael ei fod yn pregethu mewn cymanfa yn y Groeswen yn 1820. Bu am rai blynyddau yn ysgol Mr. Howells, Baran, wedi iddo ddechreu pregethu, ond ni chafodd fawr llonyddwch i ddysgu gwersi yr ysgol gan fod ei ddoniau poblogaidd fel pregethwr, a'i fedr digyffelyb fel holwr ysgolion, wedi tynu sylw yr holl wlad, a cheisiadau beunyddiol am ei wasanaeth. Byddai agos trwy yr holl amser y bu yn yr ysgol yn Baran yn pregethu neu yn holi ysgolion bedair a phum' gwaith bob wythnos. Tua y flwyddyn 1820, aeth ef a'i gyfaill a'i berthynas, Mr. Phillip Griffiths, i ysgol Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Ni fuont yno yn hir cyn i ddiwygiad nerthol a phoeth iawn dori allan yn y Neuaddlwyd ar un boreu Sabboth pan yr oedd Dr. Phillips yn pregethu. Yn fuan ymdaenodd y tân trwy y wlad oddiamgylch, a chafodd ysbryd tanllyd a doniau poblogaidd Daniel Griffiths ddigon o ddyfroedd i chwareu ynddynt. Darfu i'w lafur a'i hynodrwydd yn y diwygiad hwnw ei gyfodi i sylw cyffredinol yn sir Aberteifi. Er fod haner can' mlynedd wedi myned heibio er hyny, y mae ei enw ef ar gof a chadw etto mewn cysylltiad a'r diwygiad mawr gan ganoedd o Gapelywig i Gilcenin. Yn y flwyddyn 1822, dychwelodd adref o'r Neuaddlwyd, a chafodd ei urddo, fel y nodasom, yn Maesyrhaf, Chwefror 13eg, 1823. Ar ol bod yn llafurio fel cydweinidog a Mr. Bowen yn Maesyrhaf a Melinycwrt am ychydig dros dair blynedd gyda pharch a phoblogrwydd anghyffredin, darfu ei gysylltiad a Maesyrhaf, yn yr amgylchiad gofidus a grybwyllasom eisioes, ac o hyny allan fel gweinidog Zoar y bu yn llafurio yn Nghastellnedd. Bu Melinycwrt a Godrerhos dan ei ofal hefyd mewn cysylltiad a Zoar hyd derfyn ei oes. Parhaodd ei boblogrwydd a'i barch yn ddiatal hyd y diwedd. Mae yn ymddangos mai un gwanaidd o iechyd ydoedd er yn blentyn, a chan na feddyliodd am arbed ei gorph trwy wrthod unrhyw gais i bregethu a theithio, llosgodd y fegin allan pan yr oedd yn wyth-adeugain oed. Bu farw o'r darfodedigaeth Ebrill 1af, 1846, mewn teimladau nefolaidd iawn. Ar ddydd ei angladd ymgasglodd y dyrfa luosocaf a