Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cadwyd cyfarfod gweddi y noson hono mewn tŷ anedd a elwid y Felindre, ac yno y cynhelid y cyfeillachau wythnosol am fwy na phedwar mis. Cymerwyd Neuadd y dref (Town Hall,) i gynal y moddion cyhoeddus, ac ymgynnullai lluaws mawr i wrando, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Ar ol bod yn Neuadd y dref yn addoli am bedwar mis, cymerwyd Moriah, hen gapel i'r Bedyddwyr, dan ardreth flynyddol. Aeth yr achos rhagddo yn llwyddianus, a gweinidogaeth Mr. Evans yn dra chymeradwy, ac undeb brawdol yn yr eglwys, ac ar ol y diwygiad grymus a gafwyd yn 1849, yr oedd capel Moriah yn llawer rhy fychan, fel y penderfynodd yr eglwys gael capel newydd. Cafwyd darn o dir ar brydles, am chwe phunt y flwyddyn o ardreth, gan Mr. Samuel Bamford, yn y pen gorllewinol i'r dref, a galwyd ef y Wern. Dyddiad y weithred yw Ionawr 1af, 1850. Ymgymerodd Mr. Bamford ag adeiladu y capel, ac agorwyd ef y Mercher a'r Iau olaf yn Medi, 1850. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Bryn, J. Hopkins, Drefnewydd; J. Steadman, Mumbles; H. Rees, Ystradgynlais; J. Thomas, Glynnedd; R. Pryse, Cwmllynfell; T. Davies, Treforis; O. Owens, Brynmenyn; D. Davies, Rhiadr; E. Evans, Hermon; P. Griffiths, Alltwen; J. Thomas, Graig; J. D. Williams, Penybont; E. Jacob, Abertawy; J. Bowen, Pendaran; J. Rees, Carmel; J. Thomas, New York, a T. Thomas, Clydach.[1] Yr oedd yn gapel helaeth a chyfleus, yn mesur 48 troedfedd wrth 40 troedfedd. Llafuriodd Mr. Evans yma gyda chymeradwyaeth a mesur o lwyddiant hyd derfyn ei oes; er iddo gael llawer o ofid oddiwrth rai personau. Fel y crybwyllasom yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Maesyrhaf, Castellnedd, medrai ddyweyd ymadroddion llymion, miniog, a chyrhaeddgar, y rhai a frathent hyd yr asgwrn; a thywalltai gawodydd o ymadroddion gwawdlym y fath ag a orfodai y rhai y disgynent arnynt i deimlo oddiwrthynt. Nid oedd yr ymadroddion hyny hwyrach yn gwneyd dim lles iddo; ond y fath oedd ei gasineb at dwyll, a rhagrith o bob math, yn enwedig at anhyweithdra mewn dynion ar enw crefydd, fel nas gallasai eu goddef. Digwyddodd iddo glywed am un o'r dynion hyn oedd ar un adeg yn yr eglwys dan ei ofal yn y Wern; a chlywsai ei fod yn cynllwyn yn ei erbyn, ac yn ceisio casglu plaid yn ddirgelaidd i'w godi ymaith; a phenderfynodd weinyddu cerydd arno mewn dull nas gallasai gamgymeryd ei ystyr. Wrth fyned o'r capel un noswaith, galwodd y dyn o'r neilldu, ac wedi ysgwyd llaw ag ef dywedai wrtho, yn ddystaw ac yn gyfeillgar, fel y gallesid tybied—"Hwn a hwn, os gwyddoch chwi am rhyw ddyn bach yn yr eglwys yma sydd wedi blino arna' i, ac am fy nghael i oddiyma—mae dynion felly i'w cael chi wyddoch na bydd neb wrth eu bodd yn hirdywedwch wrtho mai gwell iddo fyned i Benrhiw, ac aros yno dipyn; a phan y bydd e wedi blino yno-waeth mae e yn siwr o flino, fedr dynion anhywaeth ddim bod yn hir yn unman-gall fyn'd i fyny at Mr. Roberts i Gapel Sion i'w threio hi yno, ac wedi iddo flino yno, a methu llwyddo i'w gyru hi yn ddrwg rhwng Mr. Roberts a'r eglwys, fe all dd'od yn ol yma atom ninau am dipyn. Mi fyddai i yma wedi hyny-waeth dwy i ddim yn meddwl myned oddiyma. Nos da i chwi," ac ymaith ag ef. Yr oedd yn dywedyd y cwbl mor gyflym a chyffrous, fel na chai y dyn hamdden i wthio gair i mewn; ond teimlai rhyw lais oddifewn iddo yn dywedyd, "Tydi yw y gwr." Bu rhai o'r dynion hyn o gryn ofid iddo

  1. Diwygiwr, 1860. Tu dal. 376.