Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweinidogion y lle hwnw yn pregethu yn achlysurol yn eu tai. Byddai Mr. Bowen yn dyfod yma yn fynych. Dechreuwyd cynal addoliad yma yn nhy Howell John tua'r flwyddyn 1819, ond nid ymddengys i achos rheolaidd gael ei sefydlu yn y lle cyn y flwyddyn 1821, pryd y daeth Mr. Hugh Owen o Abertawy yma i bregethu bob Sabboth. Dechreuodd ef ddyfod yma yn gyson yn mis Mai, 1821, ac yn Awst yr un flwyddyn corpholwyd yma eglwys. Bu amryw weinidogion yn gweinyddu ar yr achlysur. Yn nhy Howell John y cynhelid y moddion. Ebrill 8fed, 1822, urddwyd Mr. H. Owen yn weinidog yr eglwys ieuangc. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Howells, Baran; T. Davies, Abertawy; W. Jones, Penybont; D. Evans, Mynyddbach, a Jonathan Davies, Llanybri. Bu Mr. Owen yn llafurus iawn i adeiladu y capel yma yn 1824, ac i gasglu ato, ond gan ei fod ar dir Cwmni y gwaith ac heb un les, ac i'r gweinidog yn rhyw fodd ddigio Mr. Vigurs, y prif berchenog, bu raid iddo ymadael a'r lle yn 1828. Yn y flwyddyn 1830, rhoddwyd galwad i Mr. Lodwick Edwards, myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Medi 7fed a'r 8fed y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Penygraig; W. Thomas, Clydach; R. Howells, Baran; D. Griffiths, Castellnedd; J. Rowlands, Cwmllynfell; T. Davies, ac E. Griffiths, Abertawy; J. Williams, Ty'nycoed, ac eraill.[1] Bu Mr. Edwards yma yn barchus hyd y flwyddyn 1833, pryd y trodd i'r Eglwys Wladol. Yn y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. Robert Owen, Llanengan, sir Gaernarfon. Bu ef yma hyd y flwyddyn 1840. Ar ol ei ymadawiad ef bu yr eglwys am dymor yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, ac am ddwy flynedd dan ofal Mr. Davies, Cwmaman. Yn y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Roberts, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 24ain a'r 25ain yr un flwyddyn. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Williams, Hirwaun; holwyd y gweinidog gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. C. Jones, Dolgellau; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. Joseph Evans, Capel Sion. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. Davies, Bethania; D. Evans, Castellnedd; J. Davies, Cwmaman; W. Edwards, Aberdar; R. Fairclough, Ffestiniog; E. Jacob, Abertawy; H. Herbert, Drefnewydd; D. Williams, Aberafan, ac E. Griffiths, Abertawy.[2]

Mae Mr. Roberts wedi bod yma bellach am saith-mlynedd-ar-hugain, a thrwy yr holl dymor yn barchus a defnyddiol. Yn 1849, ailadeiladwyd y capel ac agorwyd ef Mai 20ed a'r 21ain, 1850, pryd y pregethodd Meistri Williams, Brynteg; Pryse, Cwmllynfell; Griffiths, Alltwen; Rees, Carmel; Edwards, Aberdar; Thomas, Glynnedd; Williams, Tredegar; Rees, Llanelli; Williams, Hirwaun, ac eraill. Mae y capel hwn yn adeilad helaeth a chyfleus, yn mesur 63 troedfedd wrth 42, ac yn cael ei lenwi gan gynnulleidfa fywiog a gweithgar.

Yn y flwyddyn 1852, gwnaeth Mr. Roberts ei hun yn gyhoeddus iawn, ac adnabyddus yn agos a phell, a chyflawnodd wasanaeth dirfawr i achos rhyddid crefyddol trwy ddynoethi ystrywiau un Mr. Biddulph a'i wraig, gyda golwg ar ysgolion dyddiol Cwmafan. Yr oedd, ac y mae yr ysgolion hyn yn cael eu cynnal ag arian y gweithwyr, a gedwir bob mis yn swyddfa

  1. Dysgedydd, 1830. Tu dal. 372.
  2. Dysgedydd, 1844. Tu dal. 251.