Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwaith. Pan aeth y gwaith i ddwylaw perchenogion y Bank of England, o herwydd fod y Cwmni wedi myned yn ddwfn i ddyled y Bank, gosododd awdurdodau y Bank un Mr. John Biddulph, mab-yn-nghyfraith y diweddar Mr. W. Chambers, Llanelli, yn arolygydd ar y lle. Mewn canlyniad i'r diwygiad nerthol a fu trwy yr holl le yn y flwyddyn 1849, yr oedd y capeli Ymneillduol o bob enwad yn orlawn, a'r eglwys, er lleied ydoedd, yn fwy na haner gwag. Barnodd Mr. Biddulph a'i wraig y gallasant ddefnyddio dylanwad eu sefyllfa yn y lle i wneyd tipyn o wasanaeth i'r Church of England, yn gystal a'r Bank of England; ac felly cysylltasant ysgolion y gwaith a'r National Society, a thrwy hyny gwnaethant hwy yn ysgolion hollol Eglwysig. Cyd-rhyngddynt hwy, yr offeiriad, a'r ysgolfeistr, dechreuwyd denu a gorfodi y plant i fyned i'r eglwys ar y Sabbothau, a cheisid yn mhob modd eu gwneyd yn eglwyswyr. Yr oedd achwyn cyffredinol trwy y gymydogaeth yn herwydd y peth, ac felly darfu i Mr. Roberts, trwy Mr. Kennedy, o Stepney, osod cwyn yn erbyn Mr. Biddulph ger bron pwyllgor llywyddol y Bank of England. Derbyniodd y gwyr hyny dystiolaeth un ochrog y cyhuddedig, a gwrthodasant chwilio i'r Yn ngwyneb hyn ysgrifenodd Mr. Roberts chwech o lythyrau i'r Morning Advertiser i ddynoethi y cwbl. Parodd y dynoethiad gynwrf mawr trwy yr holl wlad, ond yn enwedig yn Nghwmafan a'r gymydogaeth. Aeth Mr. Biddulph a'i is-swyddogion oddiamgylch i geisio cael gan y trigolion i lawnodi papyr yn gwadu y cyhuddiadau. Dywedai ef a'i blaid fod tua mil wedi ei lawnodi, ond y mae yn sicr fod canoedd wedi gwneyd hyny rhag ofn colli eu gwaith, a llawer mewn anwybodaeth o'i gynwysiad. Bygythiai Mr. Biddulph fyny symud Mr. Roberts o'r gymydogaeth, ond methodd yn ei amcan, trwy i'r gwaith fyned i ddwylaw y perchenogion gwreiddiol yn mhen ychydig ddyddiau, ac felly efe ac nid Mr. Roberts gafodd adael yr ardal. Cafodd Mr. Roberts ei gefnogi yn galenog yn ei ymdrech o blaid rhyddid crefyddol gan weinidogion Ymneillduol yr ardal yn gyffredinol, a chan filoedd o'r bobl, ond trodd rhai, hyd yn oed o aelodau ei eglwys ei hun, yn Judasiaid bradychlyd, gan obeithio y cawsant trwy hyny ryw fantais dymorol. Pa fodd bynag Mr. Roberts, ac achos rhyddid crefyddol, a gariodd y fuddugoliaeth; ac y mae yn debygol i'r frwydr boeth hon fod yn ddigon o rybudd i bob meistr gwaith a'i oruchwylwyr yn y parthau hyn, o hyny allan, i beidio ymyraeth a golygiadau crefyddol y gweithwyr a'u plant.

Mae eglwys Sion er's blynyddau lawer yn lluosog iawn ei haelodau, ac yn ganmoladwy am ei heddychlonrwydd, a'i gweithgarwch, a'i haelioni, yn enwedig gydag achosion cartrefol.

Ychydig yw rhif y rhai a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon, er lluosoced ydyw. Yma y dechreuodd William Morgan, yn awr o'r Llwyni, bregethu fel Annibynwr, ond yr oedd cyn hyny wedi bod am flynyddau yn pregethu yn mysg y Methodistiaid.

Zecharias Davies, oedd fab i Jenkin Davies, un o gychwynwyr yr achos yn y lle. Bu ef yn pregethu_am rai blynyddau, ond o herwydd ei ymddygiad yn y ddadl rhwng Mr. Roberts a Mr. Biddulph, rhoddwyd terfyn ar ei bregethu, ac yn mhen rhyw gymaint o amser wedi hyny bu farw yn ddisymwth iawn.

Mae Thomas Griffiths, aelod o'r eglwys hon, yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin. Nis gwyddom am neb arall a gyfodwyd i bregethu yma.