Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae genym farn uchel am ei grefydd bersonol. Buom ddegau o weithiau yn ei gyfeillach, a chawsom ef bob amser yn ddifrifol heb fod yn bruddaidd a sarug, ac yn llawn o sirioldeb heb fod un amser yn ysgafn a chellweirus. Prin y gallwn gredu fod yn bosibl i neb fod mor llawn o deimladau toddedig, a'r fath eneiniad ar ei gyflawniadau cyhoeddus, ag ydoedd yn nodweddu yr eiddo ef, heb ei fod yn dal llawer o gymdeithas ddirgel a'r Arglwydd. Yr oedd yn rhyfeddol o nefolaidd ei brofiad yn ei gystudd diweddaf. Y nos olaf y bu byw yr oedd un o'r brodyr yn ei wylied; clywai y dyn ef yn siarad, fel pe buasai yn ymddiddan a rhyw rai. Tybiodd y dyn ei fod yn syfrdanu ac atebodd ef yn ol fel yr oedd wedi deall ei ofyniad. Yn mhen ychydig dywedodd, "Yr oeddych chwi yn fy nghamddeall i; nid gofyn i chwi a oedd plant genych yr oeddwn i; ond yr oedd gyda mi dri o blant glandeg yr olwg arnynt, a gofyn yr oeddwn i'r plant pwy oeddynt, a dywedasant mai plant Duw oeddynt, a'u bod yn ymofyn am ŵr y tŷ i dd'od gyda hwynt, ac wrth ymadael dywedasant, Pan ddelom nesaf rhaid i chwi ddyfod gyda ni." Prydnawn dranoeth aeth Mrs. Morris a'i merch, Mrs. Morgans, i'w weled. Siaradodd ychydig a hwynt, ac yna aeth i geisio adrodd pennill. Gofynodd i Mrs. Morris pa beth oedd ei ddechreu, atebodd hithau.

"Ymado wnaf a'r babell Rwy'n trigo ynddi'n awr," &c.

Canodd y pennill gyda Mrs. Morris, ac adroddodd wrthi am y plant a welsai y nos o'r blaen. Yn fuan wedi i'r ddwy chwaer fyned allan o'r ystafell, gwelodd y plant eilwaith a dywedodd, "Oh, wel, y maent yn bedwar yn bresenol. Mae yn rhaid i mi gusanu Jenny a'r plant cyn dyfod gyda chwi, ac wrth ddyfod, rhaid i mi farw." Yn fuan ar ol hyny cusanodd ei briod a'i ddeg plentyn, a rhoddodd ei law dan ei ben gan gau ei lygaid ar y byd hwn, a'u hagoryd ar ryfeddodau byd yr ysbrydoedd.

Fel hyn y bu fyw a marw Daniel Griffiths. Yr oedd yn ddyn anghyffredin a rhagorol iawn. Nid ydym yn meddwl nac am adael yr argraff ar neb ei fod yn ddyn difai, ond pa ddyben fyddai ceisio chwilio am y beiau sydd wedi eu maddeu a'u taflu gan Dduw i for o angof. Meddyliwn am y rhinweddau oedd mor amlwg yn ei gymeriad, ac ymdrechwn eu hefelychu.

CAPEL SION, CWMAFAN.

Mae Cwmafan yn mhlwyf Llanfihangel-ar-afan, tua phum' milldir i'r de-ddwyrain o Gastellnedd. Cwmafan yw yr enw sydd ar y dyffryn oll o Aberafan i Bontrhydyfen, ond y mae aniryw fan gymoedd yn ymganghenu o hono, ac yn mysg eraill, y Cwmbychan, ac am mai yn y Cwm hwn y dechreuwyd cyfodi glo gyntaf yn yr ardal, wrth yr enw Cwmbychan yr adnabyddid yr holl le am flynyddau. Nid oedd dros o ddau gant i ddau gant a haner o drigolion yn yr holl blwyf cyn agor y gweithiau tua 1811, ac ni fu ar ol hyny fawr o gynydd hyd 1819, pryd yr adeiladwyd yma ffwrnais i doddi haiarn. O'r pryd hwnw hyd yn awr y mae y boblogaeth wedi cynyddu yn ddibaid, fel y mae y trigolion yn awr tuag wyth mil o rif. Yr oedd rhai o aelodau yr eglwys yn Maesyrhaf, Castellnedd, yn byw yn y plwyf hwn o oes i oes er's dros ddau cant o flynyddau, a byddai