Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

LODWICK EDWARDS. Yr oedd ef yn enedigol o ardal Llangeitho. Yn yr Eglwys Sefydledig y cafodd ei ddwyn i fyny, ond o herwydd cael ei siomi yn ei ddisgwyliad am urddau yno trodd at yr Annibynwyr, ac urddwyd ef, fel y nodasom yn Nghwmafan yn 1830, ac yn niwedd 1833, ymadawodd a chafodd ei urddo yn offeiriad gan Esgob Llandaff. Bu am lawer o flynyddau wedi hyny yn offeiriad yn Rhymni. Y mae wedi marw er's deuddeg neu bymtheng mlynedd bellach. Yr oedd Mr. Edwards yn ddyn da, ac yn bregethwr derbyniol, a diau y gallasai dreulio ei holl oes yn barchus yn Nghwmafan, ond gan mai amgylchiadau, ac nid argyhoeddiadau, a'i dygodd i gysylltiad a'r Annibynwyr, nid ydym yn rhyfeddu iddo ddychwelyd i fynwes yr Eglwys Sefydledig.

ROBERT OWEN. Yr oedd yn enedigol o Lanfyllin. Cafodd ei urddo yn Bwlchtocyn, Lleyn, sir Gaernarfon, Medi 12fed, 1820. Dywedir iddo fod yn barchus a thra defnyddiol yn sir Gaernarfon am rai blynyddau. Yn 1834, symudodd i Gwmafan, a bu yn lled dderbyniol yma nes i'r eglwys a'r ardal gael allan nad oedd yn bucheddu yn deilwng o gristion. Wedi ymadael a Chwmafan bu am ychydig amser yn Carmel, Llansadwrn, ond er's rhai blynyddau cyn ei farwolaeth yr oedd wedi myned yn wrthodedig yn mhob man. Y mae wedi cael ei alw i roddi cyfrif o'i weithredoedd er's mwy nag ugain mlynedd bellach. Prin y mae cymeriad o'r fath yma yn haeddu sylw, ond gan ei fod ef a llawer eraill a grybwyllir gynym yn nglyn a gwahanol fanau, wedi bod mewn cysylltiad cyhoeddus a'r weinidogaeth, y mae cywirdeb hanesyddol yn galw arnom i wneyd rhyw gyfeiriad atynt

TABERNACL, ABERAFAN.

Mae yn ymddangos fod Mr. Hugh Owen, pan y dechreuodd yr achos yn Nghwmafan, yn bwriadu cychwyn achosion yn y Taibach ac Aberafan hefyd. Wedi adeiladu capel Sion, Cwmafan, yn 1824, dechreuodd adeiladu y Tabernacl yn Aberafan yn niwedd yr un flwyddyn, neu yn gynar yn y flwyddyn ganlynol. Yr aelodau yma ar gychwyniad yr achos oeddynt John Evans, Gwehydd, Aberafan, a Jane ei wraig; John Rees, a Demares ei wraig; Rees Madog, Cilygofid; Stephen Hughes, Taibach; William Griffiths, a hen wraig o gymydogaeth y Pil. Bu Mr. Owen yma yn gofalu am y ddeadell fechan hon am oddeutu deng mlynedd, ond nid ymddengys i nemawr o lwyddiant fod ar ei lafur, oblegid wyth oedd eu rhif yn y dechreu, ac wyth oeddynt, fel yr eneidiau yn yr Arch, ar ei ymadawiad ef oddiwrthynt.

Pan yr ymsefydlodd Mr. Daniel Evans yn Maesyrhaf yn 1837, efe a gymerodd ofal y praidd bychain yn Aberafan, ac yn dra buan tynodd ei ddoniau poblogaidd a'i ysbryd bywiog luaws i'w wrandaw. Lluosogodd yr eglwys yn mhen ychydig nes yr oedd yn chwech ugain o rifedi. Yn y flwyddyn 1843, cyfododd ymryson yma. Yr oedd Dafydd Williams, perchenog gwreiddiol y tir ar ba un yr oedd y capel wedi ei adeiladu, yn honi fod ugain punt o ddyled ar yr eglwys iddo ef. Gwrthodai Mr. Evans a'r eglwys wneyd un sylw o'i honiad, a'r canlyniad fu iddo ef gloi y capel yn eu herbyn. Aeth Mr. Evans a'r mwyafrif o'r aelodau, y rhai a gydwelent ag ef, i addoli i Neuadd y dref, ac yn fuan wedi hyny rhentiwyd