Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

HUGH OWEN. Ganwyd ef yn ardal y Waunfawr, sir Gaernarfon. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Dechreuodd grefydda a phregethu, fel yr ymddengys, gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn amser y diwygiad grymus a ddechreuodd yn sir Gaernarfon tua 1817, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf selog a thanllyd. Daeth ar daith i'r Deheudir, ac yn rhywle yn sir Benfro gadawodd y Methodistiaid ac ymunodd a'r Annibynwyr. Bu am ryw faint o amser yn yr ysgol yn Aberdaugleddyf. Yn 1818, priododd wraig weddw, yr hon a gadwai y tafarndy Black Cock yn Abertawy, a daeth yno i fyw. Yn mhen ychydig amser wedi hyny aeth i'r Taibach, Aberafan, a Chwmafan i bregethu, ac wedi corpholi eglwys yn Nghwmafan, urddwyd ef yno ar yr amser a grybwyllwyd eisioes. Bu yn gweinidogaethu yn Nghwmafan, ac wedi hyny yn Aberafan, hyd y flwyddyn 1832, neu 1833, pryd yr ymadawodd a'r lle. Ar ol hyny bu am ryw faint o amser yn weinidog yn Leominster, yn sir Henffordd. Tua 1836, dychwelodd i Gymru, ond ni bu un eglwys mwyach dan ei ofal. Yn 1836, cyhoeddodd ddwy bregeth ar Ioan x. 17., a'r xxviii. 17.

Yroedd Hugh Owen yn bregethwr synwyrol ac yn ysgolhaig gweddol dda. Yr oedd yn ddyn gweithgar a llafurus; ond yr oedd ynddo ddiffygion pwysig a anafent ei ddefnyddioldeb yn mhob man yr elai iddo. Mae yn ymddangos nad oedd yn gwbl rydd oddiwrth bechod oedd yn rhy gyffredin yn mysg pregethwyr ei oes ef, sef diotta, ond trwy briodi tafarn wraig gosododd ei hun mewn perygl yehwanegol i fyned yn ysglyfaeth i'r "pechod oedd barod i'w amgylchu." Yn ychwanegol at hyny, yr oedd rhywbeth yn anserchus yn ei dymer, fel nad allai fyw mewn heddwch a phobl. Gorfu iddo, fel y gwelsom, ymadael a Chwmafan o herwydd cweryla a meistr y gwaith, a digwyddodd yr un peth rhyngddo a goruchwyliwr Mr. Talbot, yr hwn mewn canlyniad a ddywedodd na chawsai yr Annibynwyr fodfedd o dir at adeiladu capel yn y Taibach tra y buasai efe byw, a safodd at ei air. Bu farw Hugh Owen yn nhŷ Mr. Lewis Lloyd yn Abertawy yn y flwyddyn 1840. Yr ydym yn tybied ei fod yn amser ei farwolaeth o wyth a deugain i haner cant oed. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Efan, Abertawy.

WERN, ABERAFAN.

Yr ydym wedi dilyn hanes dechreuad yr eglwys hon yn nglyn a'r achos yn y Tabernacl hyd Sabboth, Mehefin 18fed, 1843, pan y clowyd y capel yn erbyn Mr. Daniel Evans, y gweinidog, a'r gynnulleidfa. Yn briodol, yr eglwys hon ydyw yr olyniad rheolaidd o'r eglwys hono, oblegid mai yma yr oedd mwyafrif yr aelodau. Nid arosodd ond 30 ar ol yn yr hen gapel, pryd y daeth 67 allan gyda Mr. Evans. Sabboth a hir gofir oedd y Sabboth hwnw; ac nis gellir edrych ond gyda dirmyg ac anghymeradwyaeth hollol ar y rhai oedd a fynent yn uniongyrchol a'r weithred. Pan aeth Mr. Evans a'r gynnulleidfa fel arfer at y capel y prydnawn Sabboth hwnw, cawsant y drws wedi ei gloi; ond er ei bod yn ddiwrnod gwlawog, safodd Mr. Evans mewn certwyn yn ymyl hen goeden-boncyff yr hon sydd i'w weled etto-a phregethodd i'r bobl gyda hwyl nodedig. Erys adgofion yr oedfa ar feddyliau llawer oeddynt yn bresenol hyd y dydd heddyw.