Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er hwyrach y gallasai gydag ychydig o hunan lywodraethiad a hynawedd regflaenu llawer o hono.

Yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Evans, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Job Jones, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Rhagfyr 5ed a'r 6ed, 1860. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin; holwyd y gweinidog gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Thomas, Bryn, Llanelli; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Cymerodd amryw weinidogion eraill ran yn oedfaon y dydd. Ni bu tymor Mr. Jones ond byr yma; ond yn yr ysbaid byr hwnw bu yn nodedig o dderbyniol a chymeradwy, ac yr oedd yr adeg hono yn wresog ar grefydd yn y wlad. Gorfodwyd ef gan sefyllfa ei iechyd yn gynar yn yr haf dilynol i fyned adref i dŷ ei rieni, ac ni ddychwelodd yma mwy. Gwanychodd yn raddol, a bu farw Medi 29ain, 1861, yn 27 oed. Bu yr eglwys am fwy na dwy flynedd ar ol hyn yn amddifad o weinidog, ond er hyny ni bu na segur na diffrwyth. Yn nghyfarfod Jubili taliad dyled y capel a gynaliwyd yma Rhagfyr 16eg, 1862, dangosodd yr ysgrifenydd fod yr eglwys wedi casglu at ddyled y capel o'r flwyddyn 1849 hyd y cyfarfod hwnw 993p. 7s. 5c., heb gyfrif yr hyn a wnaed at gynhaliaeth yr achos yn y lle, ac at achosion cyhoeddus y tu allan. Yn Gorphenaf, 1863, derbyniodd Mr. John Garibaldi Thomas, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, alwad gan yr eglwys; a chynaliwyd cyfarfodydd ei urddiad y dyddiau olaf o fis Rhagfyr y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Evans, Sciwen; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan ei frawd Mr. W. Thomas, Gwynfe; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Davies, Aberaman, (dan weinidogaeth yr hwn y dechreuodd Mr. Thomas bregethu); ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol yn cymeryd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd, heblaw nifer fawr o fyfyrwyr Caerfyrddin ac Aberhonddu. Dechreuodd Mr. Thomas ei weinidogaeth yma dan amgylchiadau tra ffafriol. Yr oedd masnach yr ardal yn fywiog, a'r eglwys yn llawn o ysbryd gweithio; ac yn haf 1864, penderfynwyd adgy weirio y capel, ac adeiladu ysgoldy helaeth gerllaw iddo, lle yr addysgir y plant ar y Sabboth, ac y cynhelir y moddion wythnosol, a chostiodd y cyfnewidiadau a'r ad-drefniadau agos yr un faint ag a gostiodd adeiladu y capel ar y dechreu. Ail agorwyd ef Awst 6ed a'r 7fed, 1865, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri E. G. Jones, o athrofa Caerfyrddin; J. M. Thomas, Wyddgrug; E. Evans, Treforis; S. Davies, Aberdar, a T. Rees, D.D., Abertawy. Parhaodd yr eglwys i fyned rhagddi yn llwyddianus, fel cyn diwedd y flwyddyn 1866, yr oedd rhif yr aelodau yn 300. Yn Mai, 1867, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol ar gyfer y Saeson yn Neuadd y dref, gan feddwl y pryd hwnw am sefydlu achos Seisnig yn y lle, ond dyryswyd yr amcan hwnw a hyny pan oedd y rhagolygon yn addawol iawn.[1] Yn haf 1868, cyflwynwyd Tysteb i Mr. Thomas gan yr eglwys am ei ffyddlondeb gyda'r achos yn y lle; ac yn enwedig fel cydnabyddiaeth o'u parch idlo am ei waith yn sefyll mor wrol o blaid iawnderau yr Ymneillduwyr pan y ceisid gosod iau drom ar eu gwarau yn mrwydr hir gofiadwy y "lle claddu newydd." Cyflwynwyd yr anrheg i Mr. Thomas, dros yr eglwys a chyfeillion y tu allan, gan yr hen

  1. Ysgrif Mr. J. G. Thomas, Aberafan