Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mysg ei frodyr fel pregethwr, yr oedd mor ddiymhoniad a'r gostyngeiddiai o honynt. Nid ydym yn priodoli hyn yn fwy i'w ras nag i'w synwyr cyffredin cryf, oblegid y mae dyn coegaidd ae ymffrostgar yn amlygu llawn cymaint o ddiffyg synwyr ag o ddiffyg gras.

Fel pregethwr yr oedd yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn ei oes. Nid mewn medr i drin ac egluro athrawiaethau mawrion yr efengyl gyda chraffder a manylder ymresymiadol, fel Evans, o'r Mynyddbach, y rhagorai; ni ddeuai ychwaith yn agos at Jones, Penybont, fel esboniwr y Bibl, ac mewn athrylith a dynai allan fer yr Ysgrythyrau i'w sylwadau; ac yr oedd Hughes, o'r Groeswen yn ddigon o'i flaen am ddychymygion hededog a medr i dynu darluniadau byw ger bron ei wrandawyr o'r gwrthrychau y soniai am danynt. Ond yr oedd rhagoriaeth Daniel Griffiths fel pregethwr yn gynwysedig yn y pethau canlynol:—1. Cyflawnder o eiriau cymwys a gweddus i osod allan ei feddyliau. Ni fyddai un amser yn petruso am air. Tywalltai allan ei frawddegau yn ffrydlif naturiol heb ddim yn goegaidd nac yn isel yn un o honynt. Gwisgai y rhan fwyaf o'i feddyliau yn yr ymadroddion Ysgrythyrol mwyaf priodol. Gellir dywedyd yn briodol am dano, "Chwiliodd y pregethwr am eiriau cymeradwy," ac yr oedd ei eiriau oll fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistr y gynnulleidfa. 2. Difrifoldeb a phurdeb chwaeth. Ni ddywedid dim ganddo i beri crechwenau ysgafn yn y gynnulleidfa, ond byddai ei agwedd, ei eiriau, a'i swn yn cynyrchu difrifoldeb ofnadwy yn ei wrandawyr. Ni chlywid ef un amser yn adrodd hanesyn nac yn arfer cydmariaeth isel a dichwaeth. 3. Nodwedd efengylaidd ei faterion. Crist a'i groes-trueni dyn trwy bechod-breintiau credinwyr-a gogoniant trefn gras, fyddai pyngciau ei bregethau yn wastadol. 4. Grym a phereidd-dra llais. Dywedai yn ddigon uchel wrth ddarllen ei destyn i ddeng mil o bobl i'w glywed, a siaradai yn rhwydd, heb fod yn rhy araf nac yn rhy gyflym, gan roddi, yn awr a phryd arall, ryw dôniad mor beraidd ac effeithiol i'w lais nes y buasai y dagrau yn saethu yn ddiarwybod o ganoedd o lygaid ar darawiad amrant. Pan godai ei lais i'r man uwchaf byddai yn llai effeithiol. Yr oedd cydgyfarfyddiad y pethau hyn ynddo fel pregethwr yn ei wneyd yn un o'r pregethwyr mwyaf effeithiol a wrandawsom erioed. Anfynych iawn y gwelsom ef yn sefyll uwchben cynnulleidfa heb ei thoddi fel cwyr o flaen y tân.

Yr oedd yn ddyn llafurus a chyhoeddus iawn ei ysbryd. Anaml trwy ei holl fywyd cyhoeddus, y treuliodd wythnos heb deithio a phregethu i eraill heblaw i'w bobl ei hun. Llafuriodd yn galed gyda'r ymdrech fawr i dalu dyledion capeli yn y blynyddoedd o 1832 i 1835, ac wedi gorphen yr ymdrech fawr a chyffredinol hono, bu am flynyddau yn teithio bob tri neu bedwar mis trwy Forganwg, er cyffroi yr eglwysi i orphen dileu dyledion eu haddoldai. Ymwelai yn ei deithiau a'r lleoedd gwanaf yn gystal a'r rhai cryfaf, heb ddisgwyl na derbyn unrhyw dal ond y boddlonrwydd meddwl a fwynhai wrth wasanaethu ei enwad ac achos ei Arglwydd. Dilynai y cyfarfodydd misol a chwarterol, agoriadau capeli, urddiadau, &c., yn ddinag, ac yr oedd ei bresenoldeb yn fywyd i bob cynnulleidfa. Ni byddai yn ormod dyweyd iddo dreulio agos un ran o dair o'i holl fywyd, tra bu yn y weinidogaeth, yn ngwasanaeth cyhoeddus yr enwad y perthynai iddo, ac iddo wario canoedd o bunau o'i arian wrth wneuthur hyny. Cafodd wybod trwy brofiad fod llanw cylch uchel yn y weinidogaeth yn gostus iawn i gorph, meddwl, a llogell.