Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen gapel y Bedyddwyr, lle y buont hyd 1849, pryd yr adeiladwyd capel y Wern. Darfu i'r rhan o'r eglwys a arosasant yn y Tabernacl roddi galwadi Mr. David Williams, mab y gwr a gloisai y capel yn erbyn Mr. Evans a'r gynnulleidfa, ac urddwyd ef yma Tachwedd 22ain a'r 23ain, 1843. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri D. Jones, Clydach; T. Davies, Abertawy; D. Griffiths, Castellnedd; J. Davies, Castellnedd, a W. Morgan, Llwyni. Bu pethau yn lled lewyrchus yma am rai blynyddau, ond gydag amser gwywodd yr achos a bu agos a myned i'r dim cyn i Mr. Williams ymadael tua y flwyddyn 1855. Ar ol hyn bu y lle am tua blwyddyn dan ofal Mr. John Davies, Castellnedd. Wedi hyny, bu Mr. John Steadman yn weinidog yma hyd 1866, ond ni bu ond y peth nesaf i ddim o lwyddiant ar ei lafur yntau. Tua deuddeg o bersonau, neu lai, oedd rhif yr aelodau ar ei ymadawiad. Buwyd ar fedr rhoddi y capel at gychwyn achos Saesonig, ond drwy ryw amgylchiadau ni ddaeth yr amcan hwnw i ben; ac o'r flwyddyn 1866 hyd 1868, bu gweinidogion y gymydogaeth yn tori bara i'r ychydig aelodau yn fisol, a phregethwyr cynorthwyol yn eu gwasanaethu ar y Sabbothau eraill, ond am y rhan fwyaf o'r ddwy flynedd hyn nid oedd un math o foddion yn cael ei gadw yma ond pregethu ar brydnawn Sabboth. Yn Mai 1868, penderfynwyd rhoddi galwad i Mr. Richard Morgan, pregethwr cynorthwyol yn eglwys y Wern, Aberafan. Gan fod Mr. Morgan yn alluog i fyw heb ymddibynu ar yr hyn a dderbyniai oddiwrth y bobl, cydsyniodd a'r alwad, ac urddwyd ef yma Tachwedd 1af, 1868, pryd y pregethodd Dr. Rees, Abertawy; J. Mathews, a J. Roberts, Castellnedd; E. Roberts, a W. Thomas, Cwmafan; G. Jones, Cefncribwr, a W. Morgan, Llwyni. Pan ymgymerodd Mr. Morgan a gofal y lle yn Mai, 1868, aed i'r draul o 160p. i adgy weirio y capel, a chynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad a'r urddiad yr un dydd. Sefydlodd Mr. Morgan Ysgol Sabbothol yma, a chasglodd 67 y Sabboth cyntaf. Darfu iddo hefyd ffurfio Band of Hope, a chyn pen chwe' mis ar ol ei urddiad yr oedd yr ysgol yn rhifo 150, ac yn mhen y deuddeg mis o ddechreuad ei weinidogaeth yr oedd 53 o aelodau newyddion wedi uno a'r tri brawd a'r naw chwaer oeddynt yn llawnodi yr alwad iddo. Yn nechreu y flwyddyn 1870, gan fod y capel wedi myned yn rhy tychan i gynwys y gynnulleidfa, penderfynodd yr eglwys ei dynu i lawr, ac adeiladu un newydd a helaethach o lawer. Gorphenwyd y capel newydd ac agorwyd ef Hydref 29ain a'r 30ain, a Tachwedd 2il, 1871, pryd y pregethodd Meistri J. Mathews, Castellnedd; D. Jones, B.A., Merthyr; T. Davies, Siloa, Llanelli; R. W. Roberts, Ystradgynlais, a Dr. Rees, Abertawy. Nid oes achos dymuno harddach addoldy na hwn. Mae yn mesur 46 troedfedd wrth 38 tu fewn i'r muriau, ac er prydferthed adeilad ydyw, nid yw wedi costio llawn 900p. Mae yr achos hwn, ar ol bod i fyny ac i lawr amryw weithiau, yn awr a golwg llawer mwy gobeithiol arno nag a welwyd erioed o'r blaen. Rhif yr aelodau yn bresenol yw 120.

Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, Castellnedd, dechreuodd un George Lewis bregethu yma. Symudodd i Borthycawl, ac yno ymunodd a'r Bedyddwyr. Cyfodwyd yma dri i bregethu yn 1870, sef David Francis, yr hwn sydd wedi ymfudo i America; Isaac Evans, mab John Evans, un o'r Annibynwyr cyntaf yn y lle, a Theophilus Davies. Mae y ddau olaf yma yn awr, ac yn debyg o fod yn gynorthwywyr derbyniol a defnyddiol.[1]

  1. Llythyr Mr. R. Morgan,