Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

welsom mewn angladd erioed i hebrwng ei weddillion marwol i'r ddaeargell wrth gapel Zoar. Yr oedd y ffordd am tua dwy filldir yn llawn o bobl fel yr oedd yn anhawdd symud. Cyn cychwyn oddiwrth y tŷ, darllenodd a gweddiodd Mr. Thomas Rees, Siloa, Llanelli. Wedi cyrhaedd y capel, yn yr hwn nid oedd digon o le i un o bob deg o'r dorf, darllenodd a gweddiodd Mr. R. Pryse, Cwmllynfell, a thraddodwyd dwy bregeth fer gan Meistri D. Evans, Castellnedd, a W. Morgan, Llwyni. Areithiodd Meistri J. Hughes, Dowlais, a D. Rees, Llanelli, wrth y bedd, a therfynwyd trwy weddi gan Mr. Powell, Caerdydd. Yr oedd 39 o weinidogion a phregethwyr yn cerdded o flaen y corph wedi eu gwisgo mewn arwyddion galar. Yr oedd Daniel Griffiths yn ei farwolaeth yr un modd ag yn ei fywyd yn un o'r dynion mwyaf poblogaidd yn ei oes.

"Yr oedd Mr. Griffiths yn ddyn lled dal, o gylch pum' troedfedd a naw modfedd o hyd, yn lled denau, o gorph cadarn, er heb fod yn iach erioed; yn ddyn gewynog heibio i'r cyffredin. Yr oedd ei edrychiad yn serchog bob amser, yn hawddgar ei gyfarchiad, nes y byddai pawb yn caru ei gyfarfod ar y ffordd. Byddai plant yr holl wlad yn ei gyfarch, ac yn tyru o'i amgylch yn mhob lle y byddai. Gwyneb lled hirgul oedd ganddo, a dau lygaid mawr treiddgar yn dangos ei fod wedi ei wneyd gan natur yn areithiwr hyawdl. Yr oedd ei olwg mor hawddgar ac mor nefolaidd pan fyddai ei enaid yn gwresogi wrth dân crefydd, fel y gallasai y miloedd ei gofleidio a'u breichiau yn gystal ag a'u calonau."

Yr oedd yn ddyn cyfeillgar, hynaws, a charedig iawn, tra ar yr un pryd yr oedd ganddo ddigon o synwyr cyffredin a rhyw fawredd a gadwai bobl rhag myned yn rhy eofn arno. Cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn ddigon o gyfleusderau i'w weled a chyfeillachu ag ef am y tair-blynedd-ar-ddeg olaf o'i fywyd fel ag i allu ffurfio barn lled gywir am ei nodweddiad fel dyn a chyfaill. Ni ddygwyddodd iddo erioed gyfarfod a dyn llawnach o garedigrwydd a natur dda. Mae llawer o ddynion yn siriol a chyfeillgar a'u cydradd, ac yn enwedig a'u huwchradd, ond yr oedd ef yn hytrach yn fwy hynaws a charuaidd i'w isafiaid nag i neb arall. Ar un nos Sabboth yn Tachwedd, 1833, yr oedd pregethwr ieuangc, tan ddeunaw oed, wedi anfon ei gyhoeddiad i fod yn Zoar. Galwodd gyda Mr. Griffiths, cyn yr oedfa, mewn tŷ yn agos i'r capel, lle yr oedd ef a dau weinidog enwog o sir Gaerfyrddin, y rhai hefyd oeddynt wedi eu cyhoeddi i fod yn Zoar y noson hono. Pan welodd y gwr ieuangc derbyniodd ef yn garedig, a dywedodd wrth y ddau weinidog, "Mae yn rhaid i chwi frodyr dalfyru ychydig ar eich pregethau heno fel y gallo y gwr ieuangc gael dyweyd ychydig o'ch blaen. Rhaid rhoddi magwraeth i'r lloi cyn cael ychain." Talp cyflawn o natur dda ydoedd.

Yr oedd yn un nodedig o fodrus i drafod dynion. Medrai heb honi ei awdurdod a dadleu ei hawliau swyddogol gael y dynion mwyaf anhywaeth i'w ffordd ei hun. Cadwodd eglwys luosog Zoar mewn undeb a heddwch hollol trwy holl dymor ei weinidogaeth. Yr oedd ganddo ffordd effeithiol i doddi pawb i gydweithredu a'i gynlluniau.

Yr oedd yn ddyn hynod o ddirodres a digoegni. Nid yw yn debygol ei fod ef, mwy nag eraill o blant Adda, yn rhydd oddiwrth falchder meddwl, a thra thebygol fod ei barch a'i boblogrwydd pa le bynag yr elai yn peri iddo feddwl tipyn am dano ei hun. Ond os ydoedd yn teimlo felly, yr oedd ganddo ddigon o synwyr cyffredin i guddio hyny oddiwrth y werin. Er ei fod yn anymddibynol yn ei amgylchiadau bydol, ac yn dywysog yn